成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Croeso amodol i Eryri
Nid cywydd croeso yn y dull arferol a gyfansoddwyd gan Gerallt Lloyd Owen ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ag Eryri y flwyddyn nesaf.


Mae'r cywydd mor rymus a chignoeth ag unrhyw beth a gyfansoddwyd gan y bardd gwladgarol hwn ac yn ddrych o'i bryder am enbydrwydd yr iaith a'r diwylliant Cymraeg yn yr ardal.

Wrth gwrs, ni ddylai neb fod wedi disgwyl cywydd traddodiadol yn canmol tirwedd ac enwogion bro gan awdur Cerddi'r Cywilydd ac awdl Cilmeri a bardd sydd wedi ysgwyd y genedl o'r blaen gyda grymuster herfeiddiol ei waith gan serio ar lenyddiaeth Gymraeg linellau fel, "Wylit, wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelit hyn".

Wrth gyhoeddi'r cywydd dywedodd yr Eisteddfod ei hun:"Go brin y clywyd neges mwy amserol mewn urhyw gywydd croeso ag a wneir yn Seremoni Cyhoeddi Prifwyl 2005 yng Nghaernarfon ar Mehefin 26."

Yn y seremoni honno bydd y cywydd yn cael ei ganu gan Sian Eirian i gyfeiliant Gwenan Gibbard.

Dyma'r cywydd:
Mae gwledd o groeso heddiw
ond croeso dan amod yw:
croeso bro sy'n mynd am bris,
croeso dan forthwyl creisis.
Wrth yr awr syrth Eryri,
wrth yr awr y'i gwerthir hi.

Ofer yw cynnal prifwyl,
ofer dal i gynnal gwyl
o gerdd a chyngerdd a ch芒n
tra'r llif yn bwyta'r llwyfan.
Ofer yw rhygnu hefyd
am hil sydd yma o hyd.

Nid un Awst yw ein hystyr
nid yw bod am ddathliad byr
yn Gymry, Cymry i'r carn,
namyn tafod mewn tafarn.
Byw brwydr bob awr ydyw
brwydr fawr ein bryd ar fyw.

Rhaid i wyl ysbrydoli
a thynhau'n gwarchodaeth ni
wrth rwymau'r oesau a aeth
yn Eryri'n harwriaeth.
Hyn yw her ein hamser ni,
hyn yw'r her yn Eryri.

Mae gwledd o groeso heddiw
ond croeso dan amod yw:
amod ein bod, bedwar ban,
yn rhwystro llifio'r llwyfan.
Da chi dewch, ac wedi'ch dod
Ewch ymaith dan eich amod.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy