成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Holi Gareth Miles
Holi Gareth Miles, awdur y nofel Cwmtec.
Enw: Gareth Miles

Beth yw eich gwaith?
Awdur

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Bum yn athro Saesneg a Ffrangeg mewn ysgolion cyfun yn Amlwch, Wrecsam a Dyffryn Nantlle ac yn Drefnydd Cenedlaethol UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru).

0 ble'r ydych chi'n dod?
Fe'm ganwyd yng Nghaernarfon ac fe'm magwyd yn y Waun Fawr, sydd dair milltir o'r dref honno.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Pontypridd

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, yn Ysgol Gynradd Waunfawr ac yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Ddim cymaint yng Ngholeg Llanymddyfri a Cholegau Prifysgol Cymru, Bangor ac Aberystwyth.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Hoffter o nofelau ditectif Americanaidd ac awydd i ddefnyddio sgript deledu a erthylwyd.

Dwedwch ychydig amdano.
Defnyddiais ffurf a thechnegau'r nofel dditectif Americanaidd i drafod problemau cyn-filwr sy'n dioddef o anhwylder 么l-drawmatig (PTSD), i fwrw golwg dros fywyd yng Nghymoedd y De, i ddadansoddi Cymreictod a Phrydeindod ac i ystyried y berthynas rhwng dynion a merched.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Pelydr LL (Lolfa), comic gwleidyddol;
Cymru ar Wasgar (Lolfa), straeon;
Tre-ffin (Lolfa), straeon;
Trefaelog (Annwn), nofel;
Diwedd y Saithdegau (Cyhoediadau Mei), drama;
Duges, Tywysoges a Chyffur Epilio (Gwasg Taf), addasiadau o ddram芒u gan Webster, Machiavelli a Marivaux;
Hunllef yng Nghymru Fydd (Canolfan Astudiaethau Addysg Aberystwyth), drama;
Bacchai Canolfan Astudiaethau Addysg Aberystwyth), addasiad o ddrama Ewripides;
Romeo a Straeon Eraill (Carreg Gwalch),straeon;
Llafur Cariad (Hughes ai Fab), nofel.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Luned Bengoch gan Eisabeth Watkin Jones.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na fyddaf.

Pwy yw eich hoff awdur?
Philip Roth, ar hyn o bryd. Ac Edna O'Brien.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Y Beibl yr un go-iawn, nid y diweddariad diwinyddol gywir.

Pwy yw eich hoff fardd?
Charles Baudelaire.

Pa un yw eich hoff gerdd?
L'Invitation au Voyage.

Pa rai yw eich hoff linellau o farddoniaeth?
Mon enfant, ma soeur, songe 脿 la douceur daller l脿-bas...

L脿, tout n'est qu'ordre et beaut茅,
Luxe, calme et volupt茅.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Some Like it Hot
Rhaglen deledu: Six Feet Under a The Sopranos yn gyfartal gyntaf.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Capten Trefor, yn nofel Daniel Owen, Enoc Huws
Cas gymeriad: Duw yn Paradise Lost gan John Milton.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Y frwydr yw fy mywyd (er bod brwydrau'r rhelyw ohonom tipyn llai enbyd nag un Nelson Mandela a'i gymrodyr).

Pa un yw eich hoff air?
Ie.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Siarad Sbaeneg yn rhugl.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Wn i ddim.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Oes.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Karl Marx am iddo'n fwy na neb ein galluogi i ddeall y byd modern a'i gymlethdodau, ac oesau blaenorol hefyd.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Chwyldro Cuba.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Karl Marx. Be nawn ni?

Pa un yw eich hoff daith a pham?
O amgylch Coedwig Graigwen, Pontypridd am ei bod yn braf yno ac yn agos at fy nghartref.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Brecwast o goffi da, croissants, bara newydd ei bobi a menyn a 尝'贬耻尘补苍颈迟茅, yn Ffrainc.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Nofio.

Pa un yw eich hoff liw?
Coch.

Pa liw yw eich byd?
Glas.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Diddymu Brenhinaeth Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Cyhoeddir fy nofel Ffatri Serch gan Wasg Carreg Gwalch erbyn y Nadolig eleni.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Mab llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir F么n y ganwyd ef.

Cliciwch yma i ddarllen Adolygiad o Cwmtec.


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy