Popeth fydd angen i chi wybod am d卯m听Y Weriniaeth Siec听ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Gr诺p E: v UDA 12 Mehefin 1700 BST,听Gelsenkirchen
v Ghana 17 Mehefin 1700 BST, Cologne
v Yr Eidal 22 Mehefin 1500 BST, Hamburg
Dyma fydd cyfle olaf chwaraewyr fel Pavel Nedved, Karel Poborsky, Tomas Galasek a Jan Koller i wneud eu marc ar y lefel uchaf gan fod cenhedlaeth euraidd Y Weriniaeth Siec yn prysur heneiddio.
Llwyddodd y Sieciaid i gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2004 ym Mhortiwgal gyda Nedved yn ysbrydoli'r t卯m, ac roeddent yn amlwg yn ei golli wedi iddo ymddeol ar ddiwedd y bencampwriaeth.
Ond mae'r hyfforddwr, Karel Bruckner, wedi dwyn persw芒d arno i ddychwelyd i'r t卯m rhyngwladol ac roedd ei ddylanwad yn amlwg wrth iddynt drechu Norwy i sicrhau eu lle yn Yr Almaen.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Nid yw'r Weriniaeth Siec erioed wedi chwarae yng Nghwpan y Byd, ond llwyddodd t卯m Tsiecoslofacia i golli yn y rownd derfynol ddwywaith - ym 1934 a 1962.
S锚r y t卯m: Mae golwr ifanc Chelsea, Peter Cech yn cael ei ystyried yn un o golwyr gorau'r byd, a chyda amddiffyn y Sieciaid wedi profi'n fregus ar brydiau, mae ei gyfraniad wedi bod yn arbennig.
Pavel Nedved yw chwaraewr mwyaf ysbrydoledig y Weriniaeth Siec, ac roedd ei golled yn amlwg yn ystod ei ymddeoliad 14-mis wedi Ewro 2004.
Barn 成人快手 Cymru'r Byd: Er mwyn osgoi chwarae Brasil yn yr ail rownd bydd rhaid i'r Weriniaeth Siec orffen ar frig y gr诺p, felly mae eu g锚m 芒'r Eidal yn dyngedfennol.
 |