- Ganwyd John Roberts yn Rhiw Goch, Trawsfynydd ym 1577. Mae'n debyg iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Madryn, Trawsfynydd. Credir iddo fyw wedyn naill ai yn y Gelli Goch neu Dyddyn Gwladys, Trawsfynydd.
- Ef oedd mab hynaf Robert ac Anna Roberts. Roedd yn frawd i Ellis, Cadwaladr, Gwen, Margaret ac Ellen.
- Mae ei linach yn mynd yn 么l i Cunedda ac ymysg rhai o'i hynafiaid uniongyrchol mae: Maelgwn Gwynedd, Rhodri Fawr, Hywel Dda, Gruffydd ap Cynan ac Owain Gwynedd.
- Ymysg ei hynafiaid anuniongyrchol mae: Dewi Sant, Uthr Pendragon, y Brenin Arthur, Owain Glynd诺r, Llewelyn Fawr, Llewelyn ein Llyw Olaf.
- Mae'n debyg mai mab fferm oedd o. Ond rhaid cofio mai'r system gyntaf-anedig oedd yn gweithredu yn y cyfnod. Rhiw Goch oedd fferm y teulu ac fe aeth honno i ewythr John Roberts, nid i'w dad.
- Yn Rhiw Goch y magwyd Robert Lloyd, aelod seneddol cyntaf Meirionydd a chefnder John Roberts.
- Yr oedd teulu John Roberts yn eithaf cefnog a hynny'n ei alluogi i fynd i'r coleg.
- Credir iddo gael ei addysg gynnar gan hen fynach a ddifeddiannwyd o Abaty Cymer, wedi i Harri'r VIII gau'r mynachlogydd.
- Magwyd John Roberts yn Brotestant ac aeth i Goleg Sant Ioan, Rhydychen, ar Chwefror 26, 1595, i gael ei addysg ond gadawodd a mynd i Furnival's Inn i astudio'r gyfraith.
- Bu'n teithio'r Cyfandir a thra ym Mharis trodd yn Babydd yn eglwys gadeiriol N么tre Dame.
- Aeth i Bordeaux ac wedyn i'r Coleg Saesneg yn Valladolid, Sbaen. Wedi blwyddyn yno aeth i Abaty Sant Benedict, Valladolid, ac wedyn yn nofydd yn Abaty Sant Martin yn Santiago de Compostella.
- Wedi iddo gael ei ordeinio aeth i genhadu yn Lloegr ac ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr wedi i Harri'r VIII ddiddymu'r mynachlogydd.
- Er bod ysbiwyr y llywodraeth yn ei ddilyn llwyddodd i lanio yn Lloegr.
- Daliodd yr awdurdodau ef bedair neu bum gwaith - unwaith ym mis Tachwedd 1605 yn ystod Brad y Powdr Gwn.
- Ar bob achlysur wedi cyfnod byr o garchar dedfrydwyd ef i alltudiaeth.
- Yn ystod y cyfnod pan oedd y Pla Du yn ymledu trwy Gymru a Lloegr bu John Roberts yn gweini ar gleifion yn Lundain.
- Yn 1610 dychwelodd i Loegr am y tro olaf er ei fod yn gwybod mai dienyddiad fydda'r gosb pe cai ei ddal. Un diwrnod tra'r oedd yn ei urddwisg ac yn gorffen yr Offeren aethpwyd ag ef i Newgate.
- Cafwyd ef yn euog o uchel frad ac fe'i dienyddiwyd ar Ragfyr 10, 1610, trwy ei grogi, ei ddadberfeddu a'i chwarteru. Ymgasglodd tyrfa fawr yn dyst i'r digwyddiad gan iddo ddod mor boblogaidd ymysg y tlodion yn ystod cyfnod y pla.
- Er mai'r arfer oedd dadberfeddu person tra'r oedd yn dal yn fyw ni chaniatawyd hynny gan y dorf yn achos John Roberts gan fod ei garedigrwydd yn dal yn fyw yn eu cof.
- Traddodiad arall oedd bod y dadberfeddwr wedi'r weithred yn dal y galon i fyny gan ddatgan, "Wele galon bradwr!" Byddai'r dorf wedyn yn ateb "Hir oes i'r Brenin". Ond y tro hwn roedd y dorf yn fud.
- Roedd John Roberts yn 33 oed pan gafodd ei ddienyddio gydag un offeiriad arall a 16 o Ffelwmiaid.
- Ond nid yw'r stori'n diweddu 芒'i farwolaeth. Wedi'r dienyddiad aeth y mynachod 芒'r corff i Douai yn Ffrainc. Ond roedd un goes wedi disgyn i ddwylo'r gelyn. Aethpwyd 芒 rhannau o'i gorff i Goleg Sant Gregory, coleg yr oedd ef yn un o'i brif sefydlwyr ym 1606-7. Roedd y coleg yn hyfforddi offeiriaid i'r genhadaeth Saesneg.
- Aethpwyd 芒 rhannau eraill o'i gorff i Valladolid a Santiago de Compostella ond diflannodd y rhain yn ystod y Chwyldro Ffrengig a'r Chwyldro Sbaenaidd.
- Mae un o'i fysedd yn Eglwys Gatholig Blaenau Ffestiniog; un arall mewn lleiandy yn Tyburn a thrydydd yn Taunton.
- Darganfuwyd un o'i freichiau'n ddiweddar ym meddiant teulu brenhinol Sbaen. Erbyn hyn mae hi yn Santiago de Compostella.
- Gellir gweld dau lun gwahanol o John Roberts yn Eglwys Gatholig Gellilydan a rhyw ddeng mlynedd yn 么l gosodwyd llun ohono yn Valladolid. Gosodwyd cerflun ohono mewn eglwys ym Mhortiwgal tua'r un pryd.
- Mae dau gerflun yn Abaty Downside ger Caerfaddon, prif ganolfan Benedictaidd Prydain. Yma hefyd ceir llawer o wybodaeth ysgrifenedig amdano ac mae un o dai'r ysgol wedi ei enwi ar ei 么l.
- Cynhelir gwasanaeth i'w goff谩u ar ddiwrnod ei ferthyrdod, Rhagfyr 10, bob yn ail flwyddyn yn Eglwys Gatholig Gellilydan ac Abaty Cymmer.
- Ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au daeth nifer o Wyddelod ar bererindod i Drawsfynydd gan ymgasglu yn neuadd y pentref i'w drafod.
- Pan ddathlwyd ei fywyd yn Rhiw Goch ar Orffennaf 21, 1960, yr oedd dros fil o Gatholigion o bob rhan o ogledd Cymru yno.
- Enwyd Eglwys Gatholig ar ei 么l yng Nghorwen ond mae honno wedi ei chau a'i gwerthu erbyn hyn.