成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hi Oedd fy Ffrind
Reid go arw
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Hi Oedd fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Y Lolfa. 拢7.95.


  • 'Hi Oedd fy ffrind' yw'r dilyniant hir ddisgwyliedig i 'Hi yw fy Ffrind'.

    Unwaith y sylweddolais fod Y Lolfa wedi'i chyhoeddi rhuthrais i'm siop lyfrau leol a'i bachu oddi ar y silff.

    Roeddwn braidd yn siomedig i'r nofel gymryd cyn hired i'w chyhoeddi ond, bois bach, ar 么l ei darllen nid oes dwywaith amdani iddi fod werth yr holl aros!

    Rhaid darllen y gyntaf
    Un gair o rybudd - yn fy marn i mae'n rhaid darllen Hi yw fy Ffrind cyn darllen y nofel hon gan fod cymaint o gyfeirio'n 么l at honno ac at ddigwyddiadau yn yr ysgol gynradd, yr ysgol uwchradd a gwyliau ysgol a ddigwyddodd yn y nofel gyntaf.

    Mae'n wir, na fuaswn ar goll o ddarllen y dilyniant heb fod wedi darllen y nofel gyntaf ond 'roeddwn yn falch ofnadwy imi wneud hynny gan fod hynny'n rhoi gwell syniad o bethau a mwy o arwyddoc芒d i ddigwyddiadau - heb s么n am gefndir y cymeriadau a'r rhesymau dros eu hemosiynau.

    Yn dilyn diweddglo penagored Hi yw fy Ffrind 'roeddwn ar bigau'r drain i ddarganfod beth ddigwyddai nesaf gan ddisgwyl nofel yn llawn tensiynau, drama, cariad, casineb a merched gwyllt, nwydus yn meddwi.
    Ni chefais fy siomi!

    Stori bwerus
    Diwedd y Chwedegau a dechrau'r Saithdegau yw'r cyfnod a'r testun yw corwynt bywydau dwy ferch ifanc, Non a Nia, y chwalwyd eu cyfeillgarwch ar ddiwedd y nofel gyntaf.

    Mae'r merched yn gosod eu holl deimladau gerbron y darllenwyr yn Hi Oedd fy Ffrind.

    Mae'n stori bwerus a wnaeth imi grio mewn mannau a chwerthin mewn mannau eraill.

    Mae'r plot yn un cymhleth iawn ond yn aros yng nghof y darllenydd ymhell ar 么l gorffen darllen.

    Mae'n creu cylchoedd yn y meddwl ac yn datblygu'n gyflym gan gyrraedd uchafbwyntiau chwerw.

    Ond yn anffodus, mae Hi Oedd fy Ffrind hefyd yn gorffen 芒 diweddglo yr un mor benagored a'i rhagflaenydd.

    Fy nghwestiwn mwyaf yw Beth sydd wedi digwydd i Nia? gan fawr obeithio y bydd Bethan Gwanas yn mynd ati i greu campwaith arall o drydedd nofel.

    Aberystwyth yn plesio
    Er nad yw cefndir diwedd y Chwechdegau a dechrau'r Saithdegau yn un hawdd i ferched ifainc heddiw uniaethu ag ef mae'r plot yn bendant yn darlunio bywydau i'r dim dros 254 o dudalennau.

    Cefais fodd i fyw wrth ddarllen yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o'r golygfeydd yn fy nhref i, Aberystwyth.

    Ac wrth ddarllen am Nia yn eistedd yn y Coops yn magu peint, neu'n rhedeg i lawr Gallt Penglais mewn ymgais i godi lefel ei ffitrwydd, deuai'r golygfeydd yn fyw o flaen fy llygaid.

    Bydd unrhyw un sy'n byw yn Aberystwyth a'r cyffiniau yn cytuno'n llwyr 芒 mi.

    Mwynhau hon fwy
    Cawn y stori o safbwynt Non a Nia - o gymharu 芒 Non yn unig yn Hi yw fy Ffrind - ac mae'n rhaid dweud imi fwynhau'r stori'n fwy drwy lygaid Nia oherwydd taw hi yw fy hoff gymeriad er nad hi yw'r cymeriad mwyaf egwyddorol.

    A dweud y gwir, nid oes egwyddorion yn perthyn i'w henw o gwbwl!

    Ond er nad yw y fwyaf sensitif, y fwyaf triw na'r fwyaf moesol mae yna sbarc yn perthyn iddi a'r sbarc hwn sydd yn ei gwneud yn gymeriad hoffus er gwaethaf ei holl ddrwgweithredoedd fel cysgu 芒 chariad ei ffrind gorau, fflyrtio 芒'i hathro yn y coleg, dwyn nwyddau o'i gwaith, dweud celwydd wrth y Llywodraeth er mwyn cael rhagor o arian, chwalu perthynas dau gariad a oedd wedi dywedd茂o, galw'i ffrindiau coleg yn bob enw dan haul a chysgu 芒 llwythi o ddynion eraill tra'i bod mewn perthynas . . . dim ond i enwi rhai pethau!!!

    Ond wedi pwyso a mesur - dro ar 么l tro - fe dd锚s i'r casgliad y buaswn yn hoffi cael ffrind fel Nia oherwydd ei bod hi'n gallu codi calonnau yn yr oriau tywyllaf a'i bod yn gwmpeini arbennig - jest i mi ofalu ei chadw hyd braich o'm sboner!!!!

    Rhegfeydd a rhyw
    Ni fuaswn yn argymell y nofel i rai o dan 12 oed oherwydd ei chynnwys a'i hiaith. Mae llawer o regfeydd ac fe ddisgrifir golygfeydd caru yn fanwl iawn!

    Dwi hefyd yn meddwl y caiff merched fwy o bleser o'i darllen na bechgyn o gofio taw o safbwynt menywod ifainc y cawn y stori.

    Clawr y llyfr Felly, ar fy ngwir, darllenwch Hi yw fy Ffrind a Hi Oedd fy Ffrind gan fawr obeithio bod dilyniant arall ar y gweill.

    Mae clawr y ddwy nofel yn atyniadol iawn - yn enwedig yr ail gan taw'r prom yn Aberystwyth sydd arni.

    Ond nid dan hud y cloriau y deuthum ond dan hud dawn brin Bethan Gwanas.

    Talwch eich 拢7.95 a pharatoi eich hun am reid go arw!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Diwrnod cyhoeddi'r nofel

  • Adolygiad Lowri Rees

  • Holi Bethan Gwanas


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy