|
Dewi Prysor Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Tachwedd 2006
Enw:
Dewi Prysor
Beth yw eich gwaith?
Awdur a bardd.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Saer Maen, trydanwr.
O ble'r ydych chi'n dod?
Cwm Prysor, Trawsfynydd.
Lle鹿r ydych chi'n byw yn awr?
Llan Ffestiniog.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Fy addysg bellach fel myfyriwr h欧n, do.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - a dwedwch ychydig amdano?
Wedi bod yn fy mhen ers blynyddoedd, yn cordeddu fel bag o bryfid genwair trydanol. Dwi'n gweld hiwmor bywyd bob dydd fel rwbath anhygoel o ddifyr a digri iawn, iawn, a dwi isio sgwennu amdano o hyd. Pobol ydi fy mhetha fi.
Fel meercats, maen nhw'r creaduriaid mwya digri a difyr dan haul. Ac ar ben hynny, mae gen i ddychymyg fel tr锚n, a dwi'n meddwl am y petha rhyfedda bob yn ail eiliad. Dwi'n sb茂o ar fywyd fel rwbath digri a chwerw-ddigri a dwi'n chwerthin lot. Felly dwisio gneud i bobol erill chwerthin bob cyfla ga i.
Ond dwi isio lledaenu ap锚l llenyddiaeth Cymraeg. Dydi pobol ddim yn uniaethu efo Te yn y Grug mwyach. Mae'r ddwy neu dair cenhedlaeth a anwyd ar 么l yr Ail Ryfel Byd wedi eu magu mewn oes o ddiwylliant poblogaidd rhyngwladol wedi dyfodiad cyfryngau torfol.
Maen nhw wedi agor llygad a throi clust i ddylanwadau allanol - heb golli na chyfaddawdu eu hunaniaeth Gymreig. Mae Cymru wedi newid yn ddiwylliannol. Mae ganddi ei diwylliant ei hun a diwylliant poblogaidd rhyngwladol hefyd.
Ond prin iawn yr adlewyrchir y diwylliant poblogaidd hwnnw mewn llenyddiaeth Gymraeg. O ganlyniad dydi llenyddiaeth Gymraeg ddim yn berthnasol i'r rhan fwya o siaradwyr Cymraeg.
Dwi isio cyfrannu i'r ymdrech i gywiro hynny. Os na wneir hynny, bydd mwy a mwy o'n bobol ifanc yn anghofio am ddiwylliant drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac mae oblygiadau hynny i'r iaith a'n hunaniaeth yn beryglus.
Mae'r nofel,Brithyll, yn gomedi dywyll ac afreolus sy'n darlunio cymdeithas, a newidiadau yr oes, drwy brofiadau a meddyliau criw o ffrindiau sy'n gwrthod cyfaddawdu i'r newidiadau hynny. Mae wedi ei sgwennu mewn arddull a ieithwedd lafar, a thafodiaith lafar gogledd-orllewin Meirionnydd.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Limrigau Prysor (Gwasg Carreg Gwalch), a drama, DW2416.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? To Dream of Freedom gan Roy Clews.
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na. Mae rhywun wedi'i ddwyn o!
Pwy yw eich hoff awdur?
Twm Miall, Hunter S Thompson, Charles Bukowski, Roddy Doyle, Peter Berresford Ellis, Llwyd Owen.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Cyw Haul a Cyw D么l (Twm Miall). Fear and Loathing in Las Vegas (Hunter S Thompson). On the Road (Jack Kerouac).
Pwy yw eich hoff fardd?
RS Thomas.
Pa un yw eich hoff gerdd? Welsh Landscape a Welsh History gan RS Thomas. Fy Ngwlad gan Gerallt Lloyd Owen.
Llun Rhuthlyn gan Hedd Wyn.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? A bar cefn heb oriau cau - (Myrddin ap Dafydd.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm - High Plains Drifter.
Teledu - The Sopranos, The Mighty Boosh, Trailer Park Boys.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Dim syniad.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Nid y dillad sy'n gneud y dyn.
Pa un yw eich hoff air?
Pam.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Hypnoteiddio ieir.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Dros bymtheg st么n.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Oes, lot.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham? Owain Glynd诺r - doedd o ddim yn chwarae o gwmpas. Roedd ganddo weledigaeth a phenderfyniad.
Bobby Sands - g诺r galluog, deallus a ddysgodd Wyddeleg i gyd-garcharorion gwleidyddol, ac a aberthodd ei fywyd ei hun dros gyfiawnder.
Rhodri Mawr - trechodd y Llychlynwyr a lladdodd eu brenin mewn ymladdfa un-ar-un.
Gwenllian ap Gruffudd - tywysoges brydferth, rhyfelwraig a rebel Cymreig.
Nelson Mandela - cadwodd ei urddas drwy flynyddoedd maith o garchar caled, a dod allan i arwain ei bobol i ryddid.
Tecumseh - arweinydd Indiaid Cochion America a ryfelodd yn erbyn y dyn gwyn.
Cynwrig Hir - a gipiodd Gruffudd ap Cynan o'r carchar.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Dial y Gwylliaid Cochion ar y Barwn Owen, neu fod efo'r Tywysog Madog yn hwylio i'r Amerig.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Gwenllian ap Gruffudd. "Iawn, del? "
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Dros y mynyddoedd o Domen y Mur drwy Ddolbelydr a Dolau (Dolddinas), heibio Llyn Rhuthlyn ac i lawr i Gwm Prysor. Heddwch, hanes, rhyfeddodau, cyfaredd...
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cig oen Cymreig efo cinio dydd Sul.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
P锚l-droed, pysgota, crwydro, ffotograffiaeth, cymdeithasu.
Pa un yw eich hoff liw?
Du.
Pa liw yw eich byd?
Enfys.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Annibynniaeth i Gymru, heb os nac onibai.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes - dilyniant i Brithyll, mwya tebyg.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
O fewn eiliadau i ollwng y meercats yn rhydd yn y gegin gefn roedd Ken Tobler么n wedi sylweddoli fod C诺d Racs yn deud y gwir.
Cysylltiadau Perthnasol
Cyhoeddi Brithyll
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|