成人快手

Omid Behi a'r Baha'i

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

22 Ebrill 2010

Cadw at y ffydd y cafodd ei geni iddi

Cafodd Omid Behi ei eni i deulu a ddilynai ffydd y Baha'i.

"Ond yn y ffydd rhywbeth pwysig yw gwneud penderfyniad ein hunain pan rydym yn troi'n bymtheg oed," meddai ac fe wnaeth ef y penderfyniad hwnnw i gadw at y ffydd.

"Mae yna bwyslais mawr ar ymchwilio i'r gwirionedd ein hunain yn annibynnol," ychwanegodd Omid sy'n gweithio'n rhan amser mewn bwyty ym Mangor.

"Am flwyddyn mi wnes i roi amser i'r gymuned Baha'i," meddai.

"A dim jest efo dilynwyr y grefydd da ni yn gweithio ond efo pawb i weld sut da ni yn gallu gwneud ein cymunedau'n well," meddai.

"Mae 'na gymuned fach Baha'i yng ngogledd Cymru ac mae yna ryw wyth neu naw Baha'i ym Mangor ei hun . . . a phan oeddwn i yn y brifysgol yng Nghaerdydd roeddwn i'n rhan o gymuded ychydig bach mwy. Roedd yna lot o Baha'is yn y brifysgol. Lot fwy yn ne Cymru," meddai.

Ond ychwanegodd nad oes llawer sy'n siarad Cymraeg.

"Fi a fy chwiorydd a 'chydig bach," meddai.

"Mae yna bwyslais i ddysgu'r grefydd i bawb os ydyn nhw eisiau gwybod ond does yna ddim fforsio pobl.

"Achos ei fod yn rhywbeth pwysig i mi a dwi'n meddwl ei fod yn rhywbeth sbesial mae'n rhywbeth faswn i yn licio'i rannu efo pobl eraill os ydynt eisiau gwybod," meddai.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.