|
|
Bywyd
Mici
Mici Plwm yw'r diweddaraf o awduron Cyfres y Cewri - a dydi
stori'r clown ddim yn un wirion
Dydd Iau, Tachwedd 7, 2002
|
Meical Ddrwg o Dwll y Mwg gan Mici Plwm. Cyfres y Cewri
25. Gwasg Gwynedd. 拢6.95.
Y tu 么l i'r w锚n ar wyneb clown. . .
Mae'n ystrydeb s么n am y difrifoldeb sydd wrth wraidd bywyd digrifwyr
- ac yn sgil cyhoeddi y gyfrol hon synnwn i ddim na fydd Mici Plwm,
druan, wedi cael llond bol ar glywed yr ystrydeb yn cael ei hailadrodd
hyd syrffed.
Ond yn ei achos ef mae'n fwy nag ystrydeb; mae'n wirionedd.
Dwys a difyr
Yn wahanol i'r disgwyl i lawer mae mwy o'r dwys nag o'r doniol yn
y cofiant hwn a gyhoeddwyd ganddo mewn cydweithrediad 芒 Lyn Ebenezer
yng Nghyfres y Cewri.
Dydi hynny ddim, fodd bynnag, yn ei gwneud yn gyfrol drom ond yn un
ddifyr odiaeth.
Ond mae'n bwysig sylweddoli mai llyfr yw hwn am y Michael Lloyd Jones
nad yw'r cannoedd o edmygwyr Mici Plwm neu Plymbo'r Clown yn prin
ei adnabod os yn ei adnabod o gwbl.
Ac fel pe byddai i bwysleisio hynny prin y byddai'r rhai sydd ond
yn adnabod y Twmffat Twp yn adnabod wyneb y gwr sy'n syllu arnom oddi
ar glawr y llyfr.
Mae Mici Plwm - waeth defnyddio'r enw a ddefnyddir gan bawb - i'w
edmygu am fod mor onest amdano'i hun - a bod yn onest hefyd heb fod
yn ddagreuol, yn sentimental nac yn gas.
Yn sicr, nid aeth ati i lunio cofiant showbiz. Eer mai yn y
byd hwnnw y gweithiodd nid dyna fyd y person preifat y down i'w adnabod
yma.
Mewn cartref plant
Wedi ei fagu oddi wrth ei rieni mewn cartref plant mor hawdd fyddai
hi iddo'n awr gael ei ddal yn y fagl o fod yn ddagreuol or-deimladwy.
Yr hyn a gawn, fodd bynnag, yw onestrwydd a theimlad.
Mae'r hanes yn cychwyn ym mlynyddoedd yr Ail Ryfel Byd gyda Mr a Mrs
Barnett Harrison a'u merch Daphne o Lundain yn symud i fyw yn ardal
y Blaenau.
Maes o law priododd Daphne a Chymro lleol ac ar Fehefin 6, 1944, ganwyd
eu hail blentyn, Michael.
Dyma'r Meical Ddrwg o Dwll y Mwg yn nhestun y cofiant hwn.
Mici Plwm - ac mae eglurhad o'r enw hwnnw hefyd.
Yn un o bedwar o blant fu o ddim yn blentyndod hawdd. Gyda'i fam yn
treulio cyfnodau mewn ysbyty meddwl magwyd y teulu bach mewn cartref
plant.
"Byddai pymtheng mlynadd yn mynd heibio cyn y c芒i Mam ddod allan o'r
ysbyty. Pymtheng mlynadd cyn y bydden ni'n deulu cyfan unwaith eto.
Fe wnes i fynd i Fryn Llywelyn yn blentyn chwech oed. Fe fyddwn yn
dod allan yn ddyn ifanc," meddai.
Hen blant Bryn Llywelyn
Wrth gwrs yr oedd stigma yn perthyn i'r fath drefniant yr adeg honno.
"Cyn i ni fynd i'r cartra, plant Huw Morris, neu blant Huw M么r fydden
ni ond, wedi i ni fynd i'r cartra, 'hen blant Bryn' oeddan ni."
Yn wahanol i nifer a fu'n byw mewn cartrefi does gan Mici Plwm ddim,
diolch byth, hanes o gamdriniaeth ac mae'n hael ei deyrnged i'r gofal
a gafodd.
"Mi oedd Bryn Llywelyn fel adra. Gwell nag adra i rai."
Ond mae adra ac adra wrth gwrs a sawl disgrifiad, cynnil ddigon, yn
dweud cyfrolau:
"Yn hytrach na bod yn aelod o uned deuluol o chwech fel cynt, roeddwn
i'n aelod o un teulu mawr, ond yn unigolyn - ac yn aml yn unig - ymhlith
y rheiny."
Ac wrth gloi'r bennod hon yn ei fywyd dywed;:
""Ia, Metron a Mistar, hi yn angyles, ef yn iawn yn ei ffordd. Y ddau
yn fawr eu gofal ohonan ni. Ond nid Nhad a Mam oeddan nhw."
Ie.
Llwyddir i gyfleu cyfnod anodd heb i'r peth fod yn fwrn nac yn ddagreuol.
Syr Wynff a Phlwmsan
Amhosib, wrth gwrs, fyddai peidio ag ystyried Mici Plwm ar yr un gwynt
a Syr Wynff - Wynford Ellis Owen - ac adroddir yma hanes y bartneriaeth
hynod a ddaeth i fodolaeth gyntaf drwy'r gyfres deledu i blant, Teliffant.
Lladdwyd ac atgyfodwyd Syr Wynff a Phlwmsan fwy nag unwaith yn 么l
mympwyon comisiynwyr teledu fel y cawn ein hatgoffa yma a hynny'n
rhywbeth a fu'n ddirgelwch nid yn unig i'r ddau arwr ond i'w cynulleidfaoedd
niferus y daeth ymadroddion fel piwsig piwsig a raslas bach
a mawr yn rhan o'u geirfa bob dydd.
Nid Mici ei hun yw'r unig un i ryfeddu at rai o benderfyniadau y byd
teledu Cymraeg. Yn wir mae ganddo ef fwy nac un asgwrn i'w gnoi yn
y maes hwn.
Mae hanesyn am gyfres arfaethedig am ynys Tristan da Cunah yn ddadlennol
a dweud y lleiaf. Er cymaint o elfennau diddorol a gynigwyd gwrthodwyd
y syniad gan S4C am na chredwyd fod y pwnc "o ddiddordeb".
"Pan dderbyniais y llythyr, cystal imi gyfaddef i mi grio . . . diolch
i fympwy un neu ddau o bobl, chaiff gwylwyr S4C, yn anffodus, ddim
rhannu fy mreuddwyd," meddai.
Tebyg y teimlir ym Mharc Ty Glas mai hysio haid o bobl ifanc meddw
drwy glybiau nos tramor sydd "o ddiddordeb" i wylwyr Cymraeg y dyddiau
hyn - yn enwedig os gellir ffilmio merch wirion a'i safn yn nhr么ns
dyn diarth y tu allan i glwb nos.
Gall rhywun ddeall yn iawn beth sy'n peri i Mici yr ymgyrchydd dros
Sianel Gymraeg yn y saith a'r wyth degau ddweud:
"Petai raid i mi dreulio dyddiau a nosweithiau yng ngharchar eto,
fe wnawn i'n siwr y byddwn i'n gwneud hynny am achos amgenach na'r
sianel sy ganddo ni."
Raslas bach a mawr, fel y byddai Syr Wynff yn dweud.
Cyfaill alcoholig
Un o benodau dewraf y gyfrol - a'r un anoddaf i'w sgwennu, siwr o
fod - yw honno lle mae Mici yn trafod perthynas y ddau actor yn ystod
y cyfnod hwnnw pan oedd Wynford yng ngafael gefail alcoholiaeth.
Yr hyn a gawn yn, "Yn Gaeth i Alcoholig" yw golwg onest ar
gyfaill yn dygymod ag effeithiau salwch cyfaill.
"Wn i ddim a yw hynny'n ddeud rhy fawr ond roedd o'n gaeth i alcohol
a minnau'n gaeth i alcoholig," meddai gan egluro hefyd sut y bu mynd
drwy'r profiad yn ofid ac yn friw iddo yntau hefyd.
Dyfodol fel canwr
Wedi dweud hyn oll dydi'r gyfrol ddim yn amddifad o hiwmor ychwaith.
Ymhlith y goreuon o'r ffraethinebau yw sylwadau beirniaid canu am
ymdrech y Michael Lloyd Jones bychan ymhlith deugain o gystadleuwyr:
"'Gyfeillion annwyl, baswr fydd hwn," A'r dorf yn cymeradwyo eto cyn
i'r beirniad ychwanegu. 'Ond baswr s芒l gynddeiriog.'"
Bu gyrfa yr Hen Hogyn y Bryn hwn yn un amrywiol a diddorol
gan gychwyn yn drydanwr cyn cael gwaith yn y theatr Gymraeg yn nyddiau
blaengar Wilbert Lloyd Roberts, sy'n amlwg yn arwr mawr.
Ac nac anghofiwn ddyddiau'r disco teithiol a Disc a Dawn hefyd
cyn dyfod ohonynt hwyl gwahanol dyddiau Syr Wynff a Phlwmsan.
Profiad ar y mór
Ac yn ystod y daith bu amser i deithio byd, i weithio yn Hollywood
ac ymgymryd 芒 gweithgarwch gwirfoddol dros eraill - yn enwedig yng
nghyswllt y Jubilee Sailing Trust sy'n cynnig profiad i'r anabl
ar long hwyliau draddodiadol.
Ac y mae ei ap锚l daer am fenter debyg mewn gwlad a chymaint o draddodiad
y mór yn perthyn iddi a Chymru yn un gwerth ei hailadrodd yn
y gobaith y bydd mudiad fel yr Urdd yn cymryd yr awgrym o ddifrif:
"Fe fuasai'n wych petai'r Urdd neu rywun yn gwneud rhywbeth tebyg,"
meddai gan ychwanegu, "Mae gen i ffrind mawr, Fred Kilgour . . . a
ddaeth i Drefor adeg y rhyfel ac sydd wedi dysgu Cymraeg . . .
"Fe gododd un bore a chanfod ei fod yn fyddar bost. Mae o wedi
bod yn sgwennu dros y blynyddoedd i'r Swyddfa Gymreig ac wedyn at
y Cynulliad yn ymbil am long hwyliau er mwyn i bobol Cymru gael y
profiad unigryw yma o fwynhau'r elfennau . . . Ac mi faswn i'n enwi'r
llong yn Fred Kilgour."
Minnau hefyd.
Tebyg mai'r ganmoliaeth uchaf i unrhyw gofiant yw ei fod nid yn unig
yn digoni y chwant fusneslyd sydd ym mhob un ohonom ond yn rhoi golwg
arall ar fyw a bywyd hefyd. Mae Meical Ddrwg o Dwll y Mwg yn
cyflawni hynny.
Glyn Evans
Holi
Mici Plwm
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|