| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwyn Thomas Dyn y Blaenau yn creu argraff
I gyd-fynd 芒 chyhoeddi cyfrol ddiweddaraf Gwyn Thomas Bu Beti George o raglen radio Y Celfyddydau ar ymweliad a bro ei febyd ym Mlaenau Ffestiniog yn ei gwmni.
Ar gyfer y gyfrol, Blaenau Ffestiniog, cyfansoddodd Gwyn Thomas nifer o gerddi i gydfynd 芒 lluniau o'r ardal gan Jeremy Moore.
Bu ymweld a gwahanol fannau yn y lluniau yn fodd i Gwyn Thomas, ein bardd cenedlaethol ar hyn o bryd, ac awdur 17 o gyfrolau, hel atgofion am y fro ar Y Celfyddydau.
Hefyd cafwyd cyfraniadau gan siaradwyr eraill fel Alan Llwyd, Dafydd Elis Thomas a John Ogwen am wahanol agweddau o fywyd a gwaith y bardd a'r ysgolhaig.
Cyhoeddwn ar y ddalen hon bytiau sain o'r rhaglen.
Capel a phictiwrs Dywedodd Gwyn Thomas mai dau o'r dylanwadau mawr arno pan yn blentyn yn yr ardal oedd y capel a'r pictiwrs.
Ond ychwanegodd mai 'rafin' o gapelwr oedd o.
Bu'n s么n hefyd am y sbardun fu'r pictiwrs i sefydlu giangiau cowboi gwrthwynebus i'w gilydd yn yr ardal gyda "rhyfel" wedi ei drefnu "ar 么l te" un noson.
Cydfyfyriwr yn cofio
Yr oedd y Dr R Alun Evans yn fyfyriwr ym Mangor yr un adeg 芒 Gwyn Thomas ac yn ei gofio fel myfyriwr galluog ac ymroddgar a oedd yn codi cywilydd ar fyfyrwyr eraill llai gweithgar!
Y darlithydd
Yn 1961 penodwyd Gwyn Thomas yn ddarlithydd yn adran y Gymraeg yn ei hen goleg ym Mangor ac ymhlith ei fyfyrwyr cyntaf yr oedd Dafydd Elis Thomas -yr Arglwydd Elis Thomas, llywydd y Cynulliad erbyn hyn.
Roedd ef yn cofio'i ddawn ddihafal i geryddu'n garedig!
"Roedd ganddo y ddawn o fedru rhoi row i rywun. Er mod i'n esgus bod yn dipyn o athronydd mi fethais i Athroniaeth yn fy mlwyddyn gyntaf - ond roedd Gwyn yn . . . medru dweud y drefn ond efo'r w锚n arbennig yna ar ei wyneb," meddai.
"Yr oedd yn ddylanwadol iawn arnom fel athro," ychwanegodd.
Siarad ffwtbol
Hawddgarwch ac anwyldeb Gwyn Thomas sy'n aros yng ngof yr actor John Ogwen, un arall o'i fyfyrwyr:
"Dydw i ddim yn meddwl imi ddod ar draws person mwy annwyl a hawddgar yn fy mywyd," meddai.
Ychwanegodd fod ganddo ef fel myfyriwr fwy o ddiddordeb mewn p锚l-droed a chwaraeon nag yn ei astudiaethau llenyddol gyda Gwyn Thomas hefyd yn ymuno a'r diddordebau hynny hefyd.
"P锚l droed - dyna oedd ein sgyrsiau ni. Doeddem ni ddim yn trafod yr hengerdd na barddoniaeth yr uchelwyr ond yn trafod Everton a Man U," meddai John Ogwen.
Bardd gwahanol
Myfyriwr arall a fu wrth draed Gwyn Thomas ym Mangor oedd llanc ifanc o'r enw Alan Lloyd Roberts - sy'n adnabyddus fel Alan Llwyd erbyn hyn.
"Roeddwn yn cael sgyrsiau maith efo Alan am farddoniaeth," meddai gwyn Thomas.
Datgelodd Alan Llwyd yntau mai'r ffaith fod Gwyn Thomas yn yr adran a'i denodd ef yn fyfyriwr ym Mangor.
Ychwanegodd mai Y Weledigaeth Haearn oedd y gyfrol gyntaf o farddoniaeth Gwyn Thomas iddo ei darllen.
"Hwn oedd y llyfr agorodd fy myd i bosibiliadau newydd sbon yn y Gymraeg. Roedd y Gymraeg yn dueddol i ddilyn patrymau set ond roedd hwn fel pe byddai yn mynd ei ffordd ei hun . . ."
Traddodiadol ac arbrofol
Cyfeiriodd Alan Llwyd at y cyfuniad annisgwyl o'r traddodiadol a'r arbrofol ym marddoniaeth Gwyn Thomas "sy'n gartrefol ac yn llefaru'n uniongyrchol".
"Mae'n ymddangos fel pe tae o ddim yn barddoni - neu yn dadfarddoni - ond barddoni mae o," meddai.
Barddoniaeth hawdd ei deall
Un o rinweddau barddoniaeth Gwyn Thomas yng ngolwg llawer iawn o bobl yw ei bod yn hawdd i'w deall. Meddai Gwyn Thomas am hynny:
"Cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn rhaid i'r peth fod yn ddealladwy yn weddol sydyn . . . gan obeithio bod yna bethau eraill yno os ydi pobl eisiau chwilio amdanyn nhw.
"Ond yn fy marn i rhaid i farddoniaeth ymwneud 芒 theimlad yn y lle cyntaf yn ogystal 芒 meddylwaith ac y mae cael y teimlad mae rhywun yn ceisio'i gyfleu yn weddol uniongyrchol wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn bwysig i mi o'r dechrau un," meddai.
Anodd eu hadrodd
Ond er bod cerddi Gwyn Thomas yn ymddangos yn hawdd dydy nhw ddim yn rhai hawdd i'w llefaru yn 么l John Ogwen sy'n ceryddu eisteddfod yr Urdd am eu dewis mewn cystadlaethau.
"Oherwydd eu bod yn meddwl fod cerdd ar destun cyffredin mae tuedd i feddwl bod y gerdd yn gyffredin - ond dydi hi ddim," meddai.
Sylwadau disgyblion ysgol
Bu disgyblion o Ysgol Brynrefail, Llanrug, a David Hughes, Porthaethwy, yn dweud beth oedden nhw'n i feddwl o farddoniaeth Gwyn Thomas.
Cysylltiadau Perthnasol
Bywyd Bach - hunangofiant Gwyn Thomas
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|