|  |
 |
 |
 |
 |
 |
|
 |
Hiwmor Ifan Tregaron Ar gyfer codi'r bore!
Adolygiad Dylan Davies o Hiwmor Ifan Tregaron Y Lolfa. 拢3.95.
Wrth feddwl am ddigrifwyr enwog, mae sawl enw yn dod i'r meddwl yn syth; Jimmy Carr, y Gwyddel, Patrick Kielty, Dai Jones neu Dai Llanilar ac, wrth gwrs, Ifan Tregaron.
Yng nghyfres Ti'n jocan Y Lolfa mae llyfr Ifan Gruffydd yn awr wedi ei ychwanegu at lyfrau eraill gan ddigrifwyr enwog Cymru fel Lyn Ebeneser a Dai Llanilar.
O edrych ar y clawr, yr hyn sy'n ein taro'n syth yw taw clawr syml iawn sydd i'r llyfr - 'hiwmor' mewn coch ac enw Ifan Tregaron o dan y teitl a llun o'r digrifwr yn chwerthin gan ei gwneud yn amlwg mai llyfr ysgafn yw hwn.
Wrth ddarllen y rhagair gwelwn fod Ifan Tregaron yn falch iawn o fod yn Gardi.
Mae'n egluro hefyd beth yw j么c yn ei farn ef - drama fach gyda dechrau, canol a diwedd da ac yn llawn cymeriadau 'byw'.
Eto, mae'r rhagair yn rhoi rhyw fath o flas o ysgafnder y llyfr, cyn symud ymlaen.
Gosodwyd y j么cs dan benawdau yn nhrefn yr wyddor ac ar ambell i ddalen mae yna gart诺n - syniad da, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd ddim yn rhy hoff o ddarllen ac a fyddai'n cael eu temtio i roi'r llyfr o'r neilltu heb ei ddarllen o weld dim ond print.
Mae gan Ifan j么c am bron bopeth gan gynnwys anifeiliaid, organ, hanes, chwaraeon, Cymry a Saeson - hyd yn oed g诺r a gwraig.
Mae ambell i j么c yn gallu mynd o dan y croen. Mewn eraill, y tu 么l i'r digrifwch mae yna wirionedd neu neges ddifrifol.
Siomedig, fodd bynnag, yw'r enghraifft o 'sgript' Idwal yn y llyfr. Er imi ddisgwyl chwerthin cymaint y byddai nghorff yn cael dolur dim ond ambell i chwerthiniad bach fu yna!
Eto, pan welaf Ifan yn actio Idwal ar y teledu mae'n dweud y 'sgript' mor hawdd ac mor ddifrifol rwy'n dal i chwerthin wedi iddo gerdded bant o'r llwyfan.
Nid yw'n edifar gen i brynu'r llyfr yma. Yn wahanol iawn i nifer o lyfrau Cymraeg mae'n ysgafn ac yn hawdd i'w ddarllen.
Ond nid yw'n llyfr i'w ddarllen cyn mynd i'r gwely ond yn un i'w ddarllen wrth godi - fel bo gw锚n ar eich hwyneb cyn mentro allan i'r byd go iawn!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Tregaron - Lleol i Mi

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|
|