1949
Noson Lawen Hen adloniant Cymreig mewn cyfrwng newydd, gyda Thriawd y Coleg a Bob Roberts Tairfelin Daeth y 'Noson Lawen' o Fangor fel chwa o awyr iach i fyd darlledu yng Nghymru yn y tridegau a'r pedwardegau. Rhaglen werinol Gymraeg mewn môr o Saesneg. Sam Jones, Pennaeth cyntaf ³ÉÈË¿ìÊÖ Bangor, oedd wrth y llyw, a'i frwdfrydedd egnïol ef a berswadiodd dalentau Coleg Bangor a thalentau cefn gwlad Cymru i gymryd rhan. Llwyddodd i gyfleu naws y ffordd wledig o fyw i gannoedd o wrandawyr ar hyd a lled y wlad. Ym 1949 ffilmiwyd stori o dan y teitl "Y Noson Lawen" a gwelwyd ymhlith eraill ar y sgrîn, 'Triawd y Coleg' a'r dihafal Bob Roberts Tairfelin.
Clipiau perthnasol:
O Babi ar ei Brifiant darlledwyd yn gyntaf 12/11/1985
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|