Tynnodd asgellwr Lloegr ei linyn gar yn ystod hanner cyntaf buddugoliaeth Lloegr dros Ffrainc yn y rownd gyn derfynol y Sadwrn diwethaf.
Cadarnhaodd sgan fore Llun na fydd yn holliach mewn pryd i wynebu De Affrica yn y Stade de France.
"Bydd hi'n ergyd iddo fe, ond bydd siom un dyn yn rhoi cyfle i un arall," meddai ei gyd chwaraewr Lawrence Dallaglio.
Roedd Lewsey yn aelod o garfan Lloegr enillodd y gystadleuaeth yn 2003, ac mae'n colli'r cyfle i fod yn rhan o'r t卯m cyntaf i amddiffyn eu coron yn llwyddiannus.
Mae'n debyg y bydd hyfforddwr Lloegr, Brian Ashton yn dewis rhwng Mark Cueto neu Mathew Tait i wynebu'r Springboks.
 |