|
Diwrnod y Llyfr 2007 Darllenwch - meddai'r s锚r
Mae Dwayne Peel, Connie Fisher, Glyn Wise ac Eve Myles ymhlith y s锚r sy'n cefnogi Diwrnod y Llyfr 2007 yng Nghymru eleni.
Maen nhw a 29 o Gymru amlwg eraill sy'n cynnwys y gweinidog Addysg, Jane Davidson AC, yn annog pobl i droi at lyfr a ar y diwrnod sy'n syrthio ar ddydd Gwyl Dewi, Mawrth 1.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi posteri yn darlunio neges Glyn Wise ac Eve Miles, sydd wedi bod yn actio yn y gyfres Tortchwood y 成人快手 yng Nghymru.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi dau gerdyn post.
Yn ogystal 芒 hynny, mewn cydweithrediad 芒 Llais Ll锚n 成人快手 Cymru'r Byd, gellir anfon e-gardiau o'r s锚r yn syth o'n gwefan at ffrindiau a darllenwyr eraill.
A chyhoeddwn yma negeseuon pedwar o'r s锚r ar gyfer y diwrnod:
Glyn Wise
Yr un peth oeddwn i'n golli yn Nh欧 Big Brother - ar wah芒n i'm teulu a'm ffrindiau - oedd darllen!
Rwyf wrth fy modd 芒 llyfrau Cymraeg a Saesneg ac roedd yn anodd iawn peidio cael ymlacio gyda llyfr da.
Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn Niwrnod y Llyfr yng Nghymru - a bachu ar lyfr!
Eve Myles
Roeddwn wrth fy modd pan gefais ran Gwen Cooper yn Torchwood. Mae bod yn rhan o gyfres wedi ei chreu gan Russell T. Davies yn wych!
Mae rhai o'r rhaglenni teledu gorau wedi deillio o ysgrifennu penigamp a llyfrau da.
Byddwn yn annog pawb i gydio mewn llyfr ar Ddiwrnod y Llyfr a phlymio i fyd hollol newydd!
Connie Fisher Rwy'n ddarllenwraig frwd iawn! Mae darllen wedi meithrin fy noniau creadigol ac mae'n fy helpu i ddianc i fydoedd amrywiol.
Byddwn yn annog pawb i gydio mewn llyfr a chymryd rhan yn y dathliad gwych hwn o lyfrau - Diwrnod y Llyfr!
Dwayne Peel Mae chwarae rygbi'n bwysig iawn i fi - cael chwarae oedd fy mreuddwyd ac rwy'n caru'r g锚m yn fwy nag erioed.
Rwyf hefyd yn ddarllenwr brwd ac mae'n braf medru cymryd seibiant ac ymgolli mewn llyfr da.
Dylai pawb gydio mewn llyfr ac ymuno yng ngweithgareddau Diwrnod y Llyfr - bydd yna rywbeth at ddant pawb!
Ymhlith eraill o Gymru sy'n cefnogi'r diwrnod mae:
Robert Earnshaw, Angharad Mair, Shane Williams, Elin Fflur, David Davies, Stephen Jones, Cerys Matthews, Rhys Williams, Meinir Gwilym, Rupert Moon, Nicole Cooke, Rhodri Owen, Rhys Ifans, Gabby Logan, Jamie Baulch, Aled Jones, Ryan Giggs, Huw Edwards, Ioan Gruffydd, Tami Grey-Thompson, Mathew Rhys, Noel Sullivan, Catherine Zeta Jones, Sian Lloyd, Carol Vorderman a Philip Pullman.
Gellir darllen eu sylwadau hwy ar Wefan - clicio ar arwydd Diwrnod y Llyfr, dewis digwyddiadau ac wedyn dewis Negeseuon o Gefnogaeth.
Cysylltiadau Perthnasol
Rhai o ddigwyddiadau Diwrnod y Llyfr
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|