Lluniau Philip Jones Griffiths Mae galw cynyddol am sefydlu canolfan yng ngogledd Cymru i fod yn gartref i gasgliad byd-enwog gwaith y ffotograffydd newyddiadurol Philip Jones Griffiths o'r Rhuddlan.
Mae'r detholiad bychan yma o'i lyfr Dark Odyssey yn cynnwys lluniau o Gymru a rhai o'i luniau enwog ac eiconig o ryfel Vietnam. Mae'r capsiynau yn gyfieithiadau o sylwadau Philip Jones Griffiths yn y llyfr.
Bachgen yn dinistrio piano, Cymru, 1961. 漏Philip Jones Griffiths - Magnum
"Enillodd y lle yma, Pant-y-Waen, deitl y pentref prydferthaf yn ne Cymru yn y 1930au ond mae wedi ei hen ddifrodi gan gloddio glo brig erbyn hyn. Mae'r bachgen yma'n adlewyrchu'r ddeuoliaeth yn ein cariad at rygbi a cherddoriaeth. Pan ofynnais iddo beth roedd yn ei wneud, atebodd fod ei fam wedi rhoi'r piano iddo i'w drwsio."