成人快手

Bet Jones: Gadael Lennon

Rhan o glawr y llyfr

Adolygiad Ian Gill o Gadael Lennon gan Bet Jones. Lolfa. 拢6.95

Ers i'w thad golli'i waith fel chwarelwr ym Mhen Ll欧n wyth mlynedd yn gynharach, bu prif gymeriad Gadael Lennon - Beti Huws - yn byw yn Lerpwl efo'i rhieni.

Clawr 'Gadael Lennon'

Erbyn hyn, sef 1967, a hithau'n 15 oed, mae Liz (fel ma'r sgowsars yn 'i galw hi) yn dechrau cael 'i thraed o dan'i; a fel pawb arall, 'di gwirioni ar y Beatles a'r ddinas.

Pawb arall, hynny yw, ond Megan, ei mam. Am wn i fod yr awdur wedi llunio strwythur y nofel cyn mynd ati i'w sgwennu - ac wedi penderfynu glynu at y cynllun gwreiddiol hwnnw, doed a ddelo.

Y stori go iawn

Dwi'n deud hyn oherwydd pe bai Bet Jones wedi bod yn ddigon dewr a mentrus i ddilyn ei thrwyn yn ystod y broses o sgwennu, dwi'n si诺r y bydda hi'n cytuno 芒 mi mai'r stori go iawn o fewn y nofel yw'r berthynas a'r tensiynau rhwng y ferch sy'n arddel y bywyd dinesig, modern, a'r fam, sy'n methu'n glir ag ymdopi 芒'r newid byd.

Yn anffodus nid yw'r gwrthdaro yma'n cael cyfle i danio.

Gydol y nofel, mae Megan yn cael ei gorfodi i'w gwely gan byliau o iselder tra bo Beti'n dechrau cysidro pob math o bethau - o wyneb strydoedd Toxteth i ymweliadau cyson Nain Cae'r Delyn 芒 sbyty'r Royal- cyn iddi benderfynu'n gyfleus: "does dim amser i feddwl am bethau felly".

Pam, 'lly?
Am nad oedd y pynciau hynny'n ffitio'n daclus i'r cynllun gwreiddiol, tybed? Yn hytrach na chaniat谩u i'w phrif gymeriadau osgoi'r naill a'r llall drwy'r amser, 'swn i 'di bod yn hapusach gweld yr awdur yn sodro'r ddwy'n y gegin efo pot o de, a gweld a fyddai pynciau fel hunaniaeth, Cymreictod, rhyw ac yn y blaen, yn codi 'u pennau'n fwy naturiol.

Gwaith golygu

Mae'n bosib iawn fod y fersiwn cywir o Gadael Lennon eto i ddod. Petai hynny'n digwydd, rhaid sicrhau golygu manylach cyn argraffu.

Nid yn unig i chwynnu'r brychau ieithyddol e.e 'papur papuro', ond hefyd i wrando ar lif y sgwennu a thynnu sylw'r awdur at yr hyn sy'n glogyrnaidd ac anghytsain.

Ar dudalen 20, daw'r cymal, "torrodd llais cigydd ar draws fy meddylia". Wedyn, ar dudalen 31, cawn "torrodd llais rhyw ddynas nobl ar draws fy meddylia"; ac eto fyth ar dudalen 75,"torrodd llais Nicola Burns...ar draws fy meddylia"!

Piti na fyddai llais golygydd wedi torri ar draws mynegiant ailadroddus yr awdur o bryd i'w gilydd.

Allwn i ddim coelio i'r awdur a'r golygydd ganiat谩u i'r gosodiad "Bu'r tymor cynta yn Ysgol Birchfield yn amser anodd iawn, iawn" gael ei ddilyn gwta bum brawddeg yn ddiweddarach gan, "Do'n i ddim isio meddwl mwy am y nyddiau cyntaf yn Ysgol Birchfield. Roedd o wedi bod yn gyfnod anodd iawn, iawn."

Gweledigaeth

Ai ddim ati i'ch diflasu 芒'r holl enghreifftiau eraill ond, i fod o ddifri, ddaru rywun ddarlen hon cyn ei gyrru i'r wasg?

Yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, clywais Mr Elwyn Jones yn cael ei holi ar raglen radio Gwilym Owen yn ddiweddar ac wrth amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol, yn pwysleisio'r angen am "olygyddion creadigol".

Wel, Mr Jones, os yw'r nofel hon yn esiampl o'r math o beth sy'n llithro drwy'r rhwyd ar hyn o bryd - rhaid torchi llewys gorau po gyntaf . . .


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.