|
Elin Llwyd Morgan Holi Elin Llwyd Morgan - awdur Mae Llygaid gan y Lleuad
• Enw?
Elin Llwyd Morgan
• Beth yw eich gwaith?
Cyfieithydd (yng ngholeg NEWI, Wrecsam).
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweithio yn Sŵ Môr Môn (y job wyliau orau erioed!); gohebydd papur newydd (papurau'r Herald); golygydd gwasg Y Lolfa; ymchwilydd teledu; cyfieithydd. Adolygydd, colofnydd.
• O ble'r ydych chi'n dod?
Mi ges i 'ngeni ym mhentre Cefn Bryn Brain rhwng Brynaman a Chwmllynfell, a'm magu yn ardal Aberystwyth a Sir Fôn.
• Lle'r ydych chi¹n byw yn awr?
Glyn Ceiriog, ger Llangollen.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Rhannau ohoni, fel dosbarth un a'r chweched dosbarth (oedd o fewn yr un uned yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy).
• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Nofel gymdeithasol efo elfen o nofel dditectif ynddi, sydd hefyd yn sôn am awtistiaeth. 'Oh what a tangled web we weave,' chwedl Syr Walter Scott.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Tafarnau Cymru; The Seven Wonders of Wales efo'r ffotograffydd Ron Davies; Duwieslebog (cyfrol o farddoniaeth yng nghyfres y Beirdd Answyddogol); Rhwng y Nefoedd a Las Vegas, fy nofel gynta.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Charlotte's Web, E.B. White.
• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Mae gen i gopi, ond tydw i heb ei ailddarllen.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Graham Greene; Ian Rankin; Robert Wilson; Islwyn Ffowc Elis. Ond ar y cyfan, llyfrau unigol sy'n mynd a 'mryd i yn hytrach nag awduron unigol.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? The Catcher in the Rye, J.D. Salinger.
• Pwy yw eich hoff fardd?
R.S. Thomas.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Nifer gan R.S. Thomas. Hefyd y gerdd gan e.e.cummings sy'n dechrau 'somewhere I have never travelled, gladly beyond any experience...' glywais i hi gynta yn y ffilm Woody Allen, Hannah and her Sisters, a mynd i'r llyfrgell i chwilio amdani wedyn.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'Duw a'm gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon,' T.H. Parry-Williams.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Nifer, yn eu plith Some Like It Hot, The Last Seduction, Lost in Translation. Ar y teledu, Twin Peaks, Fawlty Towers, Blackpool, ac yn Gymraeg C'mon Midffild, Talcen Caled, Con Passionate.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff - Holden Caulfield yn The Catcher in the Rye. Cas - Mrs Danvers yn Rebecca, Daphne du Maurier.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Gorau cyfaill, llyfr da.
• Pa un yw eich hoff air?
Nid 'joio', yn sicr. Na 'hys-bys'.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gwneud arian mawr yn sgil sgwennu.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Llyfrbry.
Beirniadol.
Aflonydd.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Gormod o bethau i'w henwi.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Pobol gyffredin sy'n goresgyn pob math o galedi yn eu bywydau.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Joel yn mynd i'w wely cyn naw (neu hyd yn oed cyn deg) o'r gloch y nos!
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Iesu Grist. Gofyn iddo sut mae o'n teimlo ynglŷn â chael dilynwyr rhagrithiol a rhyfelgar fel Bush a Blair a'r holl bobol eraill sydd wedi gwyrdroi gwir ystyr Cristnogaeth dros y canrifoedd.
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Adra. Dwi'n lecio cysgu yn fy ngwely fy hun (arwydd o henaint, ma raid!).
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bwyd Indiaidd efo'r trimings i gyd. Brechdanau blasus. Dibynnu sut dwi'n teimlo ar y pryd, mewn gwirionedd.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen. Cerdded. Ymlacio yn yr haul (Haul? Pa haul?!)
• Pa un yw eich hoff liw?
Lliwiau natur.
• Pa liw yw eich byd?
Hyfryd o hydrefol ar hyn o bryd.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Dileu'r gwaharddiad ysmygu mewn tafarnau - ar ôl dileu Trident a rhoi'r arian i wledydd a phobol anghenus, wrth gwrs!
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Yn llercian yng nghefn fy mhen efallai.
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Deudwch chi wrtha' i!
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|