成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod         Abertawe a'r Cylch.

Nid oedd unrhyw gymuned wedi gwahodd yr Eisteddfod a phenderfynwyd ei chynnal ar gampws y Brifysgol yn Abertawe.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Rhyfel y Malvinas. Y Gwarchodlu Cymreig yn dioddef: 39 wedi eu lladd a 79 wedi eu hanafu pan ymosodwyd ar y llong Sir Galahad yn Bluff Cove.
    Cychwyn S4C.
  • Eira trwchus drwy Gymru ddechrau Ionawr.
  • Diweithdra yn cyrraedd 3 miliwn.
  • Roy Jenkins yn ennill is-etholiad Hillhead, llwyddiant seneddol cyntaf yr SDP.
    Y Pab yn ymweld 芒 Phrydain.
  • 20,000 o ferched yn clymu dwylo ac yn amgylchynu gwersyll Comin Greenham mewn protest yn erbyn gosod 96 o daflegrau Cruise yno.
    Agor neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.
  • Cau'r gwaith copr olaf yn yr Hafod, Abertawe, a dod 芒 250 o flynyddoedd o'r diwydiant hwn i ben.
  • 15 o gricedwyr a aeth ar daith i Dde Affrica yn cael eu gwahardd am dair blynedd.
  • Erica Rowe yn rhedeg yn fron-noeth yn Twickenham.
  • Brezhnev, Thelonius Monk, Arthur Rubenstein, Jacques Tati, Ingrid Bergman, y Dywysoges Grace, a Henry Fonda yn marw.

Archdderwydd               James Nicholas

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Cilmeri'
Enillydd: Gerallt Lloyd Owen
Beirniaid: Geraint Bowen, R. Geraint Gruffydd, Moses Glyn Jones
Cerddi eraill: Gwynn ap Gwilym oedd yr ail.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Galaru'r golled i Gymru drwy farwolaeth Llywelyn saith gan mlynedd ynghynt a wnaeth Gerallt Lloyd Owen, gan ofidio ar yr un pryd am amharodrwydd Cymry ei ddydd i dderbyn unrhyw ffurf ar hunan-lywodraeth. Cafodd cefnogwyr y Cynulliad i Gymru eu siomi gan ganlyniad y Refferendwm ar Ddatganoli. 'Roedd pedwar ugain mlynedd o ymgyrchu dros ryw fath o ymreolaeth wedi mynd i'r gwellt. 'Roedd hyder a gobeithion y Cymry yn isel ar ddechrau'r wythdegau. Yr oedd yr awdl rymus hon yn sugno maeth ac ysbrydoliaeth o'r gorffennol, i'n hatgyfnerthu ar gyfer y blynyddoedd tywyll o'n blaenau. Dyma un o awdlau mwyaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ugeinfed ganrif.

Y Goron

Testun: Dilyniant o gerddi ar y testun 'Y Rhod'
Enillydd: Eirwyn George
Beirniaid: J. Eirian Davies, Bobi Jones, Rhydwen Williams

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Dilyniant crefftus, cymen am fannau, llecynnau a henebau yn Sir Benfro.

Y Fedal Ryddiaith

Cyfrol o ryddiaith greadigol
Enillydd: Gwilym Meredith Jones (Ochr Arall y Geiniog)

Tlws y Ddrama

Drama hir 
Enillydd: Nan Lewis

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy