Gorky's ar C2
Deg mlynedd ers rhyddhau eu halbym gyntaf 'Patio', mae Gorky's Zygotic Mynci yn 么l gyda albym 12 trac newydd, Sleep/Holiday, sydd allan ar ddydd Llun, Awst 25. Mae'r grwp yn America ar hyn o bryd, ond y newyddion da ydy bod Euros a Richard o'r grwp yn hedfan yn 么l i sgwrsio gyda Huw Stephens ar C2 nos Fawrth nesaf!
Dyma ail albym y grwp eleni, ar 么l rhyddhau'r casgliad o senglau cynnar "20" ar ddechrau'r flwyddyn, a mae disgwyl mawr wedi bod am eu cynnyrch newydd cyntaf ers 'How I Long to Feel that Summer in my Heart'. Fel arfer, mae'r albym yn cynnwys llwythi o synau a dylanwadau gwahanol - gwerin, gwlad, roc gyda lot o ganeuon acwstic a hamddenol arni.
Mae'r grwp newydd gyhoeddi hefyd bydd y g芒n 'Mow the Lawn' yn cael ei rhyddhau fel sengl ar Fedi'r 22ain. Cofiwch felly - nos Fawrth nesaf (26 Awst) am 10pm - sgwrs y Gorky's gyda Huw Stephens, dim ond ar C2 ar 成人快手 Radio Cymru.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.