Elgan Philip Davies Awdur nofelau i blant ac oedolion
Er iddo fod yn ysgrifennu ers ugain mlynedd erbyn hyn dywed Elgan Philip Davies fod mynd ati i 'ddechrau' sgrifennu yn dal yn her iddo.
Yn siarad gyda Gaynor Davies ar 成人快手 Radio Cymru dywedodd y bydd yn chwilio am bob math o f芒n jobsus er mwyn osgoi'r dechrau.
"Unwaith mae'r peth wedi dechrau dod mae rhywun am fynd ati i roi'r peth i lawr tra bo'r peth yn fyw - ond 'Y Cychwyn' yw y peth. Mae rhywun yn gallu gwneud unrhyw beth ond ysgrifennu - fel jobsus bach o gwmpas y t欧," meddai.
Pan oedd ei blant ei hun tua saith neu naw oed y dechreuodd Elgan sgrifennu i ddechrau o weld fod bwlch yn y deunydd oedd ar gael.
Gwelai brinder nofelau doniol i blant er enghraifft.
Ond er yn sgrifennu gyda'i blant ei hun mewn golwg dywedodd nad oedd yn profi'r llyfrau arnyn nhw a gofyn eu barn cyn eu cyhoeddi.
"Doeddwn i ddim digon dewr i hynny," meddai.
Erbyn hyn mae yn awdur nifer o lyfrau ditectif llwyddiannus hefyd a dywed mai ei ddull o weithio ar hyn o bryd yw cyhoeddi llyfr i oedolion a llyfr i blant bob yn ail.
Darlledir rhaglen Gaynor Davies rhwng pump a saith y bore ar 成人快手 Radio Cymru