Pan oedd Pwyll, brenin Dyfed, yn ei lys yn Arberth penderfynodd fynd i hela. Canodd ei helgorn ac ymaith 芒'r helwyr. Ond roedd pac arall o helgwn allan y bore hwnnw - rhai gwynion i gyd, gyda chlustiau cochion. Roeddent wedi lladd carw braf. Anfonodd Pwyll yr helgwn dieithr ymaith a bwydo'i g诺n ei hun ar y carw.
'Y fath anghwrteisi!' meddai Arawn, perchennog yr helgwn gwynion. 'I dalu iawn am hyn fe gei di newid lle 芒 mi am flwyddyn, ac ymladd fy mrwydr yn erbyn fy ngelyn Hafgan yn fy lle.'
Ac felly y bu. Ymladdodd Pwyll a Hafgan ar y rhyd. Tarodd Pwyll ei elyn ar ganol bogel ei darian nes bod honno'n hollti'n ddau hanner, a Hafgan yn hanner marw. A dyna ddechrau cyfeillgarwch mawr rhwng Pwyll ac Arawn.
Pan oedd Pwyll yn Arberth ar adeg arall penderfynodd ddringo i gopa Bryn Arberth. Nodwedd y bryn hwnnw oedd y byddai pob tywysog a eisteddai ar ben y bryn naill ai'n cael anaf, neu'n cael gweld rhyfeddod.
Fel yr oedd Pwyll yn eistedd yno daeth merch heibio ar gefn march mawr gwyn. Gwisgai'r ferch ffrog hardd o sidanwe aur. Rhedodd un o filwyr Pwyll ar ei h么l er mwyn gofyn ei henw, ond ni fedrai ei dal. Bu'n rhaid iddo gyfrwyo'r march cyflymaf yn stablau'r llys er mwyn ei dilyn. Ond eto, ni allai ei dal. Po fwyaf yr ysbardunai'r march, pellaf oddi wrtho yr 芒i'r ferch. Dyna'r rhyfeddod!
Y bore wedyn digwyddodd yr un peth: roedd yn amhosibl i neb ddod yn agos at y ferch dlos. Y trydydd bore daeth y ferch i'r golwg eto, yn gwisgo'r un wisg, ac yn marchogaeth yr un ceffyl.
Neidiodd Pwyll ar gefn ei farch, ond na, ni allai ddod yn agos ati. 'Aros! Aros!' gwaeddodd Pwyll. Arhosodd y ferch a sgwrsio ag ef yn hapus. 'Rhiannon wyf fi. Mae 'Nhad am imi briodi dyn diflas o'r enw Gwawl, ond ti rwyf i'n ei garu. Gawn ni briodi?'
'Dyma fy ateb ar ei ben. Pe cawn i ddewis o holl ferched y byd, ti fyddwn i'n ei dewis.'
Priodwyd Pwyll a Rhiannon, ac aethant i fyw i lys Arberth. Ymhen tair blynedd ganwyd mab iddynt, Pryderi, ond ymhen ychydig oriau diflannodd y bachgen o'r llys.
Rhag iddynt gael eu beio am golli'r plentyn lladdodd y nyrsus chwech o g诺n bach, iro wyneb Rhiannon 芒'r gwaed, a thaeru ei bod wedi lladd ei mab. Cosb Rhiannon am y drosedd oedd fod yn rhaid iddi aros yn Arberth am saith mlynedd, a bob dydd roedd hi'n gorfod dweud wrth yr ymwelwyr i gyd am ei throsedd, a chynnig eu cario ar ei chefn i'r llys.
Draw yng Ngwent Is Coed esgorodd un o feirch Teyrnon ar ebol. Clywodd Teyrnon dwrw, a gwelodd grafanc fawr yn dod drwy'r ffenest ac yn gafael yn yr ebol gerfydd ei fwng. Tynnodd Teyrnon ei gleddyf a thorri braich yr anghenfil yn union o dan y penelin. Syrthiodd yr ebol i'r llawr. Wrth gychwyn ar 么l yr anghenfil, er mawr ryfeddod, gwelodd Teyrnon blentyn bach yn gorwedd wrth y drws.
Ni wyddai pwy oedd y plentyn, felly magodd ef a'i wraig y bachgen bach am bedair blynedd. Yna clywsant hanes Pwyll a Rhiannon yn colli eu plentyn. Edrychodd Teyrnon ar y bachgen yn graff. Gallai weld tebygrwydd rhyngddo a Pwyll. Pryderi oedd hwn!
Pan gafodd Rhiannon ei mab yn 么l roedd mor llawen 芒'r dydd. 'Dyma wared fy mhryder i!' meddai.
'Pryderi, dyna enw da,' meddai Pwyll. 'Fe wnawn ni enwi'r bachgen yn 么l beth ddywedodd ei fam pan glywodd y newydd da amdano'n dod adref.'
Mwy
Cysylltiadau'r 成人快手
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.