成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Diwrnod y Llyfr 2006
Rhestr o ddigwyddiadau
  • Lansio'r Diwrnod yng Nghastell Brychan gyda Brecwast Scrabble
  • - Cyfle i staff y Cyngor Llyfrau hogi eu meddyliau a defnyddio cyfeirlyfrau wrth chwarae a brecwasta! Gweithgaredd plygeiniol ym mhencadlys y Cyngor Llyfrau i lansio'r Diwrnod.
  • Lansio cannoedd o fal诺ns y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru
  • - 10.30 bore Diwrnod y Llyfr. Malachy Doyle yn darllen stor茂au yn yr yurt.
  • Llyfr y Flwyddyn 2006
  • - Cyhoeddir rhestr hir Llyfr y Flwyddyn a Book of the Year fin nos ar Ddiwrnod y Llyfr, yn adeilad newydd y Senedd.
    Trefnir y digwyddiad gan yr Academi. Gwneir y cyhoeddiad yn y gogledd yn Llyfrgell Wrecsam ar yr un pryd. Bydd actorion yn perfformio darnau o'r gweithiau.
  • Darlith Diwrnod y Llyfr 2006
  • - Yr Athro Dai Smith, golygydd y gyfres Library of Wales fydd yn traddodi darlith flynyddol Diwrnod y Llyfr, a hynny yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fawrth, Chwefror 28. Cadeirydd y noson fydd Jane Davidson AC, Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes.
  • Gair ar led
  • - Lansiwyd y cynllun ar rhaglen Wedi 7 nos Lun, Chwefror 6, gyda chymorth Iolo Williams. Argraffwyd mwy na 125,000 o gardiau post arbennig, a nod yr ymgyrch yw cael pobl sy'n mwynhau llyfrau i rannu eu ffefrynnau gyda'u ffrindiau ymhell ac agos a'u hannog nhw i'w darllen hefyd. Bydd y cardiau post i'w cael mewn llyfrgelloedd a siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru.

    Eleni, am y tro cyntaf, mae'r cynllun wedi ei ymestyn i gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, ac mae taflen o weithgaredd yn seiliedig ar y cardiau post wedi ei anfon i'r ysgolion. Mae'r cynllun wedi profi'n boblogaidd iawn, gyda degau o ysgolion yn gofyn am gyflenwad pellach o'r cardiau rhad ac am ddim. Bydd miloedd o'r cardiau post yma'n cael eu defnyddio gan ysgolion ar hyd a lled Cymru fel rhan o'u gweithgaredd ar Ddiwrnod y Llyfr.
  • Stori Sydyn
  • - Cynllun newydd sbon sy'n ceisio darparu ffuglen a llyfrau difyr ar gyfer marchnad newydd o ddarpar ddarllenwyr. Mae'r llyfrau yma wedi eu anelu at y miloedd o oedolion sydd heb gael eu temtio i ddarllen llyfrau hyd yn hyn. Yng Nghymru, mae'r cynllun yn ffrwyth partneriaeth rhwng y Cyngor Llyfrau a'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, gyda chefnogaeth Lywodraeth y Cynulliad. Bydd 2 deitl Cymraeg, nofelau gan Geraint Vaughan Jones a Meleri Wyn James, ar gael ar gyfer Diwrnod y Llyfr, a dau teitl Cymraeg pellach a dau teitl Saesneg o Gymru yn cael eu lansio ddiwedd Mai.
  • Taith Awduron
  • - Deg awdur ac un darlunydd llyfrau plant yn cynnal dau ddeg un sesiwn mewn siopau llyfrau ac ysgolion ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Anwen Francis, Caryl Lewis, Morgan Tomos, Martin Morgan, Mei Mac, Ruth Morgan, Chris Glynn, Phil Carradice, Jenny Sullivan ac Anne Lewis.
  • Stafelloedd Sgwrsio Ar-lein Caryl Lewis ac Owen Sheers
  • - Bydd cyfle i holi Caryl Lewis am ei gwaith mewn sesiwn sgwrsio ar-lein ddydd Iau, 2 Mawrth 2006, rhwng 11 y bore a hanner dydd; ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru www.cllc.org.uk/diwrnodyllyfr, adran Digwyddiadau, neu ar wefan 成人快手 Cymru'r Byd bbc.co.uk/cymru/llyfrau.

    Gellir anfon cwestiynau ymlaen llaw trwy e-bostio .

    Bydd cyfle hefyd i holi Owen Sheers am ei waith mewn sesiwn debyg rhwng 2 a 3 o'r gloch y prynhawn hwnnw. Ewch i wefan Cyngor Llyfrau Cymru www.cllc.org.uk/diwrnodyllyfr, i'r adran Digwyddiadau, neu galwch heibio i wefan 成人快手 Wales bbc.co.uk/wales. Anfonwch eich cwestiynau ymlaen llaw trwy e-bostio delyth.humphreys@cllc.org.uk.

  • Cefnogaeth Enwogion
  • - Mae nifer o enwogion o Gymru - Katherine Jenkins, Iolo Williams, Sarra Elgan a Gethin Jones - wedi datgan eu cefnogaeth i'r diwrnod trwy gytuno i gael tynnu eu lluniau ar gyfer posteri hyrwyddo.
  • Croesair yn y Papurau Bro
  • - Bydd degau o bapurau bro yn cyhoeddi croesair arbennig yn seiliedig ar lyfrau yn rhifynnau misoedd cyntaf 2006.
  • Llyfrau ar gyfer Elusennau
  • - Mae cannoedd o aelodau o Ferched y Wawr a Sefydliad y Merched yn casglu llyfrau ar gyfer siopau'r elusennau canlynol - Barnardo, Y Groes Goch, Tenovus, Ty Gobaith yng Nghymru, Oxfam, Ty Hafan, Byddin yr Iachawdwriaeth, Ymchwil Cancr Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon, R.S.P.C.A. ac Ambiwlans Awyr Cymru.
  • Adran Celfyddydau Cymunedol Gwynedd
  • - Bydd aelodau o glwb ieuenctid T镁 Cegin, Maesgeirchen yn creu 'Murlyfr' unigryw ar gyfer Canolfa'n Byw'n Iach, Maesgeirchen.

    Ar nos Wener Mawrth 3 bydd plant a phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yn cymryd rhan mewn gweithdy rapio yng nghwmni Martin xxxx. Yma bydd cyfle iddynt gyfansoddi rap newydd am fywyd ar y stad, a'i berfformio'n fyw o flaen eu cyfeillion ar ddiwedd y sesiwn.

    Yn ystod yr wythnosau canlynol bydd y plant yn mynd ati i greu 'Murlyfr' arbennig i ddogfennu eu rap newydd, ar un o waliau'r Ganolfan. Bydd gweithiwr prosiect Cymunedau'n Gyntaf, Andrew Davies, yn arwain gweithdai graffiti ble bydd cyfle i'r ieuenctid ddefnyddio paent chwistrell i greu murlun graffiti i gofnodi'r rap.
  • Lansiadau
  • - Bydd gwasg Y Lolfa yn lansio 'Ffrwd, Cywilydd a Chelwyddau' yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd, yng nghwmni'r awdur Llwyd Owen, Fflur Dafydd a'r cyflwynydd radio a theledu Huw Evans, a hefyd yn lansio 'Geiriau Gwynfor', gol. Peter Hughes Griffiths, yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin.
  • Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn lansio'r nofel 'Glas', ym Mhontyberem, 2 Mawrth.
  • Bydd ABC-Clio Santa Barbara a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn lansio 'An Encyclopedia of Celtic Hisitory and Culture' gol. J.T. Koch, yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 2 Mawrth.

    Gweithgareddau Mewn Ysgolion, Llyfrgelloedd a lleoliadau eraill
  • Awdurdod Llyfrgell Gwynedd
  • Bydd tocyn euraid yn cael ei roi mewn llyfr yn un o lyfrgelloedd Gwynedd bob dydd rhwng 27 Chwefror a 3 Mawrth. Bydd y sawl a ddaw o hyd i'r tocyn yn ennill 拢100. Bydd hefyd cwis ar gyfer plant, ar gael ymhob un o lyfrgelloedd Gwynedd, a noson ar gyfer merched yn unig yn Llyfrgell Caernarfon gyda'r awduron Bethan Gwanas, Beca Brown a Nia Medi.
  • Aberystwyth Amgueddfa Ceredigion
  • - Bydd sesiynau darllen storiau arswyd i blant ac oedolion i ddathlu Diwrnod y Llyfr, yn cael eu cynnal drwy'r dydd ac i mewn i'r nos yn y Coliseum, Amgueddfa Ceredigion. Cystadleuaeth ysgrifennu stori ar gyfer plant ac oedolion. Am ragor o fanylion ymweler 芒'r wefan - http://museum.ceredigion.gov.uk
  • Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Pen-y-bont ar Ogwr
  • - Targedu'r staff (7,000+ ohonynt) drwy raghysbysu Diwrnod y Llyfr ar wefan y llyfrgell; e-bostio'r staff; negeseuon ar gefn y slip cyflog; arddangosfeydd llyfrau; gofyn i'r Prif Weithredwr ac uwch-swyddogion y Cyngor ynghyd 芒 rhai Cynghorwyr i nodi eu hoff lyfrau i'w cyhoeddi ar wefan y Cyngor.
  • Awdurdod Llyfrgell Blaenau Gwent
  • - Lansio 30 o fal冒ns gydag adolygiadau llyfrau ynghlwm wrthynt. Yr adolygiad a deithiodd bellaf, ac a ddychwelwyd, yn ennill gwobr o 拢10 i'r disgybl.
  • Awdurdod Addysg Bro Morgannwg
  • - Cynnal Cystadleuaeth Llyfrau ar gyfer ysgolion yng Nghanolfan y Celfyddydau Sain Dunwyd.
  • Awdurdod Addysg Sir Ddinbych
  • - Ysgol Emmanuel, y Rhyl, yn y broses o sefydlu cysylltiadau rhyngwladol gydag ysgolion o wledydd, ac i ddathlu Diwrnod y Llyfr, maent yn bwriadu anfon llyfrau o ddiddordeb Cymreig i'r ysgolion hynny.
  • Awdurdod Addysg Sir Gaerfyrddin
  • - Gwahodd y storiwraig Mary Medlicott i gynnal gweithgarwch yn ystod y dydd; gobeithio trefnu gweithgarwch yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
  • Awdurdod Addysg Conwy
  • - Cystadleuaeth i greu cyflwyniad electronig ar lyfr plant sydd mewn print ar hyn o bryd. Bydd y gystadleuaeth yn agored i bob ysgol gynradd i gystadlu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Gwobr: camera digidol neu camcorder digidol i'r ysgol fuddugol.
  • Awdurdod Addysg Sir y Fflint
  • - Gobeithir trefnu i'r awdur Frank Cottrell Boyce ymweld ag ysgolion ar y cyd, i gyflwyno ei waith i ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6.
  • Awdurdod Addysg Penfro
  • - Yr awdures Nicola Davies i weithio mewn dwy ysgol i greu llyfr gwybodaeth electronig am byped, a ellir ei roi wedyn ar Grid Dysgu Cyngor Sir Penfro.
  • Awdurdod Addysg Pen-y-Bont ar Ogwr
  • - Gweithdai mewn llyfrgell leol ar gyfer disgyblion i'w galluogi i greu stibedi 'comic'.
  • Awdurdod Llyfrgell Caerdydd
  • - Trefnu noson ar gyfer Grwpiau Darllen Gaerdydd, gan wahodd yr awdur Bernard Knight i gymryd rhan. Sesiwn i blant yn Llyfrgell Grangetown gyda'r awdur llyfrau plant poblogaidd, Narinder Dhami.
  • Dysgu Cymunedol a Llyfrgelloedd Casnewydd
  • - Trefnu gweithgareddau'n gysylltiedig 芒 llyfrau yn eu llyfrgelloedd i'r ysgolion cyfagos; anfon e-gardiau at ffrindiau a chydweithwyr i argymell llyfrau; helpu'r rhai sydd ag anawsterau darllen drwy eu dewis o lyfrau 'Stori Sydyn'.
  • Gwasanaeth Llyfrgell Merthyr Tudful
  • - Prynu 10 llyfr fel gwobrau ar gyfer cystadleuaeth ddwyieithog i blant. Prynu 25-30 o lyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig ar gyfer y staff ac aelodau Cadwyn Lyfrau Merthyr Tudful er mwyn iddynt gael paratoi sylwadau arnynt. Rhoddir y sylwadau hynny ar y We.
  • Gwasanaeth Llyfrgell Torfaen
  • - Gofyn i'r darllenwyr nodi eu hoff lyfrau ffuglen mewn chydweithrediad a'r prosiect lleol Co-Star, ac o'r rhestr a gesglir, prynu'r rhai mwyaf poblogaidd. Lansio'r casgliad wedyn ar Ddiwrnod y Llyfr a gellir hyrwyddo'r casgliad wedyn ar Co-Star, fel y gellid defnyddio'r wybodaeth mewn gwahanol fannau yn Nhorfaen.
  • Awdurdod Addysg Conwy
  • - Creu cyflwyniad electronig o ryw 3-5 munud, a ysbrydolwyd gan lyfr plant sy'n adlewyrchu'r dimension Cymreig.
    Detholiad o Ysgolion a Chylchoedd Meithrin Unigol -
  • Ysgol Gynradd Bronant
  • Sleepover Cl冒b Cysgu C诺l.
  • Cylch Meithrin Pontgarreg
  • - Y plant i greu llyfr yn seiliedig ar stori Noa; gwahodd y ficer a'r rhieni i wylio'r plant yn ail-greu'r stori, ac yna i ddilyn fe fydd parti i'r holl anifeiliaid.
  • Ysgol Gyfun Treforys
  • - Llyfrgell yr Ysgol: Cwis 'Who Wants to be a Millionaire' yn seiliedig ar lyfrau sydd i'w cael o lyfrgell yr ysgol - tocyn llyfrau fel gwobr gyntaf.
  • Abertawe Ysgol Gyfun G诺yr
  • - Gweithgaredd Pont Stori gydag ysgolion cynradd lleol; Staff - cystadleuaeth 'Pwy Sy'n Darllen Pa Lyfr?'; gwisg anffurfiol i holl ddisgyblion yr ysgol - pawb i wneud cyfraniad tuag at Book Aid International; disgyblion blynyddoedd 7 a 8 - gwisgo fel hoff gymeriad o lyfr; disgyblion Blwyddyn 12 yn ymweld ag Ysgol Gynradd Y Login Fach i ddarllen i ddisgyblion Blwyddyn 6.
  • Ystradgynlais Ysgol Gymraeg Ynyscedwyn
  • - B-dag yn cynnal gweithgareddau i lansio cystadleuaeth ar-lein 'Crisial y Pharo' yn Ysgol Gymraeg Ynyscedwyn, Ystradgynlais, a bydd yr awdur Aled O. Richards yno i ddarllen rhan o'r llyfr. Bydd cyfle yn ogystal i ennill pecyn arbennig a fydd yn cynnwys copi o'r llyfr a chopi o'r g锚m newydd.
  • Treorci Ysgol Gyfun Treorci
  • - Llyfrgell yr Ysgol: Wal o Ddail yn y Llyfrgell - y plant i dynnu deilen i lawr ac ysgrifennu teitl eu hoff lyfr ynghyd a disgrifiad byr arni. Cwis y 'Weakest Link' yn ystod amser cinio.
  • Trelai, Caerdydd Ysgol Uwchradd Glyn Derw
  • - Aros a darllen; myfyrwyr y 6ed i ddarllen mewn ysbyty/cartre henoed; cwis llyfrau; cystadleuaeth staff - 'Pwy Sy'n Darllen Pa Lyfr?'
  • Y Rhyl
  • - Ysgol Uwchradd Gatholig Blessed Edward Jones Aros a darllen; cystadleuaeth ysgrifennu stori; defnyddio taflen wasanaeth CA3 Diwrnod y Llyfr; defnyddio taflen weithgaredd a chardiau post rhad ac am ddim Gair ar Led; gweithgaredd Pont Stori gydag ysgolion cynradd lleol; dylunio cloriau neu nodau llyfrau; deg ucha'r dosbarth; myfyrwyr y 6ed i ddarllen mewn ysbyty/cartre henoed; creu papur newydd yn seiliedig ar lyfr; cwis llyfrau; cynnal sesiynau trafod llyfrau yn yr awr ginio; creu proffiliau awdur.
  • Y Trallwng Ysgol Feithrin a Babanod Oldford
  • - Defnyddio taflenni gwasanaeth CA1 a CA2 Diwrnod y Llyfr; ffair lyfrau; defnyddio taflen weithgaredd a chardiau post rhad ac am dim Gair ar Led; defnyddio taflenni gweithgaredd yn seiliedig ar bosteri cerddi Diwrnod y Llyfr; gofyn i rieni ddod i'r ysgol i helpu plant gyda'u darllen; gwahodd stor茂wr neu lyfrgellydd i adrodd stori. Bydd ystafelloedd yr ysgol yn cael eu troi'n ystafelloedd darllen ar Ddiwrnod y Llyfr.
  • Cwmbr芒n Ysgol Gyfun Llantarnam
  • - Trwcio/ffeirio llyfrau; aros a darllen' cystadleuaeth ysgrifennu stori; defnyddio taflen wasanaeth CA3 Diwrnod y Llyfr; dylunio cloriau neu nodau llyfrau; gweithgareddau'n seiliedig ar gynllun cardiau post Gair ar Led; sesiwn stori ar 么l ysgol gyda diod a bisgedi. Llyfrgell yr Ysgol: Darllen stor茂au iasol ac arswydus yng ngolau cannwyll yn y Clwb ar 么l ysgol.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy