成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llusern
Gwasanaeth Addoli yn yr ysgol
Y ddadl gwasanaethau crefyddol mewn ysgolion - barn athrawes a disgybl
"Mae addoli yn gofyn am ffydd ac os nad oes ffydd gyda nhw dydy hi ddim yn iawn gofyn iddyn nhw addoli" - athrawes addysg grefyddol.

Bu athrawes mewn ysgol yn Lloegr yn siarad am yr arfer yno yngl欧n 芒 mynychu gwasanaethau crefyddol ar Bwrw Golwg, Ionawr 18 2008.

Ar yr un rhaglen yr oedd Carwyn Siddall sydd yn fyfyriwr ym Mangor ac wedi cael budd o fynychu gwasanaethau crefyddol pan oedd yn yr ysgol yn Llangefni.

Mae Rachel Gooding yn athrawes addysg grefyddol yn Lerpwl ers 12 mlynedd ac fel ag yng ngweddill ysgolion Lloegr does dim gorfodaeth ar ddisgyblion chweched dosbarth fynychu gwasanaethau crefyddol - yr union drefn y mae'r Gweinidog addysg am ei chyflwyno yng Nghymru.


"Dwi'n meddwl fod hynny'n iawn achos maen nhw'n oedolion erbyn y Chweched Dosbarth a dwi'n meddwl y byddai mwy o barch gyda nhw dros Gristnogaeth os nad ydi Cristnogaeth yn eu gorfodi nhw i wneud rhywbeth nad ydyn nhw eisiau'i wneud," meddai Rachel Gooding.

Ond ychwanegodd bod lle i ysgol ddysgu pobl ifanc am grefydd a rhoi cyfle iddynt siarad am Gristnogaeth a chael ymaelodi a chlybiau crefyddol.

"Ond mae hynny yn gwbl wahanol i ofyn i bobl ifainc wneud rhywbeth nad ydyn nhw yn hapus gydag e," meddai.

Dysgu a thrafod
"Dwi'n meddwl bod r么l gan yr ysgol i ddysgu pobl ifanc . . . am bob math o grefyddau gan gynnwys Cristnogaeth a dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi cyfleoedd i bobl ifainc fedru siarad am Gristnogaeth ac os ydyn nhw eisiau perthyn i rhyw glwb fel Undeb Cristnogol. ac yn y blaen.

"Ac mae'n bwysig bod y pethau yma yn cael eu trafod ond mae hynny'n gwbl wahanol i ofyn i bobl ifainc wneud rhywbeth nad ydyn nhw yn hapus gydag ef . . ." meddai.

"Dydw i ddim yn meddwl y dylem ni orfodi pobl ifainc i addoli o gwbl os ydyn nhw ddim eisiau ond rhoi y cyfle."

Dywedodd nad oes gwasanaeth o gwbl yn ei hysgol hi ond cyfarfodydd gyda gweddi a bod rhai yn dewis mynd eraill ddim ond ychwanegodd ei bod yn bwysig cynnig y dewis.

Beth mae pobl ifainc ei eisiau?
Ac fel athrawes addysg grefyddol dywedodd iddi ganfod nad yw pobl ifainc eisiau i athrawon ddweud wrthyn nhw beth i'w gredu.

"Mae hynny'n dod ar draws yn eglur iawn ond y mae pobl ifainc yn barod i drafod crefyddau a thrafod beth maen nhw'n feddwl . . a dwi'n meddwl ei bod yn bwysig rhoi cyfle iddyn nhw wneud hynny a dyna pam ydym ni yn cael addysg grefyddol yn ein hysgolion - i gael pobl ifainc i feddwl am y pethau yma ond dydi hynny ddim yr un peth a dweud wrthyn nhw addoli achos mae addoli yn gofyn am ffydd ac os nad oes ffydd gyda nhw dydy hi ddim yn iawn gofyn iddyn nhw addoli," meddai.

Barn myfyriwr
Dywedodd Carwyn Siddall sy'n astudio Cymraeg a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor ei fod e'n gweld yr achlysur fel cyfle i drafod problemau cyfoes fel rhyfeloedd ond ychwanegodd na ddylid "mynd ar 么l yr ochr draddodiadol i wasanaeth".

Ond fe'i hystyriai'n bwysig bod "rhyw fath o elfen grefyddol" yn rhan o'r gwasanaeth gan mai dyna, yn ei farn ef, y mae llawer o blant yn ei gael gan nad ydynt yn mynychu lleoedd o addoliad mwyach.

Ond rhybuddiodd rhag mynd "yn rhy ddyfn" wrth drafod pynciau.

Carwyn Siddall "Does dim eisiau mynd yn rhy ddyfn - jyst neges syml sydd yn cael ei chyflwyno yn y Beibl. Codi ymwybyddiaeth y disgyblion bod y neges yn cael ei chyflwyno yn y Beibl - megis caru'n gilydd a bod yn ffrindiau efo pawb," meddai.

Soniodd am "negeseuon sylfaenol" sy'n bwyig i gymdeithas.

Ei neges i Jane Hutt, y Gweinidog addysg, oedd i ystyried "yn fawr iawn" cyn penderfynu gwahardd ond "parhau i gael y chweched dosbarth yno . . . i fod yn esiampl i weddill yr ysgol," meddai.

  • Rhagor am y ddadl gwasanaethau ysgolion


  • Carwyn Siddall - pregethu yn yr ysgol

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy