| |
|
|
|
|
|
|
|
Si芒n Lewis Mam Gwil Bril
Cliciwch i glywed Gaynor Davies yn siarad gydag awduron eraill.
A hithau wedi ei magu ar aelwyd lle'r oedd yna sgrifennu nid yw'n syndod i Si芒n Lewis fod wedi dechrau sgrifennu yn ifanc iawn - a chael cyhoeddi ei gwaith cyntaf pan yn naw oed!
"Yr oedd fy nhad a mam yn sgrifennu ac yn y cyfnod pan oeddwn i'n fach iawn roedd yna lyfrgellydd brwdfrydig iawn yng Ngheredigion oedd yn annog pobl i sgrifennu llyfrau plant ac roedd fy nhad a mam yn gwneud, a'u ffrindiau nhw'n gwneud, felly rydw i wedi byw erioed mewn t欧 lle'r oedd yna ysgrifennu llyfrau - yn enwedig llyfrau plant," meddai wrth gael ei holi gan Gaynor Davies ar 成人快手 Radio Cymru fore Gwener, Ionawr 19, 2007..
Trysorfa'r Plant Datgelodd mai'r peth cyntaf a gyhoeddodd oedd pennill am Syr Gwyn Cwningen yn Nhrysorfa'r Plant yn naw oed.
Erbyn hyn y mae'n awdur nifer fawr o lyfrau i blant yn straeon ac yn bosau - un arall o'i diddordebau.
Hi yw 'mam' y dyfeisydd rhyfeddol hwnnw o Gymro, Gwil Bril, deg oed, ac mae'n awdur hefyd, cyfres o lyfrau hanes a gyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch lle'r edrychir ar rhyw ddigwyddiad yn hanes Cymru o safbwynt plentyn oedd yn byw ar y pryd.
Ar hyn o bryd mae'n paratoi i ychwanegu dau lyfr newydd at y gyfres honno ac ail lyfr Twm yn y Canol a gyhoeddir gan Wasg Gomer.
Gari Tryfan A phan fo hi ei hun yn cael amser i ddarllen? Dywedodd mai llyfrau ditectif sy'n mynd 芒'i bryd.
"Cefais lyfr Gari Tryfan pan oeddwn i'n bump oed; dydw i ddim yn cofio ai fi a'i darllenodd e ynteu rhywun ddarllenodd e imi ond er i fod o'n codi dychryn arnaf i roeddwn i wedi'i fwynhau a dyna'r math o lyfr rydw i'n hoffi ddarllen," meddai.
Cymraeg a Saesneg Mae'n sgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg gan ddweud ei bod yn gyfforddus yn y naill iaith a'r llall.
"Ond rydw i wastad yn meddwl am rywbeth fel yn perthyn i'r iaith gyntaf y'i sgrifennwyd ynddi," meddai gan ychwanegu fod popeth yn colli rhywfaint o'i naws o'i gyfieithu.
Mae Si芒n wedi byw yn ardal Aberystwyth gydol ei hoes ac wedi cyfnod o sgrifennu i gylchgronau'r Urdd cafodd swydd gyda'r mudiad.
"A dyna lle dechreuais i sgwennu straeon," meddai.
Darlledir Rhaglen Gaynor Davies rhwng pump a saith y bore ar 成人快手 Radio Cymru.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|