|
Gwyddoniadur - holi golygydd 'Zoncked' wrth eni'r trydydd plentyn!
"Rhywbeth sydd ddim yn mynd i gymryd deng mlynedd, gobeithio," oedd ymateb Menna Baines pan ofynnodd Dei Tomos iddi beth fydd ei phrosiect nesaf yn awr bod y gwyddoniadur wedi ei gwblhau.
Bu Menna Baines yn gweithio ar y Gwyddoniadur o'r cychwyn cyntaf un yn un o'r golygyddion gwreiddiol yn cydfweithio 芒 Nigel Jenkins a fu'n golygu'r fersiwn Saesneg.
Llafur cariad Dywedodd mai blwyddyn a hanner io waith - yn gweithio'n rhan amser dros dair blynedd - oedd y gwaith i fod i ddechrau ond ymestynnodd y gwaith yn ddeng mlynedd; llawer ohono yn lafur cariad erbyn y diwedd.
A hynny mewn mwy nag un ystyr yn ei hachos hi gan i'w chymar, Peredur Lynch o Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor, ymuno 芒 hi yn y gwaith o olygu.
Yn cael ei holi gan Gwilym Owen ar ei raglen radio bnawn Llun 28 Ionawr 2008 dywedodd Menna Baines mai'r gair Saesneg "zoncked" a ddefnyddiwyd gan olygydd cyyfredinol y gyfrol, y Dr John Davies, oedd yn cyfleu orau gyflwr y golygyddion ar drothwy'r cyhoeddi.
"Ond yn hapus iawn," ychwanegodd.
Dros filiwn a hanner Yngl欧n 芒'r paratoi dywedodd wrth Gwilym Owen:
"Roedd yna gynllunio i'w wneud, mi gymerodd hynny rhyw flwyddyn neu ddwy. Comisiynu wedyn 400 o gyfranwyr. Rhoi trefn ar y peth ac wedyn ar y diwedd y gwaith diweddaru a sicrhau bod y gyfrol mor gyfredol 芒 phosibl wrth fynd i'r wasg," meddai.
"Pan ydw i'n meddwl am y gwahanol gamau yn y gwaith dydw i ddim yn synnu ei fod o'n teimlo'n amser hir . . . yn gweithio ar ddwy gyfrol ochr yn ochr, y gyfrol Saesneg a'r gyfrol Gymraeg, a rhwng y ddwy yn dros filiwn a hanner o eiriau . . ." meddai.
Un peth 芒'i synnodd meddai yw bod mwy o eiriau yn y gyfrol Gymraeg na'r un Saesneg.
"Mae hynny'n ddiddorol. Dydw i ddim yn gwybod beth ydi'r rheswm achos dwi wastad wedi meddwl fod y Gymraeg yn medru bod yn iaith ddigon cryno.
"Ond mae yna elfen o gyfieithu wedi digwydd, er nad ydi'r gyfrol i gyd wedi ei chyfieithu o'r Saesneg ac rydw i'n meddwl bod rhyw elfen o chwyddo yn digwydd gyda phob cyfieithu ac er ein hymdrechion i gael gwared ag olion cyfieithu fel ei bod yn darllen yn safonol mewn Cymraeg cyhyrog mae'n anochel ar y diwedd fod y gyfrol Gymraeg rywfaint yn fwy na'r un Saesneg," meddai.
"Ond yr un deunydd sydd yn y ddwy," ychwanegodd.
Dywedodd i "gnewyllyn da" o'r cyfranwyr sgrifennu yn y ddwy iaith ond y mwyafrif yn y Saesneg yn unig.
Mater o ddewis "Wrth gwrs roeddem ni eisiau mynd ar 么l pob math o feysydd, yn wyddoniaeth, yn chwaraeon ac ati a doedd dim modd cael siaradwr Cymraeg ar bob un o'r meysydd," eglurodd.
Y golygyddion benderfynodd ar y penawdau i'w trin.
"Roedd yna benderfyniadau mawr ar y dechrau. Ni'n pedwar oedd yn penderfynu beth oedd yn deilwng o'i drafod, pa Gymry oedd wedi gwneud cyfraniad digon pwysig i fod yn y llyfr ac roeddem ni'n trafod oeddem ni'n cynnwys pobl [sy'n dal yn] fyw a phenderfynu nad oeddem ni yn rhoi cofnodion [iddyn nhw] . . . ond yn eu cynnwys nhw drwy'r drws cefn mewn gwirionedd - pob math o benderfyniadau tebyg i hynny," meddai.
Tipyn o b诺er "Roeddech chi'n teimlo bod gennych chi dipyn o b诺er yn eich dwylo mewn gwirionedd eich bod chi'n cael cyflwyno eich darlun eich hun o Gymru," yhwanegodd.
Dywedodd mai dim ond "ambell waith" y bu yna ffraeo ymhlith y golygyddion.
"Dydi'r Dr John Davies ddim yn arbennig o hoff o chwaraeon a rhai eraill ohonom ni yn teimlo bod rygbi a ph锚l-droed yn hanfodion Cymreig. Doedd yna ddim ffraeo[mewn gwirionedd] dadlau cyfeillgar oedd o a dwi'n gobeithio fod y llyfr gorffenedig yn gyfaddawd rhwng y pedwar ohonom," meddai.
Trydydd plentyn Mewn cyfweliad cynharach gyda Dei Tomos ar gyfer ei raglen radio nos Sul 6 Ionawr 2008 disgrifiodd Menna Baines y Gwyddoniadur fel "trydydd plentyn i mi a Pheredur" gan ychwanegu y bydd yn falch yn awr o fedru rhoi mwy o sylw i'r ddau arall!
Dywedodd hefyd iddi fwynhau cwmniaeth y golygyddion eraill yn ystod y gwaith paratoi.
"Yr oedd," meddai, "yn dim clos."
Golwg ar Gymru Ychwanegodd i'r gwaith fod yn fodd iddi gael golwg ar Gymru yn ei holl chyflawnder:
"Dyna'r peth mawr mae wedi'i roi - rhoi mwy o berspectif a [dangos] lle mae mae pethau yn perthyn i'w gilydd - a rhoi darlun cyflawn [o Gymru].
"Nid fy mod i'n cofio'r cwbl yn y 700,000 o eiriau!" meddai.
Cyn ymuno 芒 th卯m y Gwyddoniadur bu Menna Baines yn olygydd celfyddydau Golwg ac yn olygydd Barn rhwng 1991 a 1996.
Hi hefyd yw awdur cyfrol bwysig yn dadansoddi gwaith Caradog Prichard, Yng Ngolau'r Lleuad .
ar Wefan y Gwyddoniadur.
(Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau eraill.)
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am y Gwyddoniadur ar Llais Ll锚n
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|