| |
|
|
|
|
|
|
|
Mari George Holi awdur, Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt
Beth yw eich gwaith? Golygydd Sgriptiau ac awdur i Pobol y Cwm
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Golchi llestri mewn caffi ym Mhen-y-bont, gweithio yn Marks and Spencers, cyfieithu i gwmni Araul yn Llantrisant a gweithio yn wirfoddol gyda phlant y stryd ym Mecsico.
O ble'r ydych chi'n dod? Pen-y-bont ar Ogw.
rLle'r ydych chi'n byw yn awr? Grangetown, Caerdydd.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Na. O'n i'n breuddwydio gormod i ganolbwyntio. O'n i wastad yn colli'r bws yn y gobaith o gael diwrnod bant. Yr unig beth nes i ei fwynhau oedd lefel A Cymraeg.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf ac a wnewch chi ddweud ychydig amdano? Mae'r gyfrol yn gasgliad o gerddi a luniais yn ystod y deng mlynedd diwethaf - sef cyfnod fy ugeiniau. Dw i wedi trio adlewyrchu profiadau dwys, llawen, anaeddfed ac ansicr person ifanc. Mae'n nhw'n dweud mai fi yw'r person cyntaf i ddod a PMT i fyd barddoniaeth Gymraeg!
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Dim ond y gyfrol Pili Pala pan enillais y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd 1994.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? The Lion the Witch and the Wardrobe - CS Lewis.
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Na, ond dw i'n meddwl amdano'n amal am ryw reswm!
Pwy yw eich hoff awdur? Dylan Thomas, Ian Martell, Robin Llywelyn.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Y Beibl.
Pwy yw eich hoff fardd? Gerallt Loyd Owen ac Emyr Lewis.
Pa un yw eich hoff gerdd? Fy ngwlad - Gerallt Lloyd Owen a Rhyddid - Casgliad o gerddi Emyr Lewis a enillodd y goron iddo ym Mro Ogwr.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? ...rhwng y coed ar lannau Taf noswyliwn mewn dawns olaf yn s诺n brainryw noson braf
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Fy hoff ffilm yw Don't Look Now a fy hoff raglen deledu yw Sex and the City.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Fy nghas gymeriad yw cymeriad y fam yn Sons and Lovers - D H Lawrence.Fy hoff gymeriad yw Branwen yn y Mabinogi.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Man gwyn man draw.
Pa un yw eich hoff air? Heddwch.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i ganu'n wefreiddiol.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Trwsgwl, brwdfrydig, hapus.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Dw i methu gwneud penderfyniadau.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Hywel Teifi Edwards am ei allu i siarad yn synhwyrol ac angerddol yn ddibaid a pheidio bod ofn dweud ei farn.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Croesi'r M么r Coch.
Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Iesu Grist a bydden i'n gofyn iddo am ei farn am gyflwr y byd heddiw.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Cerdded o Ferthyr Mawr dros y twyni tywod i draeth Aberogwr. O'n ni'n mynd yna fel teulu pan o'n i'n blentyn gyda ffrimpan a llond bag o sosejys a chael barbaciw ar 么l cyrraedd.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Popadoms a cyri a photel o win coch.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen, rhedeg, dysgu Sbaeneg a bwyta allan!
Pa un yw eich hoff liw? Coch.
Pa liw yw eich byd? Melyn
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Dim rhagor o raglenni pry ar y wal.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes. Llyfr am fy mhrofiadau ym Mecsico.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall? Camodd Sara allan drwy'r drws ffrynt i weld bod y strydoedd yn wag a sylweddolodd mai hi oedd yr unig berson oedd ar 么l ar y ddaear.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|