成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Blwyddyn Darllen 2008
Chwilio am 2,008 o ddigwyddiadau
Nid pawb sy'n cofio mai Blwyddyn Darllen Genedlaethol 1998 - 1999 roddodd fod i Ddiwrnod y Llyfr yng Nghymru.

Bu'r flwyddyn honno o dan arweiniad Rhiannon Lloyd sy'n awr yn bennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn fodd i gynnal pob math o weithgaredd asr hyd a lled Cymru.

Un o brif argymhellion adroddiad ar y flwyddyn honno oedd y dylid parhau i gynnal Diwrnod y Llyfr ac adeiladu ar ei lwyddiant.

Mae'n ddiddorol iawn, felly, mai Diwrnod y Llyfr yw man cychwyn Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008.

Blwyddyn sydd 芒'i her ei hun i bobl gynnal 2,008 o weithgareddau yngl欧n 芒 llyfrau.

Pleserau darllen
Fel y Diwrnod ei hun, bydd y Flwyddyn hefyd yn canolbwyntio ar greu partneriaethau a cheisio cyfleu'r neges am bwysigrwydd darllen a'r pleser a geir o lyfrau.

Yn dilyn llwyddiant y Flwyddyn Darllen gyntaf, gofynnodd Llywodraeth y Cynulliad i'r Cyngor Llyfrau gydlynu'r gwaith unwaith yn rhagor. Bu cyfarfodydd yn barod gyda nifer o bartneriaid a chr毛wyd dros dro i ddisgwyl gwefan derfynol.

Gwahoddwyd pob awdurdod lleol i enwebu cydlynydd er mwyn sicrhau cydweithio ar draws sectorau addysg a llyfrgell, ac er mwyn tynnu cymaint o gymdeithasau lleol 芒 phosib i mewn i'r gweithgareddau o fewn y siroedd.

Tri chynllun
Hefyd, bydd y Cyngor Llyfrau yn trefnu tri phrif brosiect yn ystod y Flwyddyn:
  • Ymgyrch ddechrau'r haf i annog pobl i roi llyfrau'n anrhegion i'w gilydd.

  • Yn yr hydref bydd ymgyrch Cymunedau'n Darllen a fu'n llwyddiannus mewn dinasoedd yn Lloegr a'r Unol Daleithiau gyda chyfle i gymunedau greu wythnosau o weithgareddau amrywiol yn seiliedig ar lyfrau.

    Gall y rhain gynnwys sesiynau gan awduron, cwisiau tafarn, darlleniadau, cystadlaethau yn y wasg leol, cyfle i bleidleisio dros hoff lyfrau'r gymuned ac yn bwysicach, bydd cyfle i ddarllen y llyfrau a ddaw i'r brig o fewn y gymuned.

    Bydd cyfle hefyd i ardaloedd eraill yng Nghymru gysgodi'r gweithgareddau a rhoi sylw pellach i'r llyfrau hynny a'u hawduron.

  • Ymgyrch ar gyfer plant a phobl ifanc fydd y drydedd gyda gweithgaredd a fydd yn cysylltu 芒'r byd chwaraeon ond a fydd hefyd yn profi iddynt fod darllen yr un mor c诺l 芒 chwarae ph锚l-droed neu rygbi!

    Miliwn o eiriau
    Wrth gwrs, bydd cyfle i hybu'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol drwy'r llu o weithgareddau sydd eisoes yn cael eu trefnu gan y sector blynyddoedd cynnar, ysgolion, llyfrgelloedd, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, ac ymgyrchoedd fel Darllenwch Filiwn o Eiriau a drefnir gan Sgiliau Sylfaenol Cymru.

    Bydd y prif wyliau cenedlaethol hefyd yn cynnig cyfle pellach i roi sylw i'r Flwyddyn ac annog Cymru gyfan i ymuno 芒 hi.

    Caiff y Flwyddyn ei lansio'n swyddogol gan Jane Hutt, AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, fore Iau, 13 Mawrth 2008 yn y Senedd.

    Yr her
    Yn ystod y lansiad bydd y Gweinidog yn cyflwyno rhai o'r 8,000 o lyfrau a roddir yn anrhegion i garchardai, ysbytai, cartrefi henoed, canolfannau dydd ac ati. ar draws Cymru.

    Er y bydd y lansiad ei hun yn y brifddinas bydd y llyfrau'n cyrraedd pob rhan o Gymru trwy gydweithrediad 22 o awdurdod llyfrgell.

    Bydd Jane Hutt hefyd yn herio'r genedl i gynnal 2,008 o ddigwyddiadau hybu llyfrau a darllen yn ystod y Flwyddyn . . .

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Diwrnod y Llyfr

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy