|  |
 |
 |
 |
 |
 |
|
 |
Them芒u ein Ll锚n 'Beibl' i'r sawl sy'n sgwennu
Adolygiad Carys Mair Davies o Them芒u ein Ll锚n - Blas ar them芒u ein llenorion gan Emyr Llywelyn. Lolfa. 拢7.95.
Pan welais hysbyseb gan y Lolfa am y llyfr hwn roeddwn am feddu ar gopi ar unwaith a rhuthrais i'w swyddfa gan imi deimlo y buasai ei ddarllen o fudd imi oherwydd fy hoffter o ysgrifennu creadigol.
Ond yn wir, wedi'i ddarllen - nid llyfr mohono ond perlau o wybodaeth y dylasai pob awdur eu darllen!!
Mae hi'n gyfrol bwysig arall gan Emyr Llywelyn, sy'n rhoi arweiniad i waith pedwar llenor cyfoes.
Hefyd, cawn ddetholiadau cynhwysfawr dan them芒u penodol o waith llenorion o Gymru ac o wledydd tramor.
Fel yr awgryma'r teitl, mae'r llyfr yn trin a thrafod them芒u llenyddiaeth yn gyffredinol ond trwy ganolbwyntio'n arbennig ar bedwar awdur - Caryl Lewis, Mihangel Morgan, Eleri Llewelyn-Morris a Geraint Vaughan Jones.
Mae'r llyfr wedi'i rannu'n ddwy ran gyda chyfweliadau hynod o ddiddorol gyda'r pedwar awdur yn y rhan gyntaf.
Gan imi ddarllen nifer o straeon yr awduron roeddwn yn awyddus i ddarganfod sut yr aethant ati i greu'r fath gampweithiau.
Mwynhau fwyaf Er bod y pedwar cyfweliad yn ddiddorol, mae'n rhaid cyfaddef taw un Caryl Lewis a fwynheais fwyaf - o drwch y blewyn meinaf! - gan imi deimlo y gallwn uniaethu'n fwy gyda hi na'r lleill.
Yn dilyn pob cyfweliad mae detholiad o weithiau'r awduron gyda cwestiynau'n dilyn i brofi'n gallu i sylwi ar amrywiadau llenyddol a them芒u yn y darnau darllen.
Syniad defnyddiol dros ben.
Modd i fyw Yn yr ail ran mae'r pwyslais ar them芒u, techneg, naratif, plot ac adeiladwaith a chymeriadaeth ond gyda hyd yn oed yn fwy o ddetholiadau o weithiau nifer o awduron.
Cefais fodd i fyw wrth ddarllen y detholiadau gan imi hefyd ddarganfod llawer am y math o berson yr ydw i.
Cyn hyn, rwyf wedi bod yn darllen amrywiaeth o lyfrau ar ystod eang o them芒u heb sylweddoli'n iawn pa thema sydd yn fy nghyfareddu i fwyaf - os o gwbwl!!
Ond drwy ddarllen detholiadau gwrthgyferbyniol ar yr un adeg gwelaf yn glir pa them芒u sydd yn fy ysbrydoli fwyaf i ysgrifennu fy hun.
Credaf ei bod hi'n syniad gwych gan yr awdur, Emyr Llywelyn, i nodi llyfrau tebyg o ran thema o dan y detholiadau.
Gallaf ganolbwyntio bellach ar y llyfrau argymhellwyd ar gyfer fy mhersonoliaeth i.
I bob oed Mae Them芒u ein Ll锚n yn cael ei gymeradwyol ar gyfer rhai sy'n astudio Cymraeg Safon A ond fel disgybl fydd yn sefyll arholiadau TGAU eleni ac sy'n mwynhau ysgrifennu straeon byr rwy'n argymell y llyfr i ddisgyblion ysgol uwchradd o unrhyw oedran i baratoi ar gyfer arholiadau.
Haedda Them芒u ein Ll锚n bob cl么d a chanmoliaeth.
Mae'n werth ystyried yr awgrymiadau a roddwyd i'r darllenwyr gan yr awduron adnabyddus yn eu cyfweliadau - a'r tro nesaf y byddaf yn mynd ati i ysgrifennu stori fer, bydd Them芒u ein Ll锚n yn Feibl wrth fy ymyl!!!!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi Gweler Gwales
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|
|