> adroddiad y g锚m
Sg么r Terfynol: Trinidad a Tobago 0-0 Sweden
90 mun: Mae Trinidad a Tobago yn haeddu parch mawr am beidio ceisio amddiffyn trwy gydol yr ail hanner wedi iddynt fynd i lawr i 10-dyn, yn wir, mae Cornell Glenn yn parhau i ganfod bylchau tu 么l i amddiffyn Sweden.
86 munud: Pedwar munud yn weddill ond mae Dennis Lawrence i'w weld wedi anafu ac yn hercian o amgylch y cwrt cosbi - mae ewinedd cefnogwyr Trinidad a Tobago i lawr i'r byw!
80 mun: Llwyddodd Rami Shaaban i bwnio'r b锚l yn glir o dan bwysau gan Dennis Lawrence ac ar ben arall y maes cafwyd tacl bendigedig gan Carlos Edwards ar Frederik Ljungberg yng nghwrt bach Trinidad a Tobago.
79 mun: Cafwyd arbediad gwych arall gan Shaka Hislop i atal Marcus Allback - ffaith sydd hyd yn oed fwy syfrdannol o gofio mai eilydd hwyr iawn oedd Hislop wedi Kelvin Jack anafu tra'n cynhesu cyn y g锚m.
75 mun: Dim ond chwarter awr sy'n weddill i Trinidad a Tobago geisio dal allan am ganlyniad hanesyddol ond mae Marcus Allback yn parhau i greu trafferthion yn eu hamddiffyn.
69 mun: Roedd angen Dennis Lawrence a Shaka Hislop i gyfuno i atal Marcus Allback rhag ergydio yn y cwrt bach.
58 mun: Roedd dihangfa i Sweden wrth i Cornell Glenn daro'r trawst 芒 tharan o ergyd o ochr y cwrt chwech i synnu'r gwyr o Sgandinafia
57 mun: Mae Sweden yn dechrau defnyddio eu mantais trwy greu lle i'r cefnwyr groesi a bu bron i'r dim i Zlatan Ibrahimovic eu rhoi ar y blaen 芒 pheniad o groesiad Erik Edman.
52 mun: Mae Leo Beenhakker wedi dewis eilyddio Collin Samuel a gyrru ymosodwr Los Angeles Glaxy, Cornell Glen, i'r maes, er eu bod i lawr i 10-dyn.
46 mun: Cerdyn Coch - Avery John (Trinidad a Tobago) :
John yw'r chwaraewr cyntaf i gael ei hel o'r maes yng Nghwpan y Byd 2006 wedi iddo dderbyn ei ail gerdyn melyn am dacl ar Christian Wilhelmsson
Hanner Amser Trinidad a Tobago 0-0 Sweden
45 +2 mun: Mae Trinidad a Tobago eisoes wedi dal allan yn hirach na Costa Rica, Gwlad Pwyl a Paragwai ac maent yn creu ambell i broblem i Sweden wrth wrthymosod.
45 mun: Cafodd Carlos Edwrads gyfle arall 芒 pheniad grymus o groesiad Collin Samuel.
40 mun: Tarodd Christian Wilhelmsson ergyd wych a bu rhaid i golwr Trinidad a Tobago fod ar ei orau i droi'r b锚l allan am gic gornel.
37 mun: Daeth Henrik Larsson o fewn trwch blewyn o roi Sweden ar y blaen wrth redeg ar draws y cwrt bach a phenio croesiad Fredrik Ljungberg heibio'r postyn.
35 mun: Cafwyd tacl bwysig gan Avery John ar ochr cwrt cosbi Trinidad a Tobago i atal Zlatan Ibrahimovic rhag carlamu tuag at y g么l.
33 mun: Daeth cyfle gorau Trinidad a Tobago o ergyd hyfryd gan cyn chwaraewr Wrecsam, Carlos Edwards, ond yn anffodus i'r Soca Warriors, roedd ei ergyd yr uchder perffaith i Rami Shaaban.
21 mun: Cafqwyd rhediad hyfryd i lawr yr asgell dde gan Zlatan Ibrahimovic ond methodd Henrik Larsson 芒 chyfarfod ei groesiad hyfryd.
19 mun: Llwyddodd Freddie Ljungberg i ganfod Zlatan Ibrahimovic 芒 phas gelfydd ond methodd ymosodwr Juventus 芒 tharo ergyd lan.
13 mun: Mae Avery John yn ffodus mai cerdyn melyn yn unig gafodd wedi tacl erchyll ar Christian Wilhelmsson
5 mun: Llwyddodd golwr Sweden, Rami Shaaban i gasglu cic rhydd Dwight Yorke yn gyfforddus cyn i Dennis Lawrence gael cyfle i neidio.
3 mun: Cafodd Frederik Ljungberg ei lorio ar ochr y cwrt cosbi ac o'r cic rhydd ddilynodd, tarodd Henrik Larsson y b锚l heibio'r postyn.
2 mun: Daeth cyffyrddiad cyntaf Dennis Lawrence wrth iddo ennill y b锚l oddi ar ymosodwr Juventus, Zlatan Ibrahimovic.
1705 BST: Shaka Hislop sydd yn dod i'r maes rhwng y pyst i Trinidad a Tobago er mai Kelvin Jack oedd ar rhestr timau'r Soca Warriors. Anafodd golwr Dundee ei ben-glin tra'n cynhesu ar gyfer y g锚m.
NEWYDDION
Ni fydd amddiffynnwr Rangers, Marvin Andrews, yn chwarae dros Trinidad a Tobago yn eu g锚m cyntaf erioed yng Nghwpan y Byd wedi iddo droi ei ben-glin tra'n ymarfer.
Brent Sancho, amddiffynwyr Gillingham, sydd yn chwarae ochr yn ochr 芒 Dennis Lawrence wrth i amddiffynnwr Wrecsam greu mymryn bach o hanes wrth ddod y chwaraewr cyntaf erioed o Wrecsam i ymddangos yng Nghwpan y Byd.
TIMAU
Trinidad a Tobago: Hislop, Avery John, Sancho, Lawrence, Gray,
Birchall, Edwards, Theobald, Samuel, Stern John, Yorke.
Eilyddion:
Andrews, Charles, Cox, Glen, Jack, Ince, Jones, Latapy,
Scotland, Whitley, Wise, Wolfe.
Sweden: Shaaban, Linderoth, Mellberg, Lucic, Edman, Ljungberg,
Alexandersson, Anders Svensson, Wilhelmsson, Ibrahimovic,
Larsson.
Eilyddion: Allback, Alvbage, Andersson, Elmander, Hansson,
Isaksson, Jonson, Kallstrom, Nilsson, Rosenberg, Stenman,
Karl Svensson.
Dyfarnwr: Shamsul Maidin (Singapore)