成人快手

Chwedl Madog

Ail-gread o long Llychlynaidd

Yn 么l y chwedl, un o feibion Owain Gwynedd oedd Madog ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i ddarganfod America, cyn bod unrhyw s么n am 诺r o'r enw Christopher Columbus.

Y stori yw fod y Tywysog Madog wedi hwylio o borthladd Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn, yn 1170 - dair canrif cyn Columbus - a darganfod gwlad baradwysaidd draw ymhell tu hwnt i Iwerddon.

Daeth yn 么l i Wynedd ond dim ond er mwyn casglu mwy o'i gydwladwyr at ei gilydd i ymfudo gydag o dros y d诺r.

Llongau Madog

Wele'n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a'i dal o don i don.

Ceiriog

    Er bod ysgolheigion wedi hen daeru nad oes sail i'r chwedl am y fordaith honedig, deilliodd sawl darn o lenyddiaeth, barddoniaeth a damcaniaeth o'r stori dros y canrifoedd. Yn eu mysg, gerdd boblogaidd gan Ceiriog am 'Madog ddewr ei fron' a chan T Gwynn Jones .

    Yn fras, y ddamcaniaeth yw i Madog a'i gymdeithion lanio rywle oddi ar arfordir Gwlff Mecsico ac wedyn ymsefydlu yn Georgia, Tennessee a Kentucky gan symud i fyny'r afon Missouri lle dywedir iddyn nhw ymgyfeillachu a chriw o Indiaid o genedl y Mandaniaid.

    'Indiaid Cymraeg'

    Esgorodd hyn ar chwedl arall am lwyth o frodorion Americanaidd a siaradai Gymraeg a'r chwedl honno yn pesgi ar y ffaith fod ceyrydd carreg tebyg i rai a welir yng ngogledd Cymru i'w cael yn nyffryn Tennessee.

    Hefyd yn gig ar esgyrn y ddamcaniaeth oedd y ffaith fod y Mandaniaid yn defnyddio cychod yr un si芒p a chwryglau a bod rhai geiriau tebyg i eiriau Cymraeg yn eu hiaith.

    Yn y ddeunawfed ganrif mentrodd i'r America i geisio dod o hyd i'r gwir ond er na ddaeth o hyd i 'Indiaid Cymraeg' gwnaeth waith gwerthfawr yn mapio am y tro cyntaf y rhan hon o ogledd America.

    Dim sail

    Yn 么l haneswyr does dim sail i'r chwedl na thystiolaeth fod gan frenin Gwynedd yn y 12fed Ganrif, Owain Gwynedd - a oedd o dras Llychlynaidd ar ochr ei fam - fab o'r enw Madog. Ond er hynny, mae'r stori wedi profi'n un boblogaidd a hirhoedlog yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau.

    Yno, ger Fort Morgan yn Mobile Bay, Alabama, codwyd cofeb i Madog a'i griw yn 1953 ac mae na lefydd wedi eu henwi ar ei 么l yn y rhan hon o ogledd America.

    Ond er y dystiolaeth nad oes gwirionedd i'r stori, mae wedi bod yn arf propoganda defnyddio dros y blynyddoedd.

    Yn oes Elisabeth 1, defnyddiwyd y chwedl i hybu hawl y frenhines dros diriogaethau yn yr America a chysylltiadau'r Ymerodraeth 'Brydeinig', neu Frythonig, y naill ochr i f么r yr Iwerydd.

    Roedd hefyd yn boblogaidd ymysg y Cymry a ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn eu lluoedd yn yr 17eg a'r 18fed Ganrif.

    Cadw'r chwedlau'n fyw

    Un o'r rhai sy'n dal i geisio cadw'r stori'n fyw ydy aelodau Cymdeithas Ymchwil Ryngwladol Madoc (MIRA). Ers 2007 maen nhw wedi bod yn ceisio codi coff芒d o bwys i'r tywysog o Gymro yn Llandrillo-yn-Rhos. Eisoes mae plac llechen yn nodi'r stori ar wal o fewn libart t欧 preifat ger y prom yn y dre.

    "Mae nifer o bobl y ddwy ochr i'r Iwerydd wedi bod yn ymchwilio'r stori dros y blynyddoedd," meddai Howard Kimberley o Faesteg, sydd wedi sefydlu gwefan helaeth 'Madoc1170' i hyrwyddo ymchwil pellach.

    "Mae pwnc fel hwn yn siwr o fod 芒'i amheuwyr a'r hyn yr ydw i'n ei obeithio yw y bydd y wefan yn fodd i gyflwyno dwy ochr y ddadl," meddai.

    Mae MIRA cyn baroted 芒 neb i gydnabod nad oes prawf hanesyddol i hyn ddigwydd o gwbl a dyna'r rheswm pam y sefydlwyd y gymdeithas - er mwyn ceisio dod o hyd i brawf.

    "Dydym ni ddim yn gwybod ydi hi'n stori wir ond mae'n stori sy'n haeddu bod yn wir ac fe fyddem ni'n hoffi medru profi hynny," meddai Allyn Rees, cadeirydd MIRA.


    Llyfrnodi gyda:

    Dysgu

    Celtiaid

    Celtiaid

    Straeon a ffeithiau difyr am fyd y Celtiaid o Oes yr Haearn yng Nghymru.

    History for kids

    Sabrina

    Myths

    Journey into the world of Welsh myths in animated tales of adventure.

    Merlin

    Merlin

    Ar y wefan

    Fideos a gemau, gwybodaeth am y gyfres a mwy ar wefan Merlin.

    成人快手 iD

    Llywio drwy鈥檙 成人快手

    成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.