³ÉÈË¿ìÊÖ


Explore the ³ÉÈË¿ìÊÖ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



³ÉÈË¿ìÊÖ ³ÉÈË¿ìÊÖpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mici Plwm - ar glawr ei lyfr Holi awdur:
Mici Plwm

Awdur y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cewri

Dydd Iau, Tachwedd 7, 2002
• Enw:
Mici Plwm

• Beth yw eich gwaith?

Cyfarwyddwr Artistic,Theatr Ardudwy Harlech,Gwynedd.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Rwyf yn dal i gael cyfle i actio ar y teledu; radio a llwyfan o dro i dro. Pan fydd prysurdeb y gwaith yn Theatr Ardudwy yn caniatau fe fyddaf wrth fy modd yn teithio ac ysgrifennu.

• O ble'r ydych chi¹n dod?

Wedi fy ngeni a fy magu ym mhentref Llan Ffestiniog.

• Lle'r ydych chi¹n byw yn awr?

Dwi fel sipsiwn - does wybod ble i gael gafal arnai! Cnociwch ddrws yn unai Harlech; Caerdydd; Pwllheli neu ym mhentref Matochi,Ynys Agistri, Groeg

• Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi?

Bwyta fy nghyri cyntaf a dysgu sut i chwibanu heb boeri….

• Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano
.
Gwasg Gwynedd yn fy mherswadio fod yna stori i'w dweud. Lyn Ebenezer yn cynorthwyo i groniclo a rhoi trefn ar bethau - a diolch iddo, mae'n ffrind da.

Braint ydi bod yn un o awduron Cyfres y Cewri o ystyried ma rhyw bum troedfedd a dim ydwi. Gobeithio bydd y cynnwys yn dangos bod "taith bywyd yn medru bod yn ddifir" - hyd yn oed os ma dim ond tystysgrif Special Arithmetic oedd ganddoch yn gadael yr ysgol.

• Beth arall ydych chi wedi eu sgrifennu?

Sgriptiau teledu; theatr a radio a erthyglau amrywiol i gylchgronau a llyfrau teithio…

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

Y Beibl

• A fyddwch yn edrych arno'n awr?

Byddaf yn eitha aml pan yn paratoi i fynd I annerch/bregethu ambell i Sul…

• Pwy yw eich hoff awdur?

Neb penodol. Er prysurdeb, yn darllen llawer mwy y dyddiau yma, yn enwedig yn y bwthyn yn Matochi, Ynys Agistri…

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Na

• Pwy yw eich hoff fardd?

Mwynhau gwaith nifer o feirdd. Yn ddiweddar cael blas mawr ar waith Michael Davitt o Iwerddon.

• Pa un yw eich hoff gerdd?

Ma pob cân o waith Emyr Huws Jones ac Alun "Sbardun" Huws yn gerddi i mi….

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

Tydi Benllech ddim yn nefoedd enwedig yn yr Haf….

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Ffilmiau: Wedi gwylio Saturday Night and Sunday Morning dros ddwsin o weithiau ac yn dal i fwynhau…
Teledu: Rhaglenni dogfen da sydd yn plesio - ond mae yna ambell i glasur ymysg C'mon Midffîld hefyd..

• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

Tydwi ddim wedi meddwl nac ychwaith ystyried y peth. Barti Ddu o Gasnewydd Bach yn gês ddwedwn i…

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?.

Tlws yw popeth bychan

• Pa un yw eich hoff air?

Pero

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Yn ddiolchgar eithriadol am hynny o ddoniau ges i - ond mi faswn yn hapus iawn taswn i'n medru canu fel Gwyn Hughes Jones…

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

±á²¹±è³Ü²õ….
µþ²â³¦³ó²¹²Ô…
Crwn.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

Ma byw ar ben fy hun am flynyddoedd wedi fy ngwneud yn un twt iawn - ac yn annioddefol o annibynnol weithiau…

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?

Athro Hywel Teifi Edwards - person ffraeth gyda dawn dweud arbenig ac yn un annwyl iawn. Pleser a braint ydi bod yn ei gwmni dros beint neu ddau….

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

Unrhywbeth morwrol ond bod y cyfaill y diweddar Aled Eames yno hefyd…

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu'n ei ofyn?
Falch o gyfarfod nifer - tebyg y baswn i'n deud 'Helo' - dwi'n berson swil iawn nes byddai wedi dod i adnabod pobol. . .

• Pa un yw eich hoff daith a pham?

O Gymru i Ynys Agistri, Groeg…

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Pysgod o'r môr wedi eu glanio yn harbwr Milos gan Aris a'u coginio gan ei chwaer, Katrina - eu golchi i lawr hefo krasi lleol…

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Hwylio a theithio i ynysoedd

• Pa un yw eich hoff liw?

Brown fatha cyri…

• Pa liw yw eich byd?

Gwyrdd dwi'n ama…

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf Iaith bendant.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Oes dau neu dri….

• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

Llaciodd Maldwyn felt ei drowsus ac fe darodd rechan wnaeth fymryn o blastar syrthio o nenfwd y gegin gefn.
"Madras bendigedig," meddyliodd . . .
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru'r Byd






About the ³ÉÈË¿ìÊÖ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy