|  |
 |
 |
 |
 |
 |
|
 |
Bet Jones yn sgwrsio Awdur 'Beti Bwt' yn sgwrsio gyda Dei Tomos
Adref, ar y teledu, yr oedd Bet Jones, awdur Beti Bwt yn gwrando ar feirniadaeth cystadleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 2008.
Ac yn diolch, meddai, fod ganddi ffugenw i guddio tu 么l iddo!
Hwn, meddai oedd y tro cyntaf erioed iddi sgrifennu a chystadlu.
Canmoliaeth Ac er nad enillodd derbyniodd ei nofel am blentyndod ganmoliaeth nid yn unig gan y beirniaid ond hefyd gan adolygwyr ers ei chyhoeddi ar 么l yr Eisteddfod.
Bu Bet Jones yn siarad am ei y llyfr a'i gefndir gyda Dei Tomos ar ei raglen radio nos Sul, Mehefin 15, 2008.
"Fe'i disgrifiodd fel "hanner hunangofiannol" ac wedi ei leoli ym mro ei phlentyndod, Trefor - neu Hendra - ger Caernarfon.
"Mae yna dipyn dod o'r cof ond fy mod i wedi eu lliwio nhw rywfaint er mwyn cael stori," meddai.
Bwlio Elfen yn y llyfr a ganmiolwyd yn fawr gan un o'r beirniaid oedd y darlun o fwlio ond dywedodd Bet Jones na chafod hi ei bwlio ond bod yna 'Blydi Dinah Smith' yn ei hysgol hithau.
"Yr oedd yna rywun oedd gen i hofn i ac roedd hi'n h欧n a chanddi'r arferiad o wneud y ngwallt i efo llechan ac roeddwn i hofn hi'n ddychrynllyd," meddai.
Gweld corff Digwyddiad "dychmygol i gyd" yw un arall yn y nofel meddai am fynd i weld corff a dwyn rhosod ar y ffordd.
"Yr oedd yn dal yn arferiad gan hen bobol i fynd i weld cyrff a dwi'n cofio pan oeddwn i'n llai na chwech oed - tua thair - mae gen i frith gof o gymeriad yn Nhrefor oedd yn fy ngwarchod i'r diwrnod hwnnw ac yn mynd a fi i weld corff rhywun oedd yn ei harch mewn ffrog briodas a dwi'n meddwl fod hwnnw wedi cael effaith arnaf i ar y pryd achos roeddwn i'n claddu fy noliau mewn bocsys sgidia wedyn ," meddai.
Newid Ar gyfer y nofel a gyhoeddwyd dywedodd iddi dymheru ambell i ddigwyddiad oherwydd i'r beirniaid ddweud iddi or-ysgrifennu ambell i beth.
Newidiodd ddiwedd stori'r teledu, meddai, ond mewn gwirionedd malwyd y teledu dan sylw yn deilchion.
Disgrifiodd ei phlentyndod fel un hapus ymhlith pobl gyda balchder a lle'r oedd mynd i ddyled yn destun ofn.
Yr oedd hefyd yn gyfnod o falchder mawr mewn addysg i blant ac yn gyfnod cymdogol o ddrysau yn agored.
Pan ofynnwyd iddi a fydd dilyniant i Beti Bwt dywedodd:
Mwy i ddod?
"Mi rydw i wedi gwneud dipyn bach o dwll i mi fy hun fy mod wedi gorffen [y nofel] yn Lerpwl. Mi fuasai raid gwneud dipyn o ymchwil ond mi fuaswn i'n hoffi ysgrifennu eto os gwnaiff yr amser ganiat谩u," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Bet Jones

Beti Bwt - adolygiad Meg Elis

|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|
|