成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ddolen
Llun o'r sioe Sioe Llanilar - 'Y Ganrif Gyntaf'
Gorffennaf 04
Rydym ar drothwy carreg filltir hanesyddol pan gwelwn ein Sioe yn gant oed eleni.


Mae'r paratoadau wedi bod yn mynd ymlaen ers tipyn ac mae aelodau'r pwyllgor yn ddiolchgar am gefnogaeth y cyhoedd. Felly gallwn edrych ymlaen am Sioe o'r safon arferol a gobeithio gweld arddangoswyr yn fwy niferus er nid oes eisiau achwyn byth ar y gefnogaeth yn Llanilar.

I ddechrau mae lleoliad y Sioe yn y cae gorau yng Ngheredigion - popeth yn gyfleus a digon o le gan ein bod bellach wedi lledaenu ein sefyllfa i ddau gae.

Mae yna groeso mawr i arddangoswyr hen beiriannau, tractorau a cheir. Mae Glyn a Wyre James wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd ond braf fyddai gweld eraill yn eu cefnogi nhw.

Rwy si诺r bydd lawer yn edrych yn 么l ar yr hen amser gynt ac i oes y ceffyl. Priodol yw gweld dosbarth i'r ceffylau gwedd eleni gyda Trefor Evans, Brongenau, g诺r profiadol o'r ardal, yn barnu. Sir Aberteifi yw cartref y Cobiau Cymraeg a braf yw cyhoeddi bod Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig yn cydnabod pwysigrwydd y dathliad trwy iddynt gytuno i ni gael Sioe Fedal Arian - diolch yn fawr iddynt.

Mae y bythol wyrdd Dai Llanilar yn mynd i fod yn eithriadol o brysur. Mae'n barnu y gwartheg duon a hefyd yn cynhyrchu rhaglen ar gyfer Cefn Gwlad. Os nad yw hynny yn ddigon mae Dai druan yn cyflwyno noson o ganu gwlad gan John ac Alun ym mhabell y Sioe ar 么l gorffen gweithgareddau'r dydd.

Ynghlwm a'r dathlu rydym yn trefnu arddangosfa yn y Ganolfan Gymunedol yr Hen Ysgol. Mae croeso i bawb alw mewn i gael braslun o'r dyddiau a fu. Mae'r ganolfan yn gyfleus iawn i gae'r Sioe. Byddwn ar agor dydd Sadwrn a'r Sul!

I goroni'r cyfan mae'r Parchedigion Robert Townsend a Nicholas Bee yn trefnu 'Caniadaeth y Cysegr' yn yr Eglwys ar y nos Sul. Dewisir yr emynau gan bobl leol a fu yn gysylltiedig efo'r Sioe. Ar 么l y canu, paned o goffi a bisgedi yn y ganolfan a chyfle unwaith yn rhagor i weld yr arddangosfa.

I Lanilar dewch yn llu, ac ar 么l mynd adref darllenwch lyfr y canmlwyddiant 'Y Ganrif Gyntaf' yn eich cadair esmwyth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy