19 Gorffennaf 2010
O glicio ar y blychau llwyd yn yr adroddiad gellir clywed geiriau yr Arglwydd Elis Thomas ac Archesgob Caergaint.
Daeth 'Yr Hen Ffydd' a'r 'Hen Fam' at ei gilydd yn Abaty San Steffan, Llundain, ddydd Sadwrn Gorffennaf 17, 2010, mewn gwasanaeth i gofio merthyrdod y sant o Gymro, John Roberts, ac i ddathlu ei gyfraniad.
Gydag Archesgob Caergaint yn cymryd rhan hwn oedd y tro cyntaf i'r Gymraeg gael ei defnyddio mewn gwasanaeth yn yr Abaty.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Gyda'i wreiddiau yn Nhrawsfynydd treuliodd John Roberts, o'r unfed ganrif ar bymtheg, gyfnodau ym Mharis a Sbaen cyn cael ei ddienyddio gan y Protestaniaid yn Tyburn, Llundain, ac yntau ond yn 33 oed oherwydd ei ddaliadau Pabyddol.
Yn siarad yn y gwasanaeth dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, fod "John o Feirionnydd" yn "wir Ewropead" ac yn ysbrydoliaeth i Gymru heddiw.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Traddodwyd y bregeth yn y gwasanaeth gan Rowan Williams, Archesgob Caergaint a ddywedodd bod John Roberts a anwyd yn Rhiw Goch, Trawsfynydd, 1577, yn berson syml a theyrngar i'r 'Hen ffydd' fel llawer o ferthyron eraill.
"Nid oeddent yn byw mewn byd sydd wedi hanner marw ond mewn byd yn symud tuag at orwelion newydd," meddai.
"Roeddent yn blant y Dadeni, plant ailenedigaeth dychymyg a chreadigrwydd y cyfnod anarferol hwnnw," ychwanegodd.
Aeth yr Archesgob rhagddo i ddiffinio merthyron yn gyffredinol gan ddweud nad pobl a ddywedai "Na" wrth y byd mewn unrhyw ystyr syml oedden nhw.
"Mae'r merthyr," meddai, "yn berson sy'n gweld cyfoethogrwydd y byd. Cyfoeth bryd a dychymyg, cyfoeth dilyniant a phrydferthwch ysbryd dynol."
"Mae tystiolaeth y merthyr yn dweud rhywbeth wrthym am urddas dynol," ychwanegodd.