成人快手

Phillip Jones Griffiths

Phillip Jones Griffiths yn Vietnam (llun Magnum Photos gan John Giannini)

Ffotograffydd byd-enwog y dywedir i'w luniau eiconig newid cwrs rhyfel Vietnam.

Torri cwys ei hun

Mae Philip Jones Griffiths yn cael ei gyfrif yn un o ffotograffwyr mawr yr 20fed ganrif ac yn un a dorrodd ei gwys eiconig ei hun ym maes ffotograffiaeth newyddiadurol.

Fe wnaeth ei luniau o ryfeloedd ar draws y byd gan gynnwys Algeria, Israel, Gogledd Iwerddon, Cambodia, Irac, Bosnia ac, yn arbennig Vietnam, greu corff o waith sy'n cael ei edmygu a'i astudio gan fyfyrwyr ffotograffiaeth a newyddiaduraeth ar draws y byd. Bu'n lywydd asiantaeth ffotograffiaeth ddylanwadol Magnum am bum mlynedd, yn hwy na neb arall sydd wedi dal y swydd.

Ganed Philip Jones Griffiths ar Chwefror 18 1936 yn Rhuddlan, cartref teulu eu dad, Joseph Griffiths, a oedd yn gweithio i gwmni rheilffordd. Ei fam, Catherine Jones, a oedd o Sir F么n yn wreiddiol, oedd nyrs ardal Rhuddlan. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanelwy, Prifysgol Lerpwl.

Roedd yn tynnu lluniau gyda'i gamera Kodak 'Brownie' o oedran cynnar ac mae'n cofio un digwyddiad a daniodd ei ddiddordeb ymhellach. Aeth i wrando ar E. Emrys Jones, athro lleol a ffotograffydd, yn siarad yng nghlwb camera'r Rhyl pan oedd yn ei arddegau. Dangosodd hwnnw lun gan y ffotograffydd Ffrengig Henri Cartier-Bresson iddyn nhw, wedi ei daflunio ar ei ben i lawr.

Gwaeddodd y gynulleidfa ei fod ar ei ben i lawr. Ond ymgais bwriadol gan E. Emrys Jones oedd hyn i'w dysgu am gyfansoddiad llun; gwers nad anghofiodd Philip Jones Griffiths. O ganlyniad, bu Cartier-Bresson, un o sylfaenwyr asiantaeth Magnum, yn un o'i arwyr mawr am weddill ei oes.

Y Ffotograffydd ffrwydrol

Milwyr Fietnam gan Phillip Jones Griffiths (hawlfraint: Philip Jones Griffiths - Magnum)
Milwyr Fietnam gan Phillip Jones Griffiths (hawlfraint: Philip Jones Griffiths - Magnum)

Roedd y Philip ifanc hefyd yn treulio llawer o'i amser yn arbrofi gyda chemegau ac yn creu ffrwydriadau yn yr ardd gefn! Roedd ei dad yn adnabod rheolwr siop Boots yn y Rhyl ac oherwydd chwilfrydedd ei fab mewn arbrofi, penderfynwyd y byddai fferylliaeth yn yrfa dda iddo a threfnwyd ei fod yn mynd yn brentis i'r fferyllfa yn y Rhyl.

Aeth ymlaen i astudio fferylliaeth ym Mhrifysgol Lerpwl a thynnu lluniau yn ei amser hamdden. Ond roedd y cyfle i wneud bywoliaeth o fod yn ffotograffydd ar y pryd yn brin ers i gylchgronau fel 'Picture Post' gau oherwydd dyfodiad teledu.

Ond wedi 10 mlynedd ym maes fferylliaeth, deg mlynedd mae'n teimlo iddo'u gwastraffu, cafodd lond bol a gadawodd: "Unwaith rydych chi wedi gorfod cyfri 1,000 o dabledi 芒 llaw, rydych chi'n gwybod ei bod hi'n amser gadael," meddai.

Vietnam Inc

Nid ers dyddiau Goya mae rhywun wedi portreadu Rhyfel fel Philip Jones Griffiths.

Henri Cartier-Bresson

Cafodd swydd gyda phapur newydd yr Observer yn Llundain ac un o'i aseiniadau cyntaf oedd y rhyfel yn Algeria. Yn 1966 aeth i Vietnam a'r lluniau rhyfel a dynnodd yno yw rhai o'i luniau enwocaf.

Yn 1971, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, 'Vietnam Inc', yn croniclo presenoldeb milwyr America yn Vietnam. Mae llawer yn dweud i'r lluniau yn y llyfr hwn, sy'n lyfr gwerthfawr erbyn hyn, newid cwrs y rhyfel wrth i'r gorllewin weld wir echylltra'r rhyfel a'r effaith ar y bobl diniwed yn Vietnam.

Cyhoeddodd dri llyfr arall wedi hynny. Y cyntaf oedd 'Agent Orange', sy'n edrych ar effaith y cemegyn Agent Orange (oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr Americanwyr i ddinoethi'r coed o'u dail) ar genedlaethau yn Vietnam. Yna cyhoeddwyd 'Vietnam at Peace' yn croniclo hanes y wlad wedi'r rhyfel ac wedyn 'Dark Odyssey', ei lyfr olaf, yn gasgliad o'i luniau gorau.

Yn ystod y cyfnod hwn bu'n llywydd asiantaeth ffotograffiaeth ddylanwadol Magnum am bum mlynedd, yn hwy na neb arall sydd wedi dal y swydd.

Dal yn Gymro

Merched Fietnam gan Phillip Jones Griffiths (hawlfraint: Philip Jones Griffiths - Magnum)
Merched Fietnam gan Phillip Jones Griffiths (hawlfraint: Philip Jones Griffiths - Magnum)

Yn 2001, ymwelodd 芒 maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau, lle roedd arddangosfa arbennig o'i waith yn y babell Celf a Chrefft. "Dwi'n gynnyrch Dyffryn Clwyd ac mae bob amser yn dda bod adref," meddai wrth 成人快手 Cymru'r Byd ar y pryd.

Ar ddiwedd ei oes mynegodd ei ddymuniad i'w waith gael cartref parhaol yng Nghymru, er bod sefydliadau eraill yn Llundain, Efrog Newydd, Ffrainc a'r Eidal yn gweiddi am gael meddu ar arddangosfa swyddogol o'i waith.

Ond er ei statws byd-eang fel ffoto-newyddiadurwr a'i ddylanwad enfawr yn y maes, neu efallai o'i herwydd, roedd Philip Jones Griffiths yn dweud mai ei fagwraeth fel Cymro, ac yn arbennig, fel Cymro o'r Rhuddlan, oedd yn sail i bopeth a wnaeth.

Bu farw Philip Jones Griffiths yn 72 oed yn ei gartref yn Llundain ym mis Mawrth 2008 o gancr. Cafwyd trafodaethau hir am gartref parhaol i'r llu o'i luniau. Cafwyd arddangosfa o gyfran fach o'i waith yn Llyfrgell Rhuddlan yn 2010. Ac yn Awst 2012 cyhoeddwyd y byddai "ffenest siop" i'w waith fel rhan o ddatblygiad newydd celfyddydol 'Pontio' ym Mangor.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 成人快手 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.