1975
Gwenlyn Parry Y dramodydd yn cofio helyntion creu un o gyfresi enwoca'r Gymraeg Ganwyd Gwenlyn Parry (1932 - 1991) yn Neiniolen ger Caernarfon. Aeth i'r Coleg Normal, Bangor. Fe gafodd gyfle tra'n dysgu yn Llundain i ymddiddori yn y theatr, ac wedi dychwelyd i Gymru daeth i'r amlwg fel dramodydd a llenor. Ymunodd â'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ac yno bu'n cynhyrchu dramâu ac yn golygu sgriptiau. Rhydderch Jones a Gwenlyn Parry yw'r awduron comedi mwyaf llwyddiannus yn hanes darlledu yng Nghymru. Camp o syniad oedd cyfuno tafodiaith De a Gogledd a rhoi'r ddau o dan yr un to yn y gyfres Fo a Fe. "Dim ond hogi pensiliau fydde Rhydderch," meddai Gwenlyn, gan chwerthin wrth iddo sôn am ysgrifennu'r gyfres.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Tu ôl i'r Meic darlledwyd yn gyntaf 15/08/1975
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|