成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Fyny Lawr
Rhy drwm a than bwysau!
Adolygiad Carys Mair Davies o Fyny Lawr gan Meleri Wyn James. Gomer. 拢7.99.

Cyhoeddwyd llyfr diweddaraf Meleri Wyn James, Fyny Lawr, ar gyfer taro'r siopau llyfrau erbyn y Nadolig.

Mae 拢7.99 yn bris teg iawn am yr oriau o ddarllen a mwynhad a gefais.

Clawr y llyfr Mae'r stori'n dilyn taith bywyd y prif gymeriad, Judith, o'i gwaith i'w byd carwriaethol; o'i bywyd cymdeithasol i fyd o gyfrif calor茂au'n ddi-baid.

Datblyga edau aur y plot mewn modd gelfydd iawn gan godi cwestiynau ym meddyliau'r darllenwyr.

Er y codir cwestiynau sy'n mynd ac yn dod mae un cwestiwn sy'n poenydio'r darllenwyr gydol y nofel, Beth yw hanes gorffennol tywyll Judith?

Ac ni chawn ateb i'r cwestiwn hwn tan y munudau olaf.

Ceir cymeriadau hollol gredadwy yn y nofel.
Nid ydynt wedi cael eu rhoi ar bedestal nac ychwaith wedi'u portreadu fel arwresau ffasiynol sy'n achub y dydd.

I'r gwrthwyneb a dweud y gwir!!
Gwelir pob cymeriad 芒'i wendid ei hun, pob cymeriad 芒'i gryfder ei hun a phob cymeriad 芒'i lwyth o broblemau.

Tanseilio hyder
Er enghraifft dyna ichi Erin sy'n fam briod i efeilliaid ac yn ffigur blaenllaw a hyderus ymhlith ei ffrindiau.

Ond pan fo'i g诺r, Breian, yn dechrau gweithio oriau hir ac yn mynychu cyfarfodydd sydd ynghlwm 芒'i waith yn selog, gwelwn nad yw hi mor hyderus ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf.

Mae'n dechrau amau fod Breian yn cael aff锚r ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i achub ei phriodas.
A phan rwy'n dweud popeth - rwy'n meddwl popeth!!

Cwbl gredadwy
Mae'r cymeriadau a geir yng nghampwaith Meleri Wyn James yn gwbl gredadwy fel cymeriadau'r gymdeithas fodern yr ydym yn byw ynddi heddiw.

Buaswn yn argymell Fyny Lawr ar gyfer merched yn bennaf gyda'r stori yn troi o amgylch clwb colli pwysau.

Credaf fod y llyfr yn un gwirioneddol wych ar gyfer merched yn eu harddegau sy'n poeni am eu pwysau gan ei fod yn darlunio problemau colli gormod o bwysau yn rhy gyflym ac yn datgelu sut mae colli pwysau mewn ffordd iach.

Ac mae'r teitl, Fyny Lawr, yn adlewyrchu'n berffaith yr hyn a geir yn y stori gyda'r emosiynau'n rhemp!!

Mae'r clawr yn un apelgar ac addas hefyd.

Felly, dewch i fyny ac i lawr gyda Judith wrth iddi geisio dal y ddysgl yn wastad gyda'i theulu a cheisio cefnogi Erin, gwneud ei marc yn y byd cyfieithu a pheidio a thynnu blewyn o drwyn Lowri, ei chydweithwraig berffaith ond llym ei thafod.

Ac, wrth gwrs, gyfri'r calor茂au!!

Clamp o stori a fydd yn eich hudo o'r cychwyn cyntaf. Byddwch yn si诺r o chwerthin - a chrio - gyda nofel newydd Meleri Wyn James, sy'n ddathliad o fywyd yn ei holl gymhlethdod!!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiadau eraill Cynllun Papurau Bro

  • Clamp o Broblem

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy