|  |
 |
 |
 |
 |
 |
|
 |
Y Dylluan Wen Nofel yn gafael er gwaetha'r clawr!
Adolygiad Carys Mair Davies o Y Dylluan Wen gan Angharad Jones. Gomer. 拢6.95.
Rhaid i bawb sy'n sefyll arholiad Cymraeg iaith gyntaf TGAU siarad am lyfr mewn gr诺p a thrwy hynny y bu i mi ddarllen Y Dylluan Wen gan Angharad Jones.
I fod yn onest, nid oeddwn yn edrych ymlaen at ei ddarllen er fy mod yn mwynhau ymgolli rhwng cloriau llyfrau fel arfer.
Roedd y clawr yn awgrymu llyfr diflas gydag elfennau swreal a minnau'n tybio taw gorchwyl yn hytrach na
phleser oedd o'm blaen!
Ond am sioc a gefais!
Nid oedd y clawr yn gwneud cyfiawnder o gwbl 芒 phlot, arddull, them芒u na chymeriadau'r nofel ac fe fwynheais y stori yn ofnadwy ac ers hynny rwyf wedi'i darllen eto ac eto.
Teimlo ar goll Mae'r stori'n dilyn tylluan sydd ar daith dialedd merch o'r enw Myfi gydag ymson y dylluan fel edau yn clymu llinynnau'r stori wrth ei gilydd.
Yn fy marn i, mae'r stori'n gwella wrth fynd yn ei blaen. Yn wir, doeddwn i ddim yn or-hoff o'r agoriad oherwydd y teimlwn ar goll.
Ni wyddwn beth oedd swyddogaeth y dylluan yn y nofel na beth oedd hi'n geisio'i esbonio.
Ond yna, er mawr ryddhad, dyma ni yn y presennol a chanolbwynt y stori.
Mae Y Dylluan Wen yn glamp o stori afaelgar wedi'i llunio gan lenor sy'n sicr o'i chrefft ac yn gwybod sut mae chwarae ar y du a'r gwyn, y daioni a'r drygioni sy'n lliwio pob un o'n bywydau.
Credaf taw arwydd o gamp yr awdures yw ei gallu i gydymdeimlo 芒'r holl gymeriadau yn eu gwendidau a'u cryfderau. Gw锚l ddwy ochr pob sefyllfa sydd yn islais drwy'r nofel.
Cuddio tu 么l i fasgiau Nid oes gen i hoff gymeriad yn y nofel - a dweud y gwir, nid wyf yn hoffi llawer o'r cymeriadau o gwbl gan eu bod i gyd yn cuddio y tu 么l i fasgiau tywyll rhagrith a thwyll.
Maent i gyd wedi pechu neu wedi'u pechu a phawb yn chwilio am gyfiawnder hefyd mewn nofel dywyll sy'n delio 芒 them芒u cymhleth wedi'u trin mewn modd hynod o gelfydd.
Gan fod addasiad ffilm o Y Dylluan Wen gwyliais hwnnw ar 么l darllen y llyfr ond y nofel sy'n rhagori gan fod manylion bach - ond allweddol - wedi newid yn y ffilm.
Mae'r cysylltiad rhwng y teitl a'r ffilm wedi diflannu hefyd.
Rwy'n argymell i bawb ddarllen Y Dylluan Wen. Mae'n stori sy'n agos at yr asgwrn gyda ddarlun gwych o wahanol haenau o gymdeithas gyda'r cymeriadau yn amrywio o'r ystrydebol, fel Meri, y wraig t欧 ffyddlon, a Mrs Rowlands, y ddynes lanhau, i Myfi, y prif gymeriad unigryw.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|
|