成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod Dyffryn Conwy a'r Cyffiniau

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Moslemiaid yn llosgi llyfr Salman Rushdie, The Satanic Verses, a'r Ayatollah Khomeini yn galw am ddienyddio Rushdie.
  • Rupert Murdoch yn cychwyn gwasanaeth teledu Sky.
  • Trychineb Hillsborough, 95 o ddilynwyr p锚l-droed yn marw.
  • Cannoedd o Tsieineaid yn cael eu lladd gan eu llywodraeth eu hunain, gan gynnwys myfyrwyr a chefnogwyr democratiaeth ar sgw芒r Tianamen, Beijing.
  • Streic gan weithwyr rheilffyrdd, trenau tanddaearol a dociau.
  • Yr orymdaith wrth-apartheid fwyaf yn Cape Town ers 30 mlynedd.
  • Mur Berlin yn cwympo. Adeiladwyd y Mur ym mis Awst 1961 ac amcangyfrifir fod o leiaf 75 wedi eu lladd wrth geisio'i groesi.
  • Streic dynion ambiwlans, a'r Llywodraeth yn galw'r Fyddin a'r Llu Awyr i helpu.
  • Is-etholiad Bro Morgannwg, a Llafur yn ennill sedd a oedd unwaith yn gadarnle'r Tor茂aid.
  • Syr Anthony Meyer yn cystadlu yn erbyn Thatcher am arweinyddiaeth y Tor茂aid.
  • Cau gwaith glo Oakdale, yr olaf yng Ngwent.
  • Cau gwaith dur Felindre, Abertawe. Erbyn diwedd y degawd dim ond tua 17,000 oedd yn gweithio yn y gweithfeydd dur, a 4,000 yn y diwydiant glo.
  • Y pumed Refferendwm ar agor tafarndai ar y Sul yn gadael Dwyfor yn unig yn parhau ar gau.
  • Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd yn golygu ymestyn yr ^Wyl i chwe diwrnod.
  • Salvador Dali, Daphne de Maurier, A. J. Ayer, Laurence Olivier, Herbert von Karajan, Georges Simenon, Irving Berlin, Bette Davis, Vladimir Horowitz, Samuel Beckett, John Ogdon, Hirohito, Ferdinand Marcos, Syr Peter Scott, Dolores Ibarruri (La Passionaria), Ayatollah Khomeini a Thomas Sopwith yn marw.

Archdderwydd               Emrys

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Y Daith'
Enillydd: Idris Reynolds
Beirniaid: Gwilym R. Tilsley, Branwen Jarvis, Gwynn ap Gwilym
Cerddi eraill: Cyril Jones oedd yr ail, ac Einion Evans oedd y trydydd. Yr oedd cerdd gan Medwyn Jones, awdur Y Cleciadur, yn y gystadleuaeth hefyd.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Awdl farwnad fedrus a chofiadwy i'w fam, Elizabeth Reynolds, ond mae marwolaeth y Gymraes ddiwylliedig hon, un o gynheiliaid y Pethe a'r hen ffordd Gymreig o fyw, yn gyfystyr 芒 marwolaeth math arbennig o Gymru iddo.

Y Goron

Testun. Dilyniant o Gerddi: 'Arwyr'
Enillydd: Selwyn Griffith
Beirniaid: Bedwyr Lewis Jones, Nesta Wyn Jones, John Gruffydd Jones

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Nid oedd y gystadleuaeth hon yn gystadleuaeth gref. Nid oedd Nesta Wyn Jones o blaid coroni unrhyw un o'r cystadleuwyr.

Y Fedal Ryddiaith

Nofel ar gyfer pobl ieuainc
Enillydd: Irma Chilton (Mochyn Gwydr)

Tlws y Ddrama

Drama hir 
Enillydd: Neb yn deilwng

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy