| |
|
|
|
|
|
|
|
Alan Llwyd Dilyn hynt pobl dduon yng Nghymru
Enw? Alan Llwyd.
Beth yw eich gwaith? Cyhoeddwr a 'Sgwennwr, a Swyddog Gweinyddol Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Dim byd ond gweithio fel cyhoeddwr, golygydd, awdur a sgriptiwr.
0 ble'r ydych chi'n dod? Llan Ffestiniog ym Meirionnydd yn wreiddiol, o le bach o'r enw Cilan ym Mhen Ll欧n o bump oed ymlaen.
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Treforys, Abertawe.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Ddim i gyd. Llenyddiaeth a hanes oedd fy hoff bynciau ac roedd darganfod llenyddiaeth yn gyffro mawr.
Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf? Mae Cymru Ddu/Black Wales yn llyfr dwyieithog sy'n adrodd hanes Cymry du, ac yn cyd-fynd 芒 chyfres o dair rhaglen ddogfen a ddarlledwyd ar S4C yn ddiweddar
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Gormod i'w rhestru: barddoniaeth, blodeugerddi, astudiaethau llenyddol, bywgraffiadau - tua 45 i gyd.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Llyfr o waith y bardd Shelley.
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Byddaf.
Pwy yw eich hoff awdur? Shakespeare a Thomas Hardy.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Cannoedd, os nad miloedd. Pan oeddwn yn 14 oed, fe ddylanwadodd Yr Haf a Cherddi Eraill, R. Williams Parry, gryn dipyn arna' i.
Pwy yw eich hoff fardd? Gormod i'w henwi. Waldo, Bobi Jones, Gwyn Thomas, R. Williams Parry, Hardy, Eliot, etc. etc.
Pa un yw eich hoff gerdd? 'Does gen i ddim hoff gerdd. Hoff gerddi sydd gen i, gan gannoedd o feirdd yn llythrennol. Ond fe nodaf un: Mewn Dau Gae, Waldo Williams.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Boed anwybod yn obaith, R. Williams Parry. Pe baech yn gofyn hyn imi yfory byddwn yn dyfynnu llinell arall.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilm: mae gen i ryw 200 o hoff ffilmiau o leiaf. Enwaf un, fodd bynnag: Schindler's List.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriad: Hamlet; cas gymeriad: Pinkie yn Brighton Rock , Graham Greene.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Diwedd pob trais, tristwch.
Pa un yw eich hoff air? Cyfiawnder
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Dawn y cerddor neu'r arlunydd
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Wn i ddim. Annibynnol. Unigolyddol. Rhyddfrydig.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Llawer.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Martin Luther King yn un oherwydd ei ddewrder digymrodedd a'i safiad yn erbyn un o gamweddau mwyaf y ddynoliaeth - rhagfarn hiliol.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Rhyddhau Nelson Mandela.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Goronwy Owen y bardd o F么n, oherwydd imi lunio ei fywgraffiad. Hoffwn iddo adrodd hanes ei fywyd i gyd.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Teg edrych tuag adref.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cinio dydd Sul traddodiadol neu gyri twym iawn - dau eithaf!
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen, ffilmiau, teledu.
Pa un yw eich hoff liw? Brown.
Pa liw yw eich byd? Amryliw, gobeithio.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Gwahardd rhyfeloedd yn gyfan gwbwl.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes, cyfrol newydd o farddoniaeth: Clirio'r Atig a Cherddi Eraill.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Gwlad estron yw'r gorffennol; yno mae pob peth yn wahanol.
Cysylltiadau Perthnasol
Cymru Ddu
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|