Cynhaliwyd听Cwpan y Byd yn Ewrop am yr ail dro yn olynol wrth i Fifa ddewis Ffrainc fel lleolioad pencampwriaeth 1938.
Lleoliad | 听Ffrainc | Timau | 16鹿 | Pencampwyr | 听Yr Eidal | Prif Sgoriwr | Le么nidas听 8 g么l |
Roedd gwledydd De America yn gandryll 芒'r penderfyniad ac o'r herwydd gwrthododd Wrwgw谩i a'r Ariannin 芒 chystadlu.
Ond cafwyd y cystadleuwyr cyntaf o Asia wrth i India'r Gorllewin Iseldireg sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.
A chyda Cuba o'r Car卯b卯 a Brasil o Dde America hefyd yn cystadlu, dyma'r bencampwriaeth gyntaf 芒 thimau o bob cwr o'r byd.
Roedd angen amser ychwanegol ar y deiliaid, Yr Eidal, i drechu Norwy yn y rownd gyntaf, ond, wedi trechu'r t卯m cytref a Brasil, roeddent yn llawn haeddu eu lle yn y rownd derfynol yn erbyn Hwngari.
A llwyddodd yr Azzuri i dorri eu henwau yn y llyfrau hanes fel y t卯m cyntaf erioed i amddiffyn eu coron wedi iddynt drechu Hwngari 4-2 yn y rownd derfynol yn y Stade Colombes ym Mharis.
鹿 Er iddynt lwyddo i sicrhau eu lle yn Ffrainc, bu rhaid i Awstria dynnu yn 么l wedi'r Anschluss ym mis Mawrth 1938.
 |