Cynhaliwyd Cyngerdd Cyhoeddi G诺yl Cerdd Dant Ystrad Fflur a'r Fro 2007 ym Mhafiliwn y Bont Nos Iau 19 o Hydref, gydag un ar ddeg o ysgolion cynradd dalgylch yr 诺yl, sef ardal y ddau bapur bro Y Barcud a Y Ddolen yn cymryd rhan yn hanner gyntaf y noson.
Cafwyd eitemau amrywiol o'r radd flaenaf gan bob un o'r ysgolion, gyda John Jones yn arwain y gweithgareddau. I ddiweddu'r rhan gyntaf, ymunodd yr ysgolion i gyd i ganu geiriau pwrpasol Menna Jones i groesawu'r 诺yl, gydag Ingrid Rose yn arwain a Meinir Jenkins yn cyfeilio.
Ar 么l egwyl fer, cafwyd datganiad cerdd dant o'r Cywydd Croeso, gwaith Raymond Osborne Jones a Thalwrn Ffair Rhos, gan Dafydd Jones, Ystrad Meurig a'r delynores Heledd Mitchell yn cyfeilio.
Llywydd y noson oedd y Cynghorydd Wil Hughes, Abertawe, un o fois Ffair Rhos a'r Bont nad sydd wedi anghofio'i wreiddiau, a chafwyd ganddo lawer o stor茂au diddorol yn ei anerchiad, a chyfraniad hael tuag at y gronfa. Roedd yn hyfryd cael cwmni ei chwaer Rosalind a'i g诺r hefyd yn bresennol, a chyflwynwyd basgedaid o flodau i Rosalind gan Cadi Jones, Tynfron, wedi iddi adrodd penillion pwrpasol yn croesawu Wil Hughes.
Lansiwyd Rhestr Testunau'r 诺yl ar y noson, a chyflwynwyd y copi cyntaf ohoni i gadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Arfon Gwilym, gan gadeirydd Pwyllgor Gwaith g诺yl Ystrad Fflur, Neli Jones.
I gloi'r noson, cafwyd cyflwyniad gwefreiddiol gan ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Tregaron, gyda'i teyrnged i'r pum prifardd lleol, y prifeirdd Dafydd Jones, D Lloyd Jenkins, W J Gruffydd, J Roderick Rees a Gwenallt Llwyd Ifan, y cyfan wedi ei wau yn gelfydd gyda darlleniadau, cerddoriaeth ag ymgom.
Diolch o galon i bawb a gefnogodd y noson, ac a gyfrannod tuag at ei llwyddiant mewn unrhyw fodd.
Cliciwch yma i fynd i wefan G诺yl Gerdd Dant Rhosllannerchrugog a'r fro 2006
 |