成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bae Cerdigion Cantre'r Gwaelod - Tir Coll Cymru
Pan fo'r llanw'n isel, gwelir olion coedwig hynafol ar hyd yr arfordir rhwng Tywyn ac Aberdyfi, i'r gogledd o Aberystwyth.
Mae bonion coed a gwreiddiau o'r tir hwn yn dal i'w cael ymhlith y cloddfeydd mwyn canoloesol yn y cyffiniau. Fe all mai hon oedd ardal tiroedd coll y Cantre'r Gwaelod chwedlonol.

Ceir sawl fersiwn o'r stori sut yr hawlwyd yr ardal hon gan y m么r. Tan tua'r 17eg Ganrif, enwyd y tir coll yn 'Maes Gwyddno'. Dywed y chwedl gynnar hon i'r tir gael ei foddi pan ganiataodd offeiriades ffynnon y tylwyth teg i'r d诺r orlifo.

Ond enw'r tir yn y chwedl sy'n gyfarwydd inni heddiw yw Cantre'r Gwaelod, - tir yn ymestyn rhyw 20 milltir i'r gorllewin o'r arfordir presennol i fewn i'r hyn a elwir heddiw yn Fae Ceredigion. Yn nyddiau'r chwedl, c芒i'r ardal hon ei rheoli fel rhan o Deyrnas Meirionydd gan Gwyddno Garanhir, a anwyd tua 520 OC.

Dywedir bod y tir hwn yn hynod ffrwythlon, gymaint felly nes yr ystyriwyd un erw yma yn werth pedair erw yn unrhyw le arall. Y broblem oedd bod y tir yn dibynnu ar forglawdd i'w amddiffyn rhag y m么r. Roedd llifddorau yn y morglawdd a g芒i eu hagor ar lanw isel i ddraenio d诺r o'r tir, a'u cau wrth i'r llanw godi.

Y drychineb

Un noson, tua 600 OC, fe gododd storm o'r de-orllewin, gan yrru llanw'r gwanwyn yn erbyn y morglawdd. Roedd y gwyliwr penodedig, Seithennyn, a oedd yn yfwr trwm ac yn gyfaill i'r Brenin, mewn parti ym mhalas y Brenin ger Aberystwyth. Mae rhai yn dweud iddo syrthio i gysgu oherwydd iddo yfed gormod o win neu ei fod yn rhy brysur yn cael hwyl i sylwi ar y storm ac i gau'r llifddorau.

Cafodd gatiau'r dwr eu gadael ar agor, a rhuthrodd y m么r i mewn i foddi tir y Cantref, gan foddi dros 16 o bentrefi. Llwyddodd y Brenin a rhai o aelodau ei lys i ddianc trwy redeg i ddiogelwch ar hyd Sarn Cynfelin; gorfodwyd i Gwyddno Garanhir a'i ddilynwyr adael y tir isel ac ennill bywoliaeth dlotach ar fynyddoedd ac yn nyffrynnoedd Cymru.

Y ddiod ar fai?

Mae fersiwn arall, mwy masweddus, yn mynnu mai Brenin lleol ar ymweliad oedd Seithennyn, a oedd, ar adeg y storm, 芒'i fryd ar ddal sylw'r forwyn brydferth Mererid, oedd yng ngofal y llifddorau. Gan i Seithennyn fod yn llwyddiannus yn ei berwyl, doedd Mererid, felly, ddim yn gallu cau'r gatiau, a boddwyd y tir.

Mae'r chwedl wedi ysbrydoli nifer o gerddi a chaneuon drwy'r oesau. Credir iddi gael ei chrybwyll gyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin, llyfr a ysgrifennwyd 750 o flynyddoedd yn 么l. Ysgrifennwyd y Llyfr Du, a enwyd ar 么l lliw ei glawr, yn 1250, a chynhwysai gerddi a deunydd llawer h‏欧n, yn ymwneud 芒 digwyddiadau o ganrifoedd ynghynt, gan gynnwys cerdd am Cantre'r Gwaelod.

Enw'r gerdd yw "Boddi Maes Gwyddno", ac mae'n rhoi'r fersiwn gynnar o'r stori lle mae'r forwyn Mererid yn gyfrifol am beidio 芒 chau'r gatiau, gan adael i'r dilyw foddi'r tir.

Cofnod y gerdd

Y gerdd 'Boddi Maes Gwyddno' yw un o'r enghreifftiau gorau o farddoniaeth ganoloesol Gymraeg, yn cynnwys tribannau tynn a chynnil gydag odl fewnol a chynghanedd. Mae'r pedwar pennill agoriadol isod.

Seithennin, saf-di allan,
ac edrychwyr-di faranres
m么r. Maes Gwyddnau ryd枚es.

Boed emendigaid y forwyn
a'i hellyngawdd gwedi cwyn,
ffynnon fynestr m么r terwyn.

Boed emendigaid y fachdaith
a'i gollyngodd gwedi gwaith,
ffynnon fynestr m么r diffaith.

Diaspad Fererid y ar fan caer;
hyd ar Dduw y'i dodir.
gnawd gwedi traha dranc hir.

Pa fersiwn bynnag o'r chwedl a ddewiswch, fe ddywedir, os gwrandwch chi'n astud, y gallech glywed clychau'r ddinas goll yn canu o dan y d诺r, yn enwedig ar foreau Sul tawel, ac yn arbennig os ydych chi yn Aberdyfi, sy'n enwog mewn chwedloniaeth Gymreig, fel y lle agosaf ar dir sych i Gantre'r Gwaelod. Daeth y g芒n 'Clychau Aberdyfi' yn boblogaidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn neuaddau cyngerdd.

Tystiolaeth ddaearyddol

Dywedir bod Cantre'r Gwaelod yn gorchuddio llawer o'r iseldir sydd bellach o dan Fae Ceredigion, ac mae nifer o nodweddion daearyddol yn gysylltiedig 芒'r chwedl. Mae'r sarnau, cribau sengl filltiroedd o hyd, sydd yn rhedeg ar ongl sgw芒r i'r lan, wedi eu lleoli rhwng bob un o aberoedd y pedair afon yng ngogledd y Bae. Dywed y chwedl bod y cribau'n weddillion sarnau a adeiladwyd er mwyn sicrhau ffordd i gyrraedd y tir mawr presennol ar lanw uchel, ond mae'n debyg mai gweddillion marianau rhewlifol ydyn nhw - wedi eu ffurfio o ro, clai, tywod a meini a adawyd ar 么l wrth i'r rhewlifau doddi ar ddiwedd yr Oes I芒 ddiwethaf.

Yn ei 'Topographical Dictionary of Wales' (1833), nododd Samuel Lewis un arall o nodweddion Bae Ceredigion, a oedd i'w weld ar lanw isel iawn. Casgliad o gerrig mawrion a chreigiau yw Caer-Wyddno, saith milltir allan yn y m么r, i'r Gorllewin o Aberystwyth. A yw'n bosibl mai hwn oedd union balas y Brenin anffodus, oedd yn mwynhau parti tra roedd ei deyrnas yn boddi?

Chwedlau tebyg mewn gwledydd eraill

Credir bod nifer o'r chwedlau byd-eang sy'n s么n am foddi neu lifogydd yn cyfeirio at y newidiadau sylweddol mewn ffurfiau tir ar 么l yr Oes I芒 ddiwethaf. Rhwng 17,000 a 7,000 o flynyddoedd yn 么l toddodd capiau i芒 anferth dros Ogledd Ewrop a Gogledd America, gan achosi llifogydd a chodi lefelau'r m么r o dros 100 metr. Cafodd 25 miliwn o filltiroedd sgw芒r eu boddi gan y tonnau, ac er bod y newidiadau yn rhai graddol yn gyffredinol, byddai'n cyndadau wedi byw mewn amgylchfyd cythryblus a bregus.

Moeswers

Credir i'r straeon yma gael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth er cof am yr amserau coll hynny, ac maen nhw wedi rhoi bodolaeth i amrywiol chwedlau sy'n s么n am golli tiroedd oherwydd boddi'r arfordir a chodiad yn lefelau'r m么r. Wrth gynnwys brenin o'r 6ed ganrif, mae stori Cantre'r Gwaelod fel petai wedi ei lleoli dipyn yn fwy diweddar, ond mae'n profi sut mae newidiadau yn y byd naturiol yn bwydo'r dychymyg, ac yn rhoi bodolaeth i chwedlau a glywir ar yr aelwyd.

Mae amrywiol fersiynau'r stori hon i gyd wedi eu seilio ar golli ardal a oedd unwaith mor ffrwythlon, ond mae'r fersiynau gwahanol geir ar hyd yr oesau yn arwydd gwerthfawr o'r newid mewn gwerthoedd cymdeithasol drwy gydol hanes. Mae'r fersiynau cyntaf yn rhybuddio am ganlyniad tynnu sylw oddi ar ddyletswydd oherwydd trachwant, tra bod chwedlau mwy diweddar wedi dod yn ffordd i hybu dirwest - dewis poblogaidd ymhlith capelwyr Cymreig - gan rybuddio am ganlyniad y ddiod feddwol.

Profi'r chwedl?

Mae'r chwedl yn cadw'r stori'n fyw ym meddyliau'r bobl, fel y gwna'r enwau a briodolir i nodweddion daearegol, rhai ohonyn nhw'n cyfeirio at gymeriadau o'r stor茂au. Nid oes amheuaeth wyddonol bod ardaloedd o dan Fae Ceredigion wedi bod yn goediog a phoblog tua 7,000 mlynedd yn 么l. Ond hyd yn ddiweddar iawn, mae'n debyg mai'r cyfeiriadau hyn mewn chwedlau oedd yr unig 'brawf' bod Cantre'r Gwaelod wedi bod yn dir uwchben y m么r yn 600 OC.

Bellach, mae'n bosib y bydd datblygiadau mewn technoleg fodern yn golygu y gallwn ddod o hyd i leoliad Cantre'r Gwaelod. Yn 2003, daeth gwyddonwyr o Brydain o hyd i dechneg sganio sy'n medru creu map o wely'r m么r i ddangos lle gallai pobl fod wedi byw oddi ar arfordir presennol Cymru.

P'un ai yw Bae Ceredigion yn cael ei archwilio ai peidio, mae chwedl Cantre'r Gwaelod yn dystiolaeth o diroedd coll Cymru, ac yn ffynhonnell amrywiaeth o straeon sy'n galaru colli Cantre'r Gwaelod.



Cyfrannwch

Sara,
Dwin 12 mlwydd oed ag yn gorfod ffeindio allan siwd gymynt ag sydd yn bosib am Cantre'r Gwaelod i gwers Drama- (Byddwn yn actio'r chwedl) Maer safle hwn wedi bod yn help fawr!! Diolch
Sun Nov 15 15:16:35 2009

Ffion
Rydw i'n 12 mlwydd oed ac yn astudio Cantre gwaelod. Roedddwn i'n hoff iawn o'r stori pan ddarllenodd fy athrawes e mas yn y ddosbarth. Nawr mae rhaid i mi ysgrifennu atofiant o rhyw fach, ac rydw i'n siwr byddai i'n mwynhau y dasg. Unwaith eto stori FAB!!! Diolch
Wed Sep 16 18:07:43 2009

Anna Jones o Ynys Mon
diddorol iawn wedi mwynhau y chwedl yn fawr iawn - hoffi yr llyn llawer o wybodaeth da !!:)
Fri Apr 24 14:56:45 2009

7.2, 2009 Ysgol Gyfun Llangefni
Stori drist iawn, ond diddorol ac ardderchog! ;)
Tue Mar 31 11:55:50 2009

Dylan Gape
Roedd y Stori Yma Wedi Taro Fy Ngalon oherwydd Roedd yn ystydio hwn yn ysgol ac roedd y stori yn romantic iawn :)X. Oddiwrth fy sboner a mi.
Tue Mar 24 10:19:51 2009

Mari Luisa Crestyr
Rwyn hoff iawn or darn yma , diddorol iawn , :)
Thu Feb 12 15:08:00 2009

Emyr Davies, Glanaman
diddorol iawn yn fy waith
Wed Jan 28 10:04:33 2009

Mari o Rhydaman.
Stori ddiddorol iawn. Rydym yn gwneud gwaith ar y stori hon yn fy ngwers Gymraeg. Mae'r gwaith yn apelio ata i.(:
Thu Jan 15 14:58:12 2009

Sara Mai Griffiths
Mae Y Stori Hon Yn Arbenning O Dda.Rwy'f Yn Hoff Iawn O Ohnni.Rwy Wedi Clywed Lot o Storion Amdano.
Thu Jan 15 14:52:30 2009

Luke Southwod o Saron
Roedd hyn wedi taro fy nghalon. Roedd fy sboner yn astudio hwn yn coleg a roedd hwn wedi ei helpu yn fawr.
Thu Jan 15 14:39:53 2009

Mari oberts , rhydaman
brill wedi fy helpu llawer yn y dosbarth Cymraeg amser rhon nhin edrych arno !!
Thu Jan 15 14:30:49 2009

Sion Wyn Thomas , Rhydaman
Diddorol iawn
Fri Jan 9 11:44:13 2009

megan o caerdydd
mae y wybodaeth wedi fy helpu i llawer ac wnes i wneud cyflwyniad ar cantre'r gwaelod yn fy nhosbarth.
Tue May 22 19:44:06 2007

Sioned mai, Llangefni
Tudalen eithriadol o dda am hanes o cantre'r gwaelod.
Wed May 9 17:23:11 2007

Rhian Owen o Ynys Mon x x x
Dyma'r holl gerdd - Clychau Cantre'r Gwaelod O dan y m么r 芒'i donnau Mae llawer dinas dl么s, Fu'n gwrando ar y clychau Yn canu gyda'r n么s; Trwy ofer esgeulusdod Y gwyliwr ar y twr, Aeth clychau Cantre'r Gwaelod 脭'r golwg dan y dwr. Pan fyddo'r m么r yn berwi, A'r corwynt ar y don, A'r wylan wen yn methu A disgyn ar ei bron; Pan dyr y don ar dywod, A tharan yn ei stwr, Mae clychau Cantre'r Gwaelod Yn ddistaw dan y dwr. Ond pan f么'r m么r heb awel, A'r don heb ewyn gwyn, A'r dydd yn marw yn dawel Ar ysgwydd bell y bryn, Mae nodau p锚r yn dyfod, A gwn yn eithaf siwr Fod clychau Cantre'r Gwaelod I'w clywed dan y dwr. O! cenwch, glych fy mebyd, Ar waelod llaith y lli; Daw oriau bore bywyd Yn swn y g芒n i mi; Hyd fedd mi gofia'r tywod Ar lawer nos ddi-stwr, A chlychau Cantre'r Gwaelod Yn canu dan y dwr.
Wed May 9 16:29:00 2007

emrys@boltblue.com
I pawb sydd am ddarllen "Clychau Cantre'r Gwaelod" gan J.J Williams (1869 - 1954) yn gyfan: Clychau Cantre'r GwaelodO dan y m么r 芒'i donnau Mae llawer dinas dl么s, Fu'n gwrando ar y clychau Yn canu gyda'r n么s; Trwy ofer esgeulusdod Y gwyliwr ar y twr, Aeth clychau Cantre'r Gwaelod 脭'r golwg dan y dwr. Pan fyddo'r m么r yn berwi, A'r corwynt ar y don, A'r wylan wen yn methu A disgyn ar ei bron; Pan dyr y don ar dywod, A tharan yn ei stwr, Mae clychau Cantre'r Gwaelod Yn ddistaw dan y dwr. Ond pan f么'r m么r heb awel, A'r don heb ewyn gwyn, A'r dydd yn marw yn dawel Ar ysgwydd bell y bryn, Mae nodau p锚r yn dyfod, A gwn yn eithaf siwr Fod clychau Cantre'r Gwaelod I'w clywed dan y dwr. O! cenwch, glych fy mebyd, Ar waelod llaith y lli; Daw oriau bore bywyd Yn swn y g芒n i mi; Hyd fedd mi gofia'r tywod Ar lawer nos ddi-stwr, A chlychau Cantre'r Gwaelod Yn canu dan y dwr.
Tue Apr 24 22:14:38 2007

Dyfan Davies o Rhos y bol
Eithriadol o ddiddorol
Tue Apr 17 20:34:33 2007

Catrin, Llanrwst
Rydych yn gallu gweld wal cantre'r gwaelod o le uchel ar ddiwrnod clir !!!!
Wed Oct 4 10:01:32 2006

Sian Alwen ysgol Glan Clwyd
Defnyddiol tu hwnt ar gyfer ein gwersi ar Gantre'r Gwaelod. Diolch!
Tue Sep 19 12:54:20 2006

Enid, Llambed
Dyma ran o'r gerdd 'Clychau Cantre'r Gwaelod' gan J.J. Williams (1869 - 1954)

O dan y m么r 芒'i donnau
Mae llawer dinas dl么s,
Fu'n gwrando ar y clychau
Yn canu gyda'r n么s;
Trwy ofer esgeulusdod
Y gwyliwr ar y twr,
Aeth clychau Cantre'r Gwaelod
脭'r golwg dan y dwr.

Mae eisiau bach o ramant yn ein bywydau gwyddonol, diflas. beth yw'r ots os mae rwtsh yw'r cyfan, o leia mae'n fwy diddorol na llawer o straeon dinasyddol.


Thu Jul 6 15:51:40 2006

Timothy o Aberystwyth
Ardderchog iawn, helpu gyda gwaith, Diolch!
Thu Jun 29 11:33:16 2006

Cadan o Aberystwyth
Pwy dynnodd y llun???
Thu Jun 29 11:32:05 2006

buddug o gogledd cymru
diddorol iawn ond yn disgwyl y stori gyfan.
Tue Jun 20 18:31:36 2006

Fred
Diddorol Iawn
Wed May 24 10:45:44 2006

lois o ogledd cymru
Diolch, wedi cyfoethogi fy ymchwil. Beth am ichi wneud nodiadau neu rhestr sydd yn cysylltu gwefannau eraill perthnasol, neu lyfrau?
Thu Apr 27 10:03:32 2006

williams.bev@gmail.com
A'r dydd yn fawr yn dawel
Ar ysgwydd bell y bryn.
Mae nodau per yn dyfod,
A gun yn eithaf siwr ..........................................................

Sun Mar 19 20:49:29 2006

chloe evans o bala dirion deg!
v'n cytuno fyd! l.o.l!
Tue Jan 24 12:50:02 2006

Sion Cledwyn - Cofi
Mae yna chwedl debyg am fae Conwy/Colwyn? ~ enwr brenin? goes hir? Mae'r mawn, a boncyffion i'w gweld mewn ambell le... mae Afon Wen ger Griccieth yn warchodfa wyddonol oherwydd y mawn hyn... mae'r trychfilod a phryfaid a farwodd 7000 o flynyddoedd yn ol iw cael yn y mawn, rwyf fy hun, wedi agor darn o fawn i, ddarganfod pry chwythu, ai liwiau glas yn disgleirio o hyd. Chwedl neu beidio - fe gododd y mor ar ol oes yr ia, ac fe fu rhaid i bobol symud... Mae nhw'n dweud fod y mor am godi ailwaith, felly braf byw mewn gwlad fynyddig?
Sun Jan 15 22:50:26 2006

Alex Wheeler o Aberystwyth
Rydw i yn eisiau mynd i cantre gwaelod ond mae'n drewi!!!
Wed Oct 19 09:48:13 2005

Aoife o Aberystwyth
Diddorol iawn. Mae y tudalen wedi helpu llawer yn fy nghwaith. Diolch.
Mon Oct 17 10:34:22 2005

Calvin Kingsbury o Aberystwyth
Stori go dda gyda llun ardderchog!!!
Mon Oct 17 10:34:08 2005

Eoin Mahon o Aberystwyth
Diddorol iawn! Dwi'n hoffi'r llun!
Mon Oct 17 10:33:04 2005

kathryn jones de cymru
Tudalen diddorol iawn ac mae o wedi helpu fi gyda fy ngwaith Cymraeg!
Sun Oct 9 17:26:42 2005

John Morgan, Talybont
Diddorol ac awdurdodol.
Yr unig beth, r'oeddwn yn disgwyl gweld y llinellau mwy diweddar ar Cantref Gwaelod, sydd yn mynd...
"Ond pan mae'r mor yn dawel,
Ar'r don heb ewyn gwyn"
(Wedi anghofio beth sydd wedyn!)
Ac yna mlaen

Mon Jul 11 20:58:47 2005

Nia, Aberystwyth
Tudalen ddiddorol a defnyddiol iawn.
Wed May 4 21:24:33 2005


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy