成人快手

O Gristion i Wrach

Addolwr yn Stonehenge

Fe wnes i astudio i fod yn weinidog Cristnogol a dod allan yn wrach". Hanes Kris Hughes, Pagan o Landdeusant.

Kris Hughes
Kris Hughes

"Mae 'na sawl traddodiad o fewn Paganiaeth - dewiniaeth, sef wikka, derwyddiaeth a doethgrefft, sef 'gwrachyddiaeth.' Mi fydda i'n ymarfer derwyddiaeth a doethgrefft, ond dim dewiniaeth.

"Roeddwn yn wyddonydd ac yn rhy ddadansoddol a dydi Cristnogaeth ddim yn hoffi pobl ddadansoddol. Mi wnes i ddarganfod fod defodau Cristnogaeth i gyd wedi eu hysbrydoli gan Baganiaeth - doedd yna ddim byd yn unigryw.

"Does gan y rhan fwyaf o Gymry ddim syniad am ein traddodiad Paganaidd - llenyddiaeth a thraddodiadau Cymreig sydd wedi ysbrydoli Paganiaeth dros y byd.

Dim Duw

"Rydan ni hefyd wedi dysgu oddi wrth ysgrifau clasurol gan Rufeinwyr y cyfnod fel Agricola. Aethant ati i ddinistrio'r gymdeithas dderwyddol oedd yn rheoli Prydain ar y pryd ond dwi'n meddwl eu bod yn eu hedmygu mewn ffordd ac fe wnaethon nhw gofnodi rhai o'u traddodiadau.

"Doedd y derwyddon ddim yn addoli natur, ond yn gweithio law yn llaw gydag egni naturiol y byd naturiol, ac yn gweld yr egni yma yn symud trwy droad y flwyddyn.

"Does gennym ni fel Paganiaid ddim duw, y gred baganaidd yw mewn imminent deity - lle mae beth fyddech chi'n hoffi ei alw'n dduw yn rhan ohonom. Fedrwch chi ddim addoli beth ydych chi'n barod. Mae 'duw' y tu mewn i bob dim sy'n byw ar y ddaear - pob deilen, llyn, darn o dd诺r, yr hanfod cyfan.

Derwyddon Dwl

Derwyddon yn Stonehenge
Derwyddon yn Stonehenge

"Gan nad oes gennym ni ysgolion, athrawon na llyfr fel y Beibl, does neb i ddweud beth sy'n gywir ac yn anghywir. Mae i gyd yn ymwneud 芒'ch 'awen' chi, sef yr enaid.

"Awen yw'r ysbryd sydd yn eich ysbrydoli trwy gelf, cerdd, barddoniaeth, a'r hynny sydd yn mynegi eich cysylltiad chi gyda phob dim sydd yn y byd. Yr unig ffordd i'w fynegi yw drwy fod yn greadigol, fel yr Eisteddfod, er nad ydym fel derwyddon yn cysylltu ein hunain 芒'r Eisteddfod Genedlaethol lle maent yn ymarfer arferion paganaidd o dan ymbar茅l Cristnogaeth. Mae'n reit ddoniol eu gweld yn gwisgo ar gyfer defodau paganaidd heb ddeall beth mae'n ei olygu. Mae yna eisteddfod i dderwyddon Prydain bob mis Gorffennaf yn Dingestow, Sir Fynwy lle rydym yn cyfarfod i ddathlu am wythnos.

Aberthiadau'r Celtiaid

Llyn Cerrig Bach
Llyn Cerrig Bach

"Mae 'na lwyth o lefydd yng ngogledd orllewin Cymru sy'n bwysig i ni. Mae Bryn Celli Ddu a'i deml fawr Neolithig yn bwysig, a'r meini hirion uwchben Penmaenmawr. Dwi'n meddwl fod 'na bron iawn i bumdeg o safleoedd ar Ynys M么n ag arwyddion Paganaidd. Maen nhw i gyd yn dod o amser lle roeddent yn mynegi'r cysylltiad rhwng tylwyth a thir - rhwng diwylliant y bobl a'r continiwm sy'n rhedeg drwy'r diwylliant Celtaidd.

"Mae gwaith archeolegol ar leoliadau o'r Oes Haearn, er enghraifft yn Llyn Cerrig Bach, wedi darganfod fod aberthiadau wedi cael eu taflu i'r llyn yn 么l hen draddodiad y derwyddon. Hefyd, mae llenyddiaeth o'r cyfnod rhwng y chweched a'r unfed-ganrif-ar-ddeg, fel Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch, gwaith Iolo Morgannwg a llyfr Taliesin yn s么n am ddoethineb traddodiadol a hudoliaeth yr hen Gymry, ein cyndadau.

"Dwi hefyd yn rhan o hen draddodiad 'doethgrefft'. Roedd yn rhaid i ni feddwl am air newydd i ddangos y gwahaniaeth rhwng dewiniaeth a doethgrefft. Mae'r gair gwrach (witch) yn dod o'r Eingl Sacsoneg am ddoethineb (wise), ac yn Saesneg witchcraft ydy'r term; felly 'doethgrefft'.

"Rydym yn dod at ein gilydd wyth gwaith y flwyddyn i ddathlu'r gwahanol wyliau ac mae pob dathliad yn arbennig i'r tymor. Ar Galan Gaeaf byddwn yn dathlu marwolaeth a'i holl gyfrinachau ac erbyn Alban Arthan (Winter Solstice) byddwn yn dathlu genedigaeth yr haul a bywyd newydd.

"Rydym yn ymgynnull yng ngogledd M么n, yn un o'r llefydd sanctaidd ar yr ynys, neu ar lan y m么r, yn y goedwig, wrth ymyl llyn.

Gucci o wisg Paganaidd!

Mae traddodiadau derwyddiaeth a doethgrefft yn creu cymunedau ffantastig - dyma un o'r rhesymau gorau i ddod yn dderwydd neu wrach, beth bynnag ydych chi.

"Rydym yn gwisgo mewn gwisgoedd arbennig adeg y gwyliau yma. Mae pobl yn meddwl fod Paganiaid yn fudr a bl锚r ond dydy o'n sicr ddim yn rheswm i ddangos diffyg chwaeth! Rydw i'n gwisgo'r Gucci o wisgoedd Paganaidd! Yn draddodiadol mae derwyddon yn gwisgo gwyn ond du ydy fy lliw i - mae'n well at guddio pechodau!

"Rydym yn ein gwisgoedd am yr un rheswm mae rhywun yn gwisgo i fynd allan am noson - mae'n ddefod i ymolchi a gwisgo'n ddel. Mae pobl yn ei wneud i baratoi'n seicolegol ar gyfer rhywbeth anarferol, i symud o rywbeth bob dydd i rywbeth rydych am ei fwynhau, a dyna pam rydym yn gwisgo clogyn. Mae'r ymennydd yn deall fod rhywbeth gwahanol i'r arfer am ddigwydd ac mae hynny'n gyffrous.

"Mae pawb yn dathlu bywyd - gan gynnwys y pethau mwyaf difrifol sy'n digwydd mewn bywyd hefyd, fel rhywun yn marw. Mae popeth yn brofiad sy'n unigryw i'r person, dyna beth sydd yn eich gwneud chi'n chi. Yn lle suddo o dan y straen, rydym yn ei ddathlu, er ein bod yn byw mewn cymdeithas lle nad yw pawb wedi cael eu dysgu i ymddwyn felly."

Yn 2010 cyhoeddodd y Comisiwn Elusennol bod Paganiaeth y Derwyddon yn grefydd swyddogol.

Cyhoeddwyd gyfraniad Kris Hughes ar wefan 成人快手 Lleol yn wreiddiol.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.