Roedd y plant a'r athrawon wedi gwisgo mewn dillad melyn a dosbarthwyd bananas Masnach Deg gan Siop Pioneer Rhydaman.
Derbyniwyd y Dystysgrif oddi wrth Sefydliad y Fairtrade gan Faer Rhydaman Mr David Roberts. Yn bresennol roedd Adam Price - Aelod Seneddol, Phil Broadhurst - Oxfam, Tom Dafis - Cymorth Cristnogol, Mr T. Williams - Rheolwr Pioneer a Mr Dewi Price ynghyd 芒 nifer o bobol leol.
Bydd taflen yn cael ei pharatoi erbyn Pythefnos Masnach Deg a fydd yn cael ei gynnal fis Mawrth nesaf gydag enwau'r busnesau, mudiadau, ysgolion, eglwysi a chapeli fydd yn cefnogi Masnach Deg yn yr ardal.
Erthygl gan Annette Hughes
 |