Roedd yr Eidalwr wedi cael ei wahardd gan yr FIA am oes ar 么l cael ei ganfod yn euog o dwyllo yn ystod Grand Prix Singapore yn 2008. Cafwyd t卯m Renault yn euog o gynllwynio gyda'i gyrrwr Nelson Piquet Jr i greu damwain bwriadol er mwyn galluogi eu cyd-yrrwr Fernando Alonso i ennill y ras. Enillodd Alonso ar 么l iddo fwynhau mantais amlwg ar 么l iddo ail-lenwi ei gar eiliadau cyn i ddamwain Piquet orfodi'r car diogelwch i ymddangos. Yr oedd Briatore, ynghyd 芒'r cyfarwyddwr peiriannau Pat Symonds gafodd ei wahardd am bum mlynedd, eisoes wedi gadael Renault. Roedd Briatore wedi dadlau yr oedd y gosb y derbyniodd gan gorff llywodraethol moduro fis Medi y llynedd yn anghyfreithlon.
 |