Penderfynodd Lippi bod yr amser yn gywir i adael yn sgil buddugoliaeth yr Azzurri yn erbyn Ffrainc ar giciau o'r smotyn.
Roedd Lippi yn anfodlon y cafodd ef a'i fab Davide, sydd yn asiant, eu beirniadu yn sgil sgandal trefnu gemau'r Eidal.
Methodd Lippi 芒 mynychu cyfarfod gyda Ffederasiwn Yr Eidal ddydd Mawrth.
Yn ddiweddar bu son y byddai cyn hyfforddwr Juventus yn ymuno gyda Manchester United, fel olynydd posib i Syr Alex Ferguson.
Ond gwadu hynny wnaeth Lippi, gan nodi nad oed yn medru'r Saesneg yn ddigonol.
 |