Y grwp Cymraeg cyntaf i gyrraedd brig y siartiau annibynol Prydeinig gyda'i albym Bwyd Time yn 1995.
Aelodau
- Euros Childs: Llais, allweddellau
- John Lawrence: Gitar, llais, offerynnau
- Richard James: Bas, llais
- Euros Rowlands: Drymiau
- Megan Childs: Fiolin
Yn 1993 rhyddhawyd albym cyntaf Gorky's Zygotic Mynci, Patio, ar label Ankst, gan gasglu ynghyd holl brif gynnyrch y gr诺p o'r cyfnod 1991-1993 ar record 10 modfedd. Roedd hi'n amlwg pa mor dalentog a gwahanol oedd y criw yma o fechgyn ysgol o Freshwater East o gymharu ag unrhyw gr诺p Cymraeg oedd wedi bodoli hyd hynny.
Ar rai o'r caneuon tydi llais Euros Childs dal heb dorri, ond mae dawn cyfansoddi a thalent offerynnol y gr诺p yn agoriad llygaid. Mae Patio yn cynnwys traciau a recordiwyd gan y gr诺p i sioe radio Nia Melville, un o gefnogwyr cynnar y gr诺p, ac mae eu s诺n ac arddull unigryw yn ymddangos yn llawn ar ganeuon fel Diamonds o Monte Carlo.
Dros gyfnod o dair mlynedd, dau albwm - Tatay (1994) a Bwyd Time (1995) - a chyfres o senglau hynod lwyddianus ar Ankst, efo Alan Holmes (Fflaps/Ectogram) a Gorwel Owen (Ofn) fel cynhyrchwyr, cododd y gr诺p uwchlaw eu cyfoedion - dyma oedd y gr诺p mwyaf llwyddianus ac ysbrydoledig o Gymru ers blynyddoedd.
Roedd senglau fel Merched Yn Neud Gwallt Eu Gilydd (1994), The Game of Eyes (1995), a Miss Trudy (1995), yn llwyddo i ennill gwobr 'sengl yr wythnos' yn rheolaidd yng nghylchgronnau fel NME a Melody Maker, a gweddnewidiwyd y ddelwedd o gerddoriaeth Gymreig yn llwyr gan ddyfodiad y gr诺p arbennig yma.
O hynny allan roedd Cymru yn cael ei gweld fel diwylliant deinamig ifanc, efo dawn arbennig i greu cerddoriaeth bop seicadelig, gwahanol. Roedd grwpiau fel y Gorky's yn chwarae ar lwyfannu mwya Prydain, ac yn arwain y ton newydd o gerddoriaeth Gymraeg yng nghanol y 90au.
Yn ystod yr holl sylw hyn, rhyddhaodd y gr诺p Bwyd Time, teithio Siapan, a phenderfynu arwyddo gyda chwmni recordiau byd-eang - Mercury - i ryddhau Barafundle yn 1997.
Ar y foment honno, roedd y gr诺p yn ymddangos fel petae nhw ar drothwy enwogrwydd a llwyddiant rhyngwladol trwy eu cerddoriaeth.
Ond yn anffodus roedd problemau gyda'r cwmni recordiau yn golygu bod y gr诺p yn cael eu trin fel llai o flaenoriaeth, gan ddechrau disgyn oddi ar y radar.
Ar ddiwedd y 90au wnaethon nhw newid labeli, colli eu gitarydd John Lawrence, a rhyddhau cyfres o albyms llawer mwy 'mellow' a llai seicadelic na'u gwaith cynnar, cyn dod i ben yn 2003.
Mae catalog y Gorky's yn un o drysorau mwya gwerthfawr ein diwylliant roc, ac mae'r tri prif gyfansoddwr - Euros, John, a Richard James - i gyd wedi rhyddhau albyms gwych fel artistiaid solo ers i'r gr诺p chwalu.
Emyr Williams
Newyddion
Casgliad Newydd Furries
11 Tachwedd 2004
Marw John Peel
Hydref 26, 2004
Sengl ac Albym newydd Gorky's
Awst 20, 2003
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
成人快手 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.