| |
|
|
|
|
|
|
|
Caryl Lewis Holi nofelydd llyfr y flwyddyn - a mam Bili Boncyrs
Enw? Caryl Lewis
Beth yw eich gwaith? Awdur llawn amser.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Gweithio yng Nghanolfan Ysgrifennu Cymru T欧 Newydd ac i'r Academi Gymreig. Ar ol hynny, fel sgriblwr i gwmni cysylltiadau cyhoeddus.
0 ble'r ydych chi'n dod? Aberaeron a Dihewyd!
Lle'r ydych chin byw yn awr? Goginan ger Aberystwyth.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do. Yn enwedig rhai pynciau fel ieithoedd a chelf. Rown ni'n casau Mathemateg a nofio gyda chasineb perffaith.
Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf? Martha Jac a Siancoyw enw fy nofel ddiweddaraf i oedolion- nofel am ddau frawd a chwaer sy'n byw yng nghefn gwlad Ceredigion yw hi. Mae hi'n nofel ddifrifol, ddwys sy'n treiddio i feddyliau tri cymeriad meudwyol.
Yn cael eu lansio yr un amser mae cyfres newydd ar gyfer plant 5-7 oed yn cael ei lansio hefyd sef Bili Boncyrs a'r Pants Hud a Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan. Mae'r gyfres yn cyflwyno cymeriad newydd i blant Cymraeg ac yn olrain hanes Bili Boncyrs a'i deulu gwallgof!
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Dal hi! - nofel i oedolion ifanc. Iawn boi? i'r arddegau a enillodd wobr Tir na-Nog 2004. 'Tric y Pic a Mics, llyfr i blant bach. Rwy hefyd yn gweithio ar ddram芒u ar hyn o bryd i blant ac oedolion.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Gormod i'w henwi! Roahl Dahl wrth gwrs ac fel nifer o blant y 70au roeddwn yn edrych ymlaen yn awchus bob wythnos am ran nesa o'r Joy of Knowledge!. Wedi hynny, llyfrau James Herriot a llyfrau plant Catherine Cookson yn y Saesneg a llyfrau T Llew Jones yn y Gymraeg.
A fyddwch yn edrych arnynt yn awr? Mae'n well gadael rhai llyfrau yn y gorffennol, rwy'n credu bod dipyn o'r hud yn diflannu pan ailddarllenwch chi lyfrau eich plentyndod. Efallai pan fyddai'n henach.
Pwy yw eich hoff awdur? Yn y Saesneg, Louis de Berniers a Gabriel Garcia Marquez wedyn Emyr Humphreys, Islwyn Ffowc Elis a Mihangel Morgan.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Rwy'n credu bod pob llyfr rydych chi'n ei ddarllen yn gwneud argraff o rhyw fath arnoch - boed yn un da neu'n un drwg.
Pwy yw eich hoff fardd? Mae mwy nag un eto! Yn y Saesneg, Michael Longley, Dylan Thomas ac R.S. wrth gwrs. Yn y Gymraeg, Waldo.
Pa un yw eich hoff gerdd? Poem in October gan Dylan Thomas
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Yr wylan deg ar lanw dioer/ Unlliw ag eiry neu wenlloer...
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Rwy'n hoff o gomedi- Only Fools and Horses, Vicar of Dibley ayb. Pethau i'w gwylio a'u mwynhau ac anghofio am y byd go iawn. O ran ffilm- House of Sand and Fog , ond rwy'n ffan o chic flics hefyd ma'n rhaid dweud!
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Fy hoff gymeriad yw Charlotte Lucas gan Jane Austen.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Cymydog da ydyw clawdd.
Pa un yw eich hoff air? Anadlu.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Bod yn un o'r bobl naturiol daclus hynny. Dwi'n llwyddo gwneud llanast o fewn deng munud o gyrraedd unrhyw le.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Eithafol, Bywiog, Anniben!
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Gormod i son amdano. Dwi'n tueddu i fynd i gwrdd a gofid a dwi'n berson eithafol iawn. Os ydw i'n gwneud rhywbeth fe fyddai'n ymroi 200% ac yn ymgolli yn llwyr, mae hyn yn beth da weithiau ond efallai ddylwn ni ddysgu bod yn fwy cymedrol!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Churchill - ond nid efallai am y rhesymau amlwg. Roedd o'n defnyddio iaith heb ei ail ac yn medru codi ysbryd gwlad gyfan o bobl. Roedd ganddo ddawn darlithio ac areithio heb ei ail.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Bydde'n well gen i gael mynd i'r dyfodol.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Elvis - byddwn ni jest wedi mynd am beint gyda fe (ond dim byrgyr).
Pa un yw eich hoff daith a pham? O d欧 mam-gu yn Abermeurig am adref i Ddihewyd - mae Dyffryn Aeron fel carped oddi tanoch.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Brecwast mawr gyda ffrindiau fore Sul pan mae gan bawb ben tost a phawb wedi aros draw ar 么l y noson cynt - bacwn, wy, clecs a galwyni o de.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Rhedeg, mynd i gerdded, arlunio a gofalu am Fan-belt, Wing-nut a Nokia (fy nghathod).
Pa un yw eich hoff liw? Gwyrdd-las.
Pa liw yw eich byd? Porffor.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Gorfodi pob cyflogwr i roi 'wythnos feddwl' i bawb bob blwyddyn yn ychwanegol at eu gwyliau- fel bo pobl yn medru eistedd yn 么l a chymryd stoc o'u bywydau.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Rwy'n gweithio ar nofel fer i ddarllenwyr anfoddog ar hyn o bryd ac fe fydd llyfr arall i'r arddegau yng nghyfres Pendafad yn cael ei chyhoeddi yn gynnar y flwyddyn nesaf. Rwy hefyd yn gobeithio dechrau ar nofel newydd yn y gwanwyn.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? 'Felna ma hi a felna fydd hi fyd os na newidith hi...'
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|