|  |
 |
 |
 |
 |
 |
|
 |
Y Sach Winwns Nofel gyntaf Gary Slaymaker
Adolygiad Angharad Llewellyn o Y Sach Winwns gan Gary Slaymaker. Gomer. 拢6.99.
Mae Gary Slaymaker wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf ac fel y byddai unrhyw un sydd wedi gweld ei raglen deledu yn disgwyl, mae hi'n nofel ddoniol, fachog a thros-ben-llestri!
Lleolir hi mewn ardal adnabyddus iawn i'r awdur, Llanbedr Pont Steffan, neu bentref Cwmann i fod yn fanwl gywir.
Mae rheolwr y t卯m p锚l-droed, Dynamo Cwmann, yn cael ei ysbrydoli gan erthygl yn y Sunday Sport i fynd i Nigeria i ofyn am gymorth 'witch doctor'.
Dynamo yw t卯m gwaethaf y gynghrair ac mae Keith Pugh yn gobeithio y gall y dewin hwn newid y sefyllfa.
Wedi taith ddifyr, ond ofer, i Lagos, mae'r rheolwr yn dod ar draws rhywun arall a allai fod o gymorth ac yn ystod y tymor mae Mathew Yakubu yn helpu Dynamo Cwmann o un fuddugoliaeth i'r llall.
Gelynion Ond, mae'n rhaid i aelodau'r t卯m a'r 'dewin' ymrafael 芒'u gelynion pennaf - t卯m o Gaerdydd.
Stori llawn hwyl, digonedd o dynnu coes a 'one-liners'.
Mae campau hudol Mathew Yakubu ar adegau yn fwy o rwystr nag o help, yn enwedig pan gaiff drafferth i beidio 芒 llosgi'r g么l yn ulw.
Ond ar gyfer g锚m ola'r tymor, mae'n wynebu her fwy nag arfer.
Mae t卯m y Ffarmers wedi cyflogi eu harbenigwr hudol eu hunain a bydd yn rhaid i Dynamo Cwmann ddod o hyd i ysbrydoliaeth o rywle os ydyn nhw am ennill y gynghrair.
Un o uchafbwyntiau'r llyfr yw'r olygfa lle caiff y ddau ddihiryn o Gaerdydd lond pen o ofn ar 么l cael eu clymu'n noeth mewn beudy a chael dau lo yn ymosod arnynt!
Iaith liwgar Mae'n si诺r na fydd synnwyr digrifwch Gary Slaymaker yn apelio at bawb ac yn yr un modd, mae'n annhebygol y bydd yr iaith 'liwgar' yn apelio at bob darllenwr.
Wedi dweud hyn, alla i ddim dychmygu y bydd unrhyw un yn llwyddo i ddarllen y llyfr yma heb ildio i lond bol o chwerthin.
Adolygiad ar Gwales
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Gary Slaymaker

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|
|