|
Dolenni Hud Dieithrwch y cyfarwydd
Adolygiad Meg Elis o Dolenni Hud gan Owen Martell. Lluniau gan Simon Proffitt. Gomer. 拢12.99.
Casgliad o straeon wedi eu lleoli mewn ardaloedd yn America a enwyd ar ol lleoedd yng Nghymru - Llangollen, Llandaff, Cardiff, Bangor, Neath . . . gyda ffotograffau o'r gwahanol leoedd.
Troedio gwlad ddieithr, gyfarwydd
Enwau cyfarwydd yw man cychwyn y daith hon ac y mae swyn a chysur yn y cyfarwydd.
Er hynny, mae'n anodd gen i gredu mai cysuro oedd amcan Owen Martell wrth gychwyn ar y fenter hon, er bod yma ddigon o swyn hefyd, yn ei ryddiaith ef ac yn lluniau Simon Proffitt.
Mae'r annisgwyl yn llechu y tu 么l i'r naill a'r llall, er y talai i'r darllenydd eu darllen ill dau yn ystyrlon.
Craffwch ar y lluniau ac mae modd darllen a deall llawer iawn mwy na'r hyn sydd yno ar yr wyneb.
Gwnewch fwy na darllen y stori芒u tawel-feddylgar yn chwim, ac mae modd treiddio trwy haenau o ystyr.
Rhai pethau'n tarfu Wrth gwrs, bydd rhai pethau yn tarfu ar y mwynhad a geir o blymio drwy'r haenau - mae rhywun yn anorfod yn brifo'i droed neu'n crafu'r croen hyd yn oed yn y dyfroedd cliriaf.
Ac y mae'r dyfroedd weithiau yn cael eu cymylu pan dry'r ysgrifennu crefftus yn or-gymhleth, neu pan fo amser berf yn amlwg yn anghywir.
Mi geisiaf fod yn garedig a dyfalu nad yr awdur ei hun sy'n gyfrifol am y broliant, sy'n datgelu'r anallu Cymreig cyfarwydd i wahaniaethu rhwng "tirlun" a "thirwedd".
Er, wedi dweud hynny, hawdd fyddai fy nal innau i gyfrif - onid cysylltiad rhwng 'person' (unigolyn) a thirlun sydd yma mewn gwirionedd?
Tydw i ddim mor si诺r. Fel y dywedais, y mae lluniau Simon Proffitt yn datgelu mwy na'r arwynebol ac y maent yn haeddu cael eu "darllen" yn drwyadl.
Mae eu tebyg - a'u gwaeth - i'w gweld mewn orielau ac arddangosfeydd, yn enwedig y rhai hynny sy'n addoli wrth allorau 么l-ddiwydianniaeth a 'bywyd go-iawn'.
Ond oni ddaw'r adleisiau dyfnaf yn y lluniau penodol hyn o'r geiriau a'r enwau sydd ynghlwm 芒 hwy?
Cymerwch, er enghraifft, y llun "Bala Cynwyd": Ydy, mae'n gyfansoddiad crefftus, ond onid ni, sy'n gyfarwydd 芒'r Bala a Chynwyd, sydd yn ychwanegu'r dyfnder, yn gweld y tristwch a'r doniolwch?
Yn ddigon Byddai'r stori芒u ar eu pennau eu hunain yn ddigon i gynnal y gyfrol: cymorth, ychwanegiad yw'r lluniau, er mor grefftus ydynt ond o'u gosod ochr yn ochr 芒'r geiriau, mae cymharu yn anochel - a'r geiriau sy'n ennill.
Alla'i ddim cofio'r tro diwethaf i mi gael cymaint o fwynhad o ddarllen cyfrol o stori芒u byrion (o'r gorau, tydw i ddim yn un sy'n sgut amdanynt, ond mae pori trwy rai gwirioneddol dda yn amheuthun).
Stori芒u am berthyn ydynt yn anad dim, a'r ffaith eu bod wedi eu lleoli yn bennaf mewn gwlad dramor yn pwysleisio'r perthyn - a'r diffyg perthyn, yn aml.
Mae dieithrwch ac unigrwydd i'w teimlo'n gryf yn stori Y Rhwyd - Llangollen, fel P.C. Narberth/Cardiff, gyda'r olaf hon yn llwyddo'n well i awgrymu bod rhywle arall yn llechu y tu 么l i'r geiriau.
Y campweithiau Ond y campweithiau, yn ddiau, yw'r stori gyntaf a'r olaf - Yr Ymwelydd - Llandaff ac Yng Nghastell Nedd ma' Mwriad - Neath ac nid cyd-ddigwyddiad, goelia'i, yw mai yn y ddwy stori yma y mae Cymru, tarddle'r enwau lleoedd gwreiddiol, amlycaf - yn bendant felly yn y stori olaf, lle mae cyfnewid o'r diwedd rhwng dwy genhedlaeth a dwy wlad.
Dyma stori grefftus, dawel, ac annisgwyl o ddofn, sy'n glo teilwng i gyfrol feddylgar.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|